Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Coffheir Hestes Lynch Thrale, wedi hynny, yn fwy am ei llên na'i barddon- iaeth. Ei phrif ddarn barddonol ydoedd y "Tri Rhybudd," gyhoeddwyd yng nghyfrol Ann Williams. Darn taraw- iadol iawn yn cynnwys addysg fuddiol ar ddull dameg. Ymwelodd Dr. Johnson â Gogledd Cymru fel cydymaith Mr. a Mrs. Thrale, ac oddiyno ysgrifennodd at Boswell, clust yr hwn hoffai dynnu, ei fod wedi gweled adfail un hen gastell yng Nghymru oedd yn fwy na holl gestyll yr Alban gyda'i gilydd. Rhwng y blyn- yddoedd 1763­83, daliai Mrs. Piozzi safle uwchraddol ym myd llenyddiaeth Seisnig. Yr oedd ei phlas yn Streatham, Llundain, yn agored i lenorion ac arlun- wyr. Yn 1786 cyhoeddodd gyfrol ddi- ddorol yn dwyn y penawd, Hanesion am Dr. Samuel Johnson yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf o'i oes," ac ymhen dwy flynedd ymddangosodd ei Llythyrau at ac oddiwrth Dr. Johnson." Mewn moment arabus, traethodd y Doethawr,- Hyhi yw y ddynes flaenaf yn y byd pe medrai lywodraethu y tafod drwg yna sydd ganddi hyhi fuasai yr unig ddynes pe rheolai yr wrligwgan bychan yna." Dynes gyfoethog ydoedd, ac hynod hoff o deithio. Wedi ei thaith trwy Ffrainc, yr Almaen, ac Itali, cyhoeddodd gyfrol ddeniadol yn cynnwys sylwadau byw a chraff. Meddai bin buan. ac ysgrifennodd amryw lyfrau. y mwyaf gorchestol. hwyrach, ydoedd 01 Drem, sef adolygiad digwyddiadau a chymeriadau mwyaf am- lwg y ddeunaw canrif ddiweddaf." Nid yw y Dyddiadur gadwodd yn ystod arosiad Dr. Johnson o dan ei chronglwyd yn Ninbych yn llai diddorol na'r eiddo Johnson ei hun. Yn y Florentine Mis- cellany." 1786, y ceir y swrn mwyaf o'i gweithiau barddonol, y rhai ydynt wir- ioneddol dda. Anfarwolodd Mrs. Bowen, Ystradffin. ei hunan yn ogystal a Twm Siôn Catti, tà'i ystranciau hynod yn ei chyfrol boblogaidd. Canodd Eliza Constantia Campbell am lawer arwr Cymreig. a chymeradwy gan Thomas Campbell y bardd ydoedd ei Ystoriau ar gân o Hanes Cymru." 0 dan y ffugenw Sadie ysgrifennodd Sarah Williams lawer o farddoniaeth i'r cyfnodolion Good Words, Argosy, a Sunday Magazine. Yr oedd yn berchen awen dlysed a'r goreu ym mysg beirddesau y Saeson, fel y prawf ei thelynegion amryw- iol. Yr oedd ei darnau i blant yn hynod Twyddiannus. a phriodol y galwodd y rhai hyn yn Enfys a Gwanwyn." Ysgrifen- nodd Dr. Plumtree gofiant byr, prydferth, i Sadie, yr hwn ymddangosodd fel rhag- draith mewn cyfrol o'i gweithiau, Oriau Cyfnos." Ymhlith llawer o delynegion arddunol nodwn Mae'r haf yn dod," Omar a'r Persiad." Yr hen Seryddwr," Finette," Bywyd Deilen," ac 0 fy hen Gymraeg," fel rhai o'i phrif geinion. Dioddefodd Sadie lawer o gystudd yn amyneddgar ni chollodd ei hysbryd gwrol, gwynfydol, yn y pair. Clywir curiad ei chalon genedlgarol yn y darn olaf, rag soniedig, 0 fy hen Gymraeg." Disgrifia wely angeu ei thad yn Llundain, yr hwn ddymunai weled yr hen fryniau, clywed yr hen iaith, a chael golwg ar gartref ei faboed, Gorphwysfa." Dynered y cân ei ferch yn ei gofid,— "No, there is nothing I want, dear, You may put the candle by; There is light enough to die by And the dawning draweth nigh. Only the want remaineth, Gnawing my heart away- Oh, for a word of my mother's tongue And a prayer she used to pray 0 fy hên Gymraeg! lhe people are frozen hard here- Not you, my darling, not you !— And the air is thick with its yellow fog And the streets have slime for dew. There is never a line of beauty In all the weary rows, And the saddest thing of all is this, That the bareness no one knows They are quite contented, and think it fine. 0 fy hen Gymraeg Hush thee a moment, dearest, I liave a vision just now- The very place where we used to play On the edge of the mountain's brow And the time, one sunny morning, When a preacher came by that way, And talked to us with the gentle words That hallowed and blessed our play. O fy hen Gymraeg We gathered us round about him, And we told him our childish dreams, And I saw the light in his deep-set eyes C'orae flashing in tender gleams And we said, Are our visions folly ? Should we banish them and forget ? And he answered,— -how well I can see him now With the shade of the mountain across his brow There is never a longing the heart can know, But a blessing shall fill it yet.' Gorffwysfa 0 Gorffwysfa Gogoniant Amen."