Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

EMYNYDDESAU SIR DREFALDWYN. SIAX HUGHES PONTROBERT. A R ochr heulog y Berwyn bu llawer o ganu emynnau brwd. Ymysg yr emynwyr yr oedd amryw ferched. Y mae emynnau Ann Griffiths yn adnabyddus, a phob llinell ohon- ynt yn drysor cenedl. Y mae emynnau merched ffermydd ereill, er eu tynerwch a'u dwyster a'r canu fu arnynt gynt, wedi eu gollwng yn angof, er fod rhai ohonynt yn ysgrifenedig. A rhwng poblogrwydd cynhyddol emynnau merch Dolwar a'r angof sydd wedi distewi melodedd merched ereill, y mae Sian Hughes Pontrobert. Ni ddaeth yn arwres cenedl, ac eto nid yw wedi mynd i ebargofiant llwyr. Merch 1 hen forwyn Ann Griffiths ydoedd, a'i thad oedd cydymaith Ann Griffiths hyd feusydd toreithiog a swynol diwin- yddiaeth. Twt a glân oedd mam Sian Hughes, sef Ruth; nid darllen wnai hi, ond canu dysg- odd emynnau ei meistres ieuanc o Ddolwar, ac oddiar ei chof hi y cafodd Charles o'r Bala hwynt. Afrosgo ac anhaolus oedd John Hughes Pontrobert, afler ei wisg, a chras ei lais, athro Cymraeg ac efrydydd Groeg, ysgrifennydd rhyddiaith felodaidd a chlir a saerniwr emynnau defnyddiol a diawen. Meddai Sian Hughes aflerwch ei thad, a chlywais un yn dweyd iddi hi glywed Dr. Lewis Edwards yn ei cheiyddu am eistedd ar hyd set ar ei hanner orwedd. Gwelais hi gyda'i chob laes a'i het yn Sasiwn y Bala. Ni chai hi siarad uddiar esgynlawr. y pregethwyr barchai mor fawr; ond cai hithau siarad a'r tyrfaoedd a,r yr heol. Taranai yn erbyn cyfundrefn newydd y tonic sol ffa. Ystyrrid hi yn or-,geidwadol. Ond erbyn heddyw y mae prif gerddorion ein gwlad o'r un farn hi ac yn ceisio ein cael oll yn ol at yr hen nodiant. Perchid hi oherwydd ei thad ac oherwydd ei chrefydd. Yr oedd yn gyfuniad o'i thad a'i mham; meddai gryfder aflêr y r.aill a pheth o symlrwydd plentynaidd y llall. Yr oedd yn well am emyn na'i thad, y mae yn ei hemynnau hi naws melodaidd a theim- lad prydyddol. Y mae ambell darawiad a'n hadgoffa am Ann Griffiths. Dyma emyn ymddanghoscdd yn seithfed rhifyn Yr Ocs, cylchgrawn llenyddol at wasan- aeth ieuenctid, gyhoeddid yn Llanelli yn 1863. TREM AR Y GAERSALEM UCHOD. Yn nhir Beula 'rwyf fi'n rhodio, A'm spienddrych yn fy llaw Ffydd yw hwn, 'rwy'n gweld yn oleu Drwyddo i dir y bywyd draw; Gweld f'anwylyd Yn ei offeiriadol wisg. Gweld pinaclau aur y ddinas 'Rwyf fi'n awr o'r anial dir; Gweld ei phyrth glisialaidd glcew, Gweld ei brenin hawddgar pur Gweld gogoniant Duw, yn wyneb Iesu Grist. Gweld offeiriaid hawddgar Seion, Arnai'n gwenu yn ddi-bcen; Gweld y môr o wydr gloew 0 flaen gorsedd Duw a'r Oen Gweld heolydd Gwastad aur y.ddiuas fry. Gweld y nefoedd yn agored, A'r henuriaid 'ddeuîu'r fainc,— Moses, Daniel, ac Elias, Yno'n ohwaieu'r nefol gainc Plant y dag>rau Welai fry yn llon eu gwedd. Gweled Adda, Abel, Noah, Yn cyduno yn y gân, Am f od ffynnon wedi'i hagor, I'r aflana ddo dy lân; A Manasse, Yn disgleirio fel y wawr. Gweld-y palmant aur a'r grisial Yno'n cyd lewyrchu'n hardd, Gan oleuni'r Gwr fu'n chwysu Ar ei wyneb yn yr ardd 0 ogoniant! Ydyw hwn yn eiddo i mi ? Gweld athronau mawr y nefoedd Yn cyd-blygu iddo'ai un; Arglwyddiaethau y goleuni Yn ocroni Mab y dyn Dyma'm priod, Pam y byddaf mwy yn drist ? 'Rwy'n cael nerth i ymwroli Gyda Moses ar ei daith, Fel yn gweld yr anweledig, A bryniau tragwyddoldeb maith Gweled digon, Imi byth, yn nhy fy Nhad.