Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

NATHAN DYFED. 1813—1891. AM yspaid hanner y ganrif ddiweddaf, ni bu lenor mwy llafurus, bardd mwy hoenus, Cymro mwy adna- byddus, na dyn mwy cariadus, na'n hen gyfaill mynwesol Mr. Jonathan Reynolds, Merthyr, ond a adnabyddid yn fwy cyff- redin wrth ei enw barddol "Nathan Dyfcd." Ganwyd ef yn y flwyddyn 1813, mewn tyddyn bychan o'r enw Rhyd Wen, ar dir Ffynnon Wen, ym mhlwyf Llanwino, sir Gaerfyrddin; ar lan y Fenai, afon a abera yn y Tâf, wrth Glog y Frân, yn agos i St. Clears; rhyw naw milldir o dref henafol Caerfyrddin. Perthynai ei rieni i'r Methodistiaid Calfinaidd, ac yr oedd ei fam yn ddynes hynod o ddichlynaidd a duwiol, ac yn wyres i'r Parch. Gabriel Rhys, Rhydwilym, sir Benfro. Dysgwyd Nathan Dyfed i sillebu a darllen Cymraeg gan ei fam, ac ychydig Saesneg erbyn ei fod yn bedair blwydd o oed. Caf- odd, meddai, rai misoedd o ysgol gyda Dafydd Morgan, ac wedi hynny gyda NATHAN DYFED. James Humphreys yn Rhyd y Ceisiaid. Dyma ddywedodd wrthyf mewn llythyr am fanteision addysgawl ei ardal, pan oedd ef yn llanc ieuanc,- Yr oedd addysg yn bur isel yn fy ardal i. Y rhai oedd yn ysgolfeistriaid fyddai rhyw hen grydd, hen dailiwr, neu wehydd, er mwyn eu cadw rhag pwyso ar y plwyf, — Hew Hoor Dâr,' Siams y Book, Tifedd Gwyllt Trecastell,' Joseph Dafi Siams,' &c. Byddai plant fferm- wyr yn cerdded nos a bore bump a chwech mill- dir o ffordd i ysgol. Cefais i gryn dipyn o ysgol o fath ag ydoedd, ond ni wyddwn fod y fath beth mewn bod a Gramadeg. Ein haddysg ni oedd gotalu rhag y Welsh Not­-a'r athraw mor greulon at y plenytn a'r cetyn pren, yn enwedig plant tlodion, — How dâr you, block- head,' &c." Ymddengys bod yr awen farddonol ynddo yn bur ieuanc, a chyfansoddodd emynnau a chaneuon pan nad oedd ond wyth oed. Y wobr gyntaf enillodd mewn Eisteddfod oedd yn Llanboidy, yn y flwy- ddyn 1834. Y flwyddyn ganlynol i hyn, cawn ef wedi symud ac ymsefydlu ym Merthyr Tydfil, ac yn gweithio ei greft saer, neu yn fwy cywir saer olwynion. Enillodd ei ail wobr eisteddfodol yn Eisteddfod Llanelli yn 1835. O'r adeg hon hyd y flwyddyn 1848, bu yn ddiwyd yn barddoni, pan yr enillodd Gadair Mor- gannwg yn Eisteddfod Merthyr am awdl goffadwriaethol Taliesin ab Iolo. Yr oedd Nathan Dyfed yn meddu gwir barch i Taliesin ab Iolo, a dywedcdd wrthyf ryw dro iddo fod yn garedig iawn wrtho wedi dyfod i Ferthyr. Cefais," meddai, ganddo fagad o lyfrynach tra gwerth- fawr yn fy ngolwg,- Cardiff Castle,' Colýn Dolphyn,' Awenyddion Morgan- nwg, 'Y Iolo MSS. &c. Yr oedd Nathan wedi ymsefydlu ym Merthyr pan oedd Cymdeithas Awen- yddion Morgannwg yn flodeuog, yr hon gymdeithas fyddai yn cyfarfod ar y cyntaf yn nhy Gwilym Hywel, Yswain, ac ar ol hynny yng Ngwes- ty y Gwladgarwr, ger haearnfa y Gyf- arthfa. Perthynai i'r gymdeithas ym- hlith ei haelodau mwyaf diwyd ac awen- gar yr Hen Rhys Hywel, Rhys o Flaen Glais, Thomas Efan y Tiler, Harri o'r Garw Dyle, Gwilym Moses (Gwilym Tew Gan Tâf), Sion Gruffydd, William Wal- ter Coed y Cymer, a William Dafydd, ac amryw ereill. Symudodd y gymdeithas