Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

yddiaeth chwaethus, rhaid rhoddi lle ar- bennig i'w daid o'r Dolau Baoh Llan- geitho, ac i Ioan Mynyw o Dregaron ym- ysg y rhai a roddodd gyfarwyddyd ac ys- brydiaeth i Daniel Davies yn nechreu ei yrfa lenyddol. Ceir esboniad pellach ar amrywiaeth ei ddyddordeb a chynnydd cyflym ei wybodaeth gyrffredinol yn ei wanc personol at ddarllen popeth y gallai osod ei law amo, yn enwedig yn y "Gwy- ddoniadur," a gyhoeddid yn rhannau ym mlynyddoedd ei fachgendod, ac yn y Brython a gyhoeddid o Dremaaog yn niwedd y fiftiea, "Seren Cymru" a ddeuai o Gaerfyrddin, y Traethodydd" a'r "Drysorfa." Y mae cyfrolau cyf- lawn or cylchgronau hyn i'w gweled yn ei lyfrgell heddyw, ac wrth droi tudalen- nau y rhai hyn y hu'n bosibl i ni ddar- ganfod y cynhyrchion cyntaf o'i eiddo a ymddangosodd yn y wasg. Ni ddylid anghofio hefyd y rhan bwysig a chwareu- odd Cymdeithas Lenyddol Tregaron yn natblygiad talent Mr. Davies at ysgrif- ennu papurau i'w darllen yn gynoedüus, ac at gymeryd rhan flaenllaw yn y rhydd- ymddiddanion a ddilynai'r papurau. Byddai'n dda gennyf weled ysgrif yn y CYMRU ar Gymdeithas Lenyddol Tre- garon, canys iddi hi a'i thebyg y mae llawer o lenorion goreu'n cenedl yn ddyl- edus am hyfforddiant ymhen eu ffordd. Ces afael ymysg papurau Mr. Davies ar lyfr nodiadau neu ddau yn y rhai y gos- odai ddifyniadau o lyfrau, traddodiadau am Dregaron a'r cylch a glywai ar lafar gwlad, copiau o feddargraffiadau, englyn- ion, penhillion, dyddiadau hanes, &c. Yn y llyfrynnau hyn y ceir blaenffrwyth ei chwaeth at hanes a hynafiaeth, ynddynt hefyd y des o hyd i'r darnau barddonol cyntaf a gyfansoddodd. Gorffennaf hyn o lith gyda chrynhodeb a difyniadau o gynnwys y rhai hyn. Darn o ysgrif ar yr iaith Hymraeg geir gyntaf a draddod- wyd gan Glan Brenig (ei ffugenw cyn- taf) yng nghyfarfod blynyddol Cymdeith- as Lenyddol Tregaron a gynhaliwyd ar Nadolig 1858. Yna englyn Ioan Mynyw i Evan Evans y gof am feiddio gwrthwyn- ebu'r Gymdeithas Lenyddol, yn cael ei dilyn gan ddau englyn o ganmoliaeth David Jones Dolau Bach am ei aiddgar- wch dros lenyddiaeth. Wele y rhai hynny,— Ai dal byth mae Dolau Bach­yn heini, Er yn henwr bellach Eleni, pwy o'i lonnach Welwn ni trwy Walia'n iach ? 0 llusga mewn Uesgedd, — caed yn dirion O'i galon ymgeledd; 0 daw haint, derbynied hedd 0 wên Duw yn y diwedd. Difynnir yn nesaf nifer o benhillion Jane Hughes Pontrobert yn dwyn y ffug- enw Deborah," cesglir tameidiau hanes am Dwm Shon Cati, teulu Pantsheriff, y Shelbys, ac ereill o enwogion Tregaron a chrynhoir rhestr o bregethwyr Sasiyn- au Llangeifcho rhwng 1809 a 1820. Ond y pethau mwyaf dyddorol i'n pwrpas presennol yw y tri darn barddonol cyntaf o waith Mr. Daniel Davies geir yn y llyfryn. Cyfansoddwyd y cyntaf yn 1856, pan oedd efe yn un ar bymtheg oed, yr ail yn 1857, a'r trydydd yn 1858. Cyf- lwynir y cyntaf gan "'Glan Brenig" i Mary Morgan, merch Mr. Morgan Mor- gan ei ysgolfeistr, pan y soniodd hi am ymadael â bro ei genedigaeth, a darllena fel hyn, — Gadael gwlad fy nhadau'r ydwyf, Ei hanghofio byth na wnelwyf- Gwlad lle treuliais ddyddiau hyfryd, Dedwydd ddyddiau fy ieuenctid. Gadael gwlad, hoff wlad fy mebyd, Lle'r anadlais gj^nta'm bywyd, Lle mae'n gorwedd hoff weddillion Jane ac Anne a'm i*hiaint tirion. Gadael Dyffryn Teifi hyfryd A pherthnasa.u anwyl hefyd, Myned 'rwyf i wlad y Saeson, Gadael gwlad y Cymrodorion. Ffarwel, ffarwel, fy nghyfeillion, Ffarwel anwyl Geredigion, Gadael 'rwyf mewn dirfawr hiraeth Anwyl wlad fy ngenedigaeth. Heblaw fod yn gyfansoddiad cyntaf Mr. Davies, perthyn dyddordeb arall i'r penhillion uchod, sef eu bod yn engraifft, ac hyd y gwelsom eto, yr unig engraifft ymysg ei bapurau o farddoni ynglyn â merch ieuanc; os na wneir eithriad o rigwm wnaeth ef a'i gyfaill John Mor- gan o .Gwmafon mewn direidi pan ar eu gwyliau yn Llanwrtyd yn 1858. Wele bennill o hwnnw,- Mae bro Ceredigion yn anwyl i mi, Ei swynion sydd aml ac uchel eu bri, Er hynny morwynion gwlad Brychan a roes Fy nghalon yn glwyfus a'm meddwl tan loes. Ond gan mai bob yn ail linell y rhigym- ai'r ddau gyfaill, a hynny tan gyfaredd gwyliau yn Llanwrtyd, anodd yw tynnu