Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

LLYFRAU A LLENORION. IOLO GOCH AC ERAILL, 1350-1450. Gan HENRY Lewis THOMAS Roberts ac IFOR = WILLIAMS. Argraffydd Evan THOMAS, Bangor. Llian 650 td. I'w gael oddiwrth Thomas Roberts, Y Coleg Normalaidd, Bangor. Pris, Deg Swllt, cludiad rhad. Onid yw'n rhyfedd lleied a wyddom am hanes ein gwlad ein hunain ? Onid yw'n rhyfedd na wyddom nemawr ddim am y gwr yr honnwn ei fod yn arwr cenedlaethol inni, Owen Glyndwr. Eto, dyna'r sefyllfa. Nid ydyw'r llyfrau a ymddangosodd hyd yn hyn i olrhain ei hanes ond megis chwarae plant. Clywn bod gan yr Athro J. E. Lloyd lyfr yn yr arfaeth, a dylai weled goleu dydd yn gynnar y flwyddyn nesaf. Clywais gnwllyn y llyfr hwnnw rai blynyddoedd yn ôl, yn y ffurf o Ford Lectures yn Rhydychen. Amlwg ydoedd na wyddai y darlithydd ond ychydig iawn am gywyddau'r cyfnod. Bydd y llyfr hwnnw, pan ymddengys, yn awr y gall gyduno gwybodaeth y llyfr presennol hwn, yn awdurdod pur derfynol ar y maes, a gellir deall safle y gŵr galluog a rhyfedd hwnnw, Owen Glyndwr, yn hanes ein gwlad. Ar ôl ymddang- osiad y cywyddau hyn, petrusaf gryn dipyn a all yr hanesydd Cymreig enwog ddal at ei haeriad y gellir trin cyfnod Owen Glyndwr rhwng cromfachau yn Hanes Cymru. Ta waeth beth a feddyliwn am Owen Glyndwr ei hun, rhaid addef, a phrofir yr addefiad gan y casgliad hwn, bod rhywbeth newydd wedi codi yn y cyfnod, rhyw ymdeimlad o weriniaeth Cymreig. Yr un teimlad, efallai, ag a ddatblyga rhyw ganrif yn ddiweddarach yn Lloegr i godi teulu'r Tuduriaid i fri. Mae'r cyfnod hwn yn hanfodol i Hanes Cymru, yn sylfaen Cymru Heddiw. Dyna'r pam y trodd Tom Ellis a'i gyfeillion at Owen Glyndwr, i'w ganoneiddio, a'i wneud yn arwr eu symudiad. Casgliad ydyw'r llyfr hwn o gywyddau Owen Glyndwr, hynny yw, casgliad o lawysgrifau llenyddol y cyfnod, ac nid ydyw'r llyfr yn cymryd arno fod yn waith haneswyr. Cynnwys y llyfr gywyddau Iolo Goch, Gruffudd Llwyd, Ieuan ap Rhydderch, Rhys Goch Eryri, Llywelyn ap y Moel, Siôn Cent, Syppyn Cyfeiliog, Iorwerth ab y Cyriog, Ieuan Waed Da. Rhyfedd ydyw nad oes un o gywyddau bardd teulu Glyndwr wedi ei gadw. Rhyfeddach fyth, efallai, ydyw'r ffaith nad oes un cywydd i Lyndwr i'w gael yn perthyn i'r cyfnod 1400--1420, er y cenir iddo cyn ac wedi hynny. O'r cywyddau hyn y rhai mwyaf diddorol ydyw eiddo Llywelyn ap y Moel, herwheliwr heb fod yn annhebyg i ffoadurion rhyfel ddiweddaf yr Iwerddon. Dengys cywyddau y gwr hwn bod ysbryd newydd yng Nghymru yn y cyfnod. Ond cyn ceisio lleoli y cywyddau, a rhoi eu lIe yn ôl y pwys- igrwydd iddynt, hoffai'r adolygydd fynd yn llawer trylwyrach trwyddynt. Mae'r rhagymadrodd yn ddiddorol a darllen- adwy odiaeth, er bod rhai pethau ynddo yn anodd eu llyncu. Amheuwn; eto rhaid wrth astudiaeth fanwl. Yn sicr, y mae'r llyfr hwn yn gystal sylfaen cofadail i Owen Glyndwr ag y gellid ei ddymuno. Erys yn awr i rywun godi'r ddelw. Yn olaf, hoffwn dynnu sylw'r cyhoedd at bris y llyfr. Y mae ei bris yn syndod o fychan. Nid oes ond pum cant o gopíau, a phan werthir yr oll, bydd y golygyddion ar eu colled. Cefnoged pob myfyriwr gwirioneddol yr ym- drech, er mwyn eu hunain, ac er symbylu gwaith gorchestol eto o'r fath. Swcrhaf unrhyw un a fynn gyfrol i ddanfon ar unwaith, canys ni fydd modd cael copi ar ôl dinaniad yr argraffiad presennol. DAFF Owen, gan LEWIS Davies. Cyhoeddwyr Htjghes a'i Fab, Wrecsam. Pris, 2/ Llian td. 140. Chwedl Antur i Fechgyn" ydyw'r llyfr hwn yn ôl disgrifiad yr awdur. Hanes bachgen yn symud o'i gartref ar farwolaeth ei fam dlawd a gweddw i weithio i un o byllau glo y Deheudir. Yno daw o dan ddylanwad hen goliar rhadlon o denor. Rhoddir cipolwg ar frwydrau cerddorol mawr corau'r Deheudir. Aiff un côr i'r America i ganu a Daff Owen gyda hwy. Erys ef yno, a cheir ei anturiaethau yno yn edrych am waith. Ceir hanes ei siwrnai ramantus tros y Rockies. Oddiyno â i'r Klondyke. Y diwedd ydyw ei briodas. Mae'r nofel yn un dda, ond teimlir yr ym- drechir gormod ynddi, ac nis gellir ei galw yn llwyddiant hollol. Nid yw yn un peth na'r Hall. Yr adran wannaf, efallai, ydyw yr adran a ddywed hanes bachgendod Daff Owen, yr adran orau honno a drin â bywyd y De. Pan yr â Daff i'r America, â i le sydd yn amlwg allan o brofiad yr awdur, a phan y cyrhaedda y Klondyke, mae mewn gwlad sydd y tu allan i amgyffred yr awdur. Mae Mr. Davies yn brysur yn troi allan nofelau ar hyn o bryd, a'r rhai hynny yn gwahaniaethu yn arw. Efallai mai gwneud arbrofion y mae. Cynghorem ef, ffordd bynnag, i roi pen ar hynny, i gymryd ryw faes, cyfnod, neu wlad i nofelu arno, ac yna bydd sail i'w nofelau. Nid ydyw'r local colour, nid ydyw'r detail cywir, yn ei nofelau, a rhaid cael y rhai hynny i wneud nofel berffaith. Y mae gan Mr. Davies allu nofelydd cryf, gresyn ydyw iddo ei lladd trwy seilio ei nofelau ar bethau nas gwyr ddim amdanynt. ABRAHAM LINCOLN. Chwaraead gan JOHN Dbinkwater. Wedi ei chyfieithu gan y Parch. J. E. DAVIES. SWYDDFA'R Brython. Pris, 2/6. Papur 74 td. Mae'r ddrama ardderchog hon yn adnabyddus i bawb. Gwyr pawb am ei chamgymeriadau hanesyddol, ond ni raid traethu yma ar wallau'r gwreiddiol, eithr trown at y cyfieithiad. Enillodd y cyfieithiad hwn y wobr gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Pontypwl, 1924. Gwn mai ail-feirniadu yr wyf, ond ni chredaf bod y cyfieithiad yn deilwng o'r wobr. Nis gwn pwy ydoedd y beirniad, ond amlwg ydyw na wyddai ddim am Gymraeg llithrig.