Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Galch, hyd nes y symudodd i Fangor. Bu o wasanaeth mawr i addysg y fro, ac aohosion cymdeithasol. Cyfansoddodd lawer o donau a penhillion dirwestol, a chyhoeddodd amryw hymnau, a llyfrau. Bu yn flaenor y gân am yr ysbaid y bu yn myned i Dremadog, ac yn gyfaill oalom i'r Parch. John Jones. Symudodd oddi yno wedi adeiladu capel y Garth, Porthmadog; ac yno y gwnaed ef yn flaenor, a bu yn dra defnyddiol yn ei swydd, nes iddo ymadael oddi yno i Fan- gor. Yno y cyflwynwyd iddo dysteb o ddau cant o bunnau fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth i Lenyddiaeth Gymreig. Bu farw Medi 10, 1876, yn 80 mlwydd oed. DAVIES, EDWARD, Porthmadog, 1819 —1894. Ganwyd ym Mrithdir Mawr, y Pennant, yn Eilionnydd. Dechreuodd bregethu yn lled ieuanc. Symudodd i Borthmadog oddeutu 1855 i gadw mas- naclidy. Ymaelododd yn v Garth, hyd nes ffurfiwyd eglwys y Tabernacl, yn yr hyn y bu ganddo ran flaenllaw, a bu yn dra ffyddlon a gweithgar yno, ac i'r cylch yn gyffredinol tra y bu byw. Yr cedd yn bregethwr cymeradwy, ac yn Gristion gloew. Yr cedd ei dduwioldeb ym ddiiamheuol, a'i foneddigrwydd yn nodedig trwy'r holl holl gylchoedd, a pherchid ef fel gwr Duw. Bu farw Rhagfyr 11, 1894, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Porthmadog. DAVIES, EDWARD (Iolo Meirion), 1834-1882. Saer cced wrth ei alwedig- aeth, a llenor o nod. Yr oedd yn ened- igol o Aberserw, ger Trawsfynydd. Yn 1858, ymbriododd â Miss Ellen Lloyd, merch Mr. William Lloyd, Talsarnau. Bu am gyfnod byr yn Australia. Daeth i Borthniadog tua'r flwyddyn 1871 i ddilyn ei grefft, mewn llawn egni at wahanol orchwylion. Gwnaeth lawer gyda chyfarfodydd llen- yddol a Chyfarfodydd Ysgolion Method- istiaid Dos'barth Tremadog. Llwyddodd droion i ennill gwobrau o fri mewn eis- ∥ Llenyddiaeth Cym. Ashton, y Gwyddon- iadur, &c. teddfodau, a chyhoeddodd un traethawd ar Enwogion Swydd Feirion yn llyfr swllt, wedi ei argraffu yn swyddfa'r Gol- euad, gan J. Davies, Caernarfon. Yn ol a ddeallid yr oedd yn llenor coeth, a gallai yn rhwydd fod wedi esgyn i reng flaenaf llenorion ei oes pe buasai'n meddu ar fwy o ymddiriedaeth ynddo'i hunan. Hynafiaeth a ddenodd ei sylw'n bennaf, ond erys y mwyafrif o'i waith heb weled goleuni'r dydd. Bu farw Hydref 12, 1882, yng Nghlog y Berth, Porthmadog, yn 48 mlwydd oed. DAVIES, MARY (Mair Eifion), 1846— 1882). Barddones a llenores. Merch ydoedd i Lewis a Janet Davies, Tregynter Arms, Porthmadog. Derbyniodd addysg dda, ac etifeddodd y ddawn farddonol oddiwrth ei thad, gan fod y duedd bryd- yddol yn rhedeg yn y lli.nach honno. Capten llong cedd ei thad, a bu'n dra llwyddiannus gyda'i waith; ond ym mlodau'i ddyddiau dechreuodd ei nerth ballu, a chollodd ei iechyd. Bu farw 1853, gan adael ar ei ol weddw ieuanc, gyda thyaid o blant amddifaid. Ymad- awodd o'r Tregynter Arms i fyw ar gyn- ysgaeth ei phriod mewn meillduaeth ond daeth siom a phryder i'r cartre newydd, collodd Mrs. Davies ei llong newydd tra ar ei mordaith gyntaf. Er hynny, ni welodd y teulu brinder trwy'r oll dre- ialon. Danghosodd Mair Eifion duedd at farddoni yn lled ieuaiic, a bu Emrys yn gyfarwyddwr tra fîyddlon iddi a daeth yn fuan yn gystadleuydd llwyddiannus mewn rhyddiaith a barddoniaeth yng nghyfarfodydd llenyddol y cylchoedd. Urddwyd hi ym Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1875. Cyhoeddwyd ei bardd- oniaeth dan yr enw "Blodau Eifion," dan olygiaeth Gwilym Eryri. Yr oedd lledneisrwydd ei hymarweddiad, ynghyda phurdeb a didwylledd ei chalon, yn ad- lewyrchiad cywir o'i hawen bur, yn tarddu oddiar argyhoeddiad dwfji a char- iad gwirioneddol at y pur a'r dyrohafedig. Rhed ffrwd diyloew o eneiniad crefyddol trwy ei gweithiau. A'i hawen-odlau i'w Duw anadlodd." Hunodd Hydref 8, 1882, yn 35 mlwydd oed.