Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

[Mae yn fy meddiant ychydig o hanes boreuoil y Parch. James Hughes (lago Trichrug) Llun- dain, wedi ei ysgrifennu ganddo ef ei hun yn y flwyddyn 1825, pan yn 45 oed. Mae hanes ei fywyd o hynny hyd ddiwedd ei oes yn hysbys i Gymru, ar ol iddo ddechreu pregethu, a dod yn weinidog Capel Jewin, Llundain. Yr oedd hefyd yn fardd o fri. Ond ei esboniad tra rhag- orol sydd wedi gwneud ei enw yn air teuluaidd ar holi aelwydydd Cymru. Ond ychydig mewn cymhariaeth sydd yn gwybod hanes boie ei oes, a chymerais y drafferth o adysgrifio ei ysgrif, yn enwedig ar gyfer darllenwyr ieuengaf Cymru. Nant Arthur, Pont ar Fynach. BUCHEDD-DRAETH, neu ychydig c hanes genedigaeth a bywyd y Parch. James Hughes dayo Tri- chrug), a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun, yn y flwyddyn 1825, pan yn 45 oed. I. MEBYD YNG NGHYMRU. Yn Deuteronomium viii. 2, mae yr Arglwydd yn gorchymyn i feibion Israel gofio yr holl ffordd yr arweiniodd yr Ar- glwydd eu Duw hwynt ynddi, y deugain mlynedd y buont yn teithio yn yr anial- wch. Felly iawn yw i minnau yn awr, yn bump a deugain ced, adolygu fy llwybr yn y byd, a daioni Duw tuag ataf yr holl flynyddoedd a dreuliais ynddo hyd y dydd heddyw. Ac O na foliannwn yr Ar- glwydd am ei ddaioni a'i ryfeddodau i mi, y gwaelaf o feibion dynion. Fy nhad ydoedd Jenkin Hughes, neu Siencyn y Gof wrth ei enw mwyaf cyff- redin hyd y wlad, mab i Hugh Felin y Cwm, gerllaw Llanddewi Aberarth, yng Ngheredigion. Fy mam ydcedd Elen, merch i Rhys y Crydd, fel ei gelwid, o'r Pistyll Gwyn, ym mhlwyf Ciliau Aeron, Ceredigion. Fy mam ydoedd ail wraig fy nhad, a hi a fu farw pan oeddwn i ond blwydd a hanner oed. Ganwyd fi mewn lle a elwid Neuadd Ddu ar lan Aeron, ym mhlwyf Ciliau, ar y trydydd dydd o fis Gorffennaf yn y flwyddyn 1779, a chefais rywfodd fy medyddio drannceth, fel yr ymddengys wrth y llyfr gwyu" yng Nghiliau rhagddywededig. Yn fuan wedi fy ngeni, symudodd fy nhad i le a elwid Craig y Barcut, yn yr un plwyf, Ciliau; ac yno, tebygaf, y bu farw fy an- wyl fam. Cyn pen hir gwedi hynny, symudodd fy nhad eilwaith i Ie a elwid Gwrthwynt Uchaf, ym mhlwyf Trefilan, gan fy ngadael dan ofal dwy fodryb i mi, chwiorydd fy mam, y rhai oeddynt y peth a eilw y wlad yn hen ferched gweddwon. Dywedid i mi fy mod yn fachgen tlws pan oeddwn yn blentyn, ac IAGO TRICHEUG.* DANIEL Thomas.J yr oedd fy modryboedd yn hoff ac yn an- wyl iawn o hcnof. Y cof cyntaf sydd gennyf am danaf fy hun yw, bod fy mod- ryboedd yn nadu ac yn crio am danaf yn ryfeddol, ac yn crio ar fy ol, pan oedd fy nhad yn fy nghymeryd ymaith cddiwrth- ynt, ar ryw noswaith rewllyd oleu-glaer yn y gaeaf, ac fy mod yn cael llawer o hyfrydwch yn edrych ar y ser megys yn cyd-chwareu yn ddisglair yn yr awyr, wrth ddyfod trwy y lle a elwir Bwlch y Castell neu Gwrthwynt. Yn fuan wedi hyn, priododd fy nhad y drydedd waith, â gwraig weddw a chan- ddi dri o blant Yr oedd pump o honom ninnau, pedwar o'r wraig gyntaf, a min- nau o'r ail; ni chafodd fy nhad ddim plant or drydedd wraig. VA gwelwyd yn fuan nas gallai y ddwy epil gydfyw yn gysurus yn yr un nyth, gan hynny gorfu ar blant y drydedd fyned allan i weini. Er hynny nid hcllol gysurus oedd yr hen bobl, gan y byddai yr hen wraig yn ochri at ei phlant ei hun, a hynny oedd yn nat- unol iddi wneud ond mae yn debyg ei bod yn myned a phethau ymlaen yn rhy ball, heb yn wybod i fy nhad, pan elai efe cddicartref, yr hyn a barai anghydfod go flin rhyngddynt weithiau, pan ddaliai efe yr hen lances mewn rhyw ystrywiau drwg. Pa fodd bynnag, ar y cyfan, nid hen wraig o'r fath waethaf ydoedd hi tuag at fy nhad, nac ychwaith tuag at ei blant ef. Byddai fy modryb a'm chwi- orydd yn lled ddibarch o honi bi yn aml; ac yr cedd yn anodd iddi hithau ddioddef pethau felly ganddynt. Gallaf ddweyd i mi ei hamharchu lai na hwynt am fy mod yn ieuengach na hwynt, ac iddi hith- Ganwyd James Hughes wrth dioed Myn- ydd Trichrug yn 1779. bu farw yn Rotherhitìie, Llundain, Tach. 2. 1844. Gadawodd gartref am Lundain yn 1800. Yn 1810 dechreuodd bre- gethu, yn 1816 neillduwyd ef i'r weinidogaeth yn Sasiwn Llangeitho. O 1829 hyd 1835 bu'n ysgrifennu ei esboniad, a daeth "Esboniad Jàms Huws yn enwog iawn yng Nghymru. Huna yng nghladdfa BunhjiH Fields.