Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Salem GAN EINION EVANS UN o'r darluniau prydferthaf o fywyd crefyddol Cymru yw Salem darlun a beintiwyd yn agos i chwarter canrif yn ôl gan Mr. S. Curnow Vosper. Fe ledaenwyd llawer chwedl am y darlun, ac aeth amryw i gredu mai ffug ydoedd; nid edrychant arno yn bortread cywir o addoldy Cymreig. Wedi ymchwilio'n fanwl i'r amgylchiadau, gallaf sicrhau'r amheuwr ei fod yn gywir yn ci holl fanylion. Dyma'r hanes Arferai'r arlunydd, Mr. Vosper, ymweld â Llanbedr, Meirionnydd, a thra'r oedd yno, digwyddodd daro ar gapel Salem," Cefn- cymerau—capel y Bedyddwyr yng nghwm Nanteol. Chwecheiniog yr awr. Penderfynodd beintio darlun o'r tu mewn i'r addoldy, a chytunodd â nifer o'r trigolion iddynt eistedd yn y capel tra byddai ef yn peintio'r darlun. Dechreuodd ar ei waith tua chanol Mehefin, 1908, a bu wrthi yn weddol gyson hyd ddiwedd Medi. Talai chwecheiniog yr awr i'r cyfeillion am eu help—daethant yno yn eu tro am awr neu ragor. Erbyn hyn, nid oes ond dau o'r cymer- iadau'n fyw. Yr oedd un ohonynt-y bachgen bach yn y darlun—yn rhy ifanc ar y pryd i gofio dim o'r hanes yn awr, ond y mae'r llall â'i chof yn fyw iawn, ac yr wyf yn ddyledus iddi hi am lawer o'r ffeithiau. Siân Owen, Ty'n-y-fawnog, wedyn o Ffordd Groes, Llanfair, ger Harlech, ydyw'r prif gymeriad yn y llun. Bu hi farw dros 91 mlwydd oed. Aflonydd." A'i ben i lawr, dan y cloc, dyna Robert Williams, Cae'r Meddyg, blaenor yn Salem," gyda Laura Wilhams, Tv'n-y- buarth, Llanfair, yn ei ymyl. Bu Laura Williams farw ychydig fisoedd yn ôl. Owen Jones, Carleg Coch, a elwid yn gyffredin yn Owen Siôn, ydyw'r brawd â'i law dan ei ben. Mr. E. E. Lloyd Mrs. Mary Rowlands dan o'r cymeriadan fel y maent heddiw. Salem," oddi wrth y darlnn gan S. Curnow Vosper. Nid yw'r nesaf-y wraig sy'n eistedd ar ei phen ei hun yn y sedd flaenaf—yn ddarlun o neb arbennig. Bu Mary Rowlands. y cyfeirir ati ymhellach ymlaen, yn eistedd yn y fan hon am beth amser, ond doli a ddefn- yddiwyd gan amlaf. Mr. Evan Edward Lloyd, Tv'n-yr-aelgarth, Llanberis, vw'r bachgen bach. Gwelir dar- lun arall ohono ar y ddalen hon. Tybia rhai mai bachgen bach dall a cisteddodd i'r arlunydd-vn awr Parch. Evan Rowlands, Dolgellau—ond camgymeriad yw hyn. Gwir i Evan gael treial ar y dechrau, ond bu'n aflonydd, a bu rhrid i'w gefnder, Evan Edward Lloyd, gymryd ei le. Yr het a'r cap. Y nesaf i'r dde yw Mrs. Mary Rowlands, Dolgellau. Gwelir darlun Mrs. Rowlands fel y mae heddiw. Symudodd o Gefn- cymerau yn fuan wedi'r adeg hon. Ar y dde iddi gwelir William Jones (William Siôn), Carleg Coch, brawd Owen Siôn. Benthyciwyd y siôl a wisgir gan Siân Owen oddi wrth Mrs. Williams, a drigai yn Ficerdy Harlech. Gwisgai'r chwiorydd i gyd yr un het a chap—rhai mam Mary Rowlands, oedd yn wael ar y pryd, ac a fu farw'n fuan wedyn. Diddorol yw argraffiadau'r arlunydd Y mae'n bleser gennyf glywed i Salem beri llawer o ddiddordeb yng Nghymru— (Gyda chydsynied Ymddiriedoluyr Casgliad yr Arglwyddes Lever.) buaswn yn hynod o falch u roi ichwi enwau'r bobl a eisteddodd imi dynnu eu llun, ond yn anffodue, ni allaf wneud hyn y mae gennyf frith atgo am Jones, Owen, a Rowlands, a dyna i gyd. Ond y'peth a gofiaf yn iawn yw mor llednais ae mor barod i'm eynorthwyo oedd pawb, ac mor fawr oedd eu diddordeb yn nhwf y darlun. Nid oedd y bachgen yn ddall-nid oedd yn hoffi cael tynnu ei lun o gwbl, ac fe wylodd vchydig, felly gorfu imi frysio i'w orffen cyn gynted ag y medrwn. Cofiaf imi gael peth trafferth i beintio siôl y prif gympriad. Gwelais na fedrwn ei wneud oddi wrth y model byw, oherwydd y symudai'n rhy aml a sydyn. Felly gorfu imi wneud math o ddelw ohont a phinio'r siôl amdani. Gelwid y ddelw yn Leisa Jones, a rhaid oedd ei throi allan o'r capel cyn y seiat ac ar nos Sadwrn cyn y Sul. Gan fod y capel wedi ei osod ar lechwedd, nid oedd ffenestri un ochr ddim ond troedfedd yn uwch na'r ddaear. Pan oeddwn wrthi un diwrnod, gwelwn eneth fach yn hel blodau yn ymyl y ffenestr. Digwyddodd edrych i mewn i'r capel a gweld y wraig ryfedd hon gyda'i het gantal uchel, a dihangodd am oi bywyd, gan feddwl, y mae'n rhaid, mai ysbryd ydoedd. Deuai'r ddau hen wr o Lanfair, yr oeddynt yn byw mewn bwthyn gyda chwaer iddynt. Mi beintiais y tu mewn i'r bwthyn gyda'r un hen wraig ag oedd yn brif gymeriad yn Salem." Prynwyd y darlun hwn gan Mr. Arthur P. James a Mr. F. T. James o Ferthyr Tydfil, a chyflwynwyd ef i Amgueddfa Gymru yng Nghaerdydd. [7 dudalen 144.