Symud i'r prif gynnwys

MARCHOG HARDD YR ORSEDD CANTORES ENWOG A'I MAB O ACTOR RAN bod ymysg pobl," efallai mai'r Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam eleni oedd yr orau a gafwyd ers blyn- ^H^SS^-c^^ä yddoedd. Yr oedd y maes yn llawn o bobl adnabyddus a diddorol. ac fe wnaethpwyd defnydd da o'r parc ac o "bafiliwn gorffwys Y Cymro. Clywais lawer yn dweud mai prin y gwelsant erioed well llecyn i'r eisteddfod. Yr oedd y pafiliwn wedi ei godi yng nghanol parc eang, a'r parc hwnnw wedi ei gau i mewn ac yn agored i'r eisteddfodwyr yn unig. Pe buasai'n llai twym, a'r glaswellt a'r dail heb grasu cymaint yn yr haul, buasai'n lle iraidd a hyfryd. Sieflfre o Gyfarthfa UN o'r rhai cyntaf a gyfarfûm ar y maes oedd Arwyddfardd yr Orsedd, Capten Geoffrey Crawshay (Sieffre o Gyfarthfa). Synnais ei glywed yn ymgomio mor rhwydd yn Gymraeg. Ychydig flynyddoedd yn ôl, prin y gallai siarad gair, a hyd yn oed y llynedd go afrwydd oedd ei siarad, er ei fod erbyn hynny'n medru ysgrifennu Cymraeg digon da. Ond erbyn eleni gallai ddal ymgom yn rhwydd ac yn naturiol. Siefhe o Gyfarthfa ar gefn ei farch ydyw'r elfen harddaf yng ngorymdaith Gorsedd y Beirdd. Y mae ef yn credu'n gadarn yn arwyddocâd a phosibilrwydd yr orym- daith hon, ac yn dygnu arni yn amyneddgar i'w pherffeithio. Cymraeg y Llywydd FE enillodd Arglwydd Howard de Walden, llywydd yr eisteddfod, Ie cynnes yng nghalon pawb. Ef oedd yn y gadair noson perfformio'r ddrama Pobun yn y pafiliwn mawr. Siaradodd bob gair o'i araith fer yn Gymraeg. Felly hefyd Dr. Hock, yr Awstriad a gynhyrchodd y ddrama yn Wrecsam, yn yr ail berfformiad. Ymhlith pendefigion y deyrnas hon nid oes neb mwynach, neb mwy cain ac artistaidd ei natur, nag Arglwydd Howard de Walden. Fel y dywedodd yr Athro Gwynn Jones wrthyf, "Diolch mai Cymro ydyw." Y mae ef a'i deulu yn falch ac o ddifrif yngiŷn â'u gwreiddiau Cymreig. Madam Novello Davies PAN ofynnodd Mr. Lloyd George, yn ei araith ddiwrnod y cadeirio, a oedd yno rywun oedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam yn 1876, fe atebodd un gwr o'r dyrfa. Ar yr un pryd cododd Madam Clara Novello Davies, oedd ar y llwyfan y tu ôl iddo, ar ei thraed. Yr oedd hi vn yr eisteddfod honno gyda'i thad. Madam Clara Novello Davies Y gantores yw Madam Clara Novello Davies, a mam Mr. Ivor Novello, yr actor. Gwraig o Gaerdydd ydyw, a Chymraes drwyadl. Y mae llaweroedd o Gymry Caerdydd yn ei chofio hi a'i thad pan oeddynt yn aelodau yn eglwys Salem, Canton. Y mae hi'n awr yn 73 oed ac yn enwog ar ddau gyfandir. Bûm yn siarad â hi yn Wrecsam. Dywedodd ei bod bron pen- derfynu mynd i Ffair y Byd i Chicago eleni, er mwyn yr hen amser. Bu hi a'i chôr yn canu yn Ffair y Byd yn Chicago ddeugain mlynedd yn ôl. Ceisio'i pherswadio i beidio â mynd y mae ei chyfeillion, rhag iddi or-wneud ei nerth. Ond y mae madam yn llawn sbonc, ac yn ffyddiog dros ben. Y mae hi hefyd yn sôn am fynd trwy Gymru i gynnal cyngherddau i ddiddanu'r rhai di-waith. Ar ôl bod yn yr Eisteddfod Genedlaethol, bu Madam Novello Davies yn aros yng Nghorwen. Gofidiai ddeall bod llawer o hen Eisteddfodwyr yr ardal wedi marw, yn arbennig y Dr. H. E. Walker. Cyfansoddwr CAFODD Mr. W. Bradwen Jones, Caergybi, nifer fawr o longyfarch- ion ar ennill saith gwobr yn yr eisteddfod am gyfansoddiadau cerddorol. Ymysg y rhai a'i llongyfarchodd yr oedd Syr Hugh Robertson, un o brif feirniaid yr eisteddfod. Fe sgrifennodd ef Yn hwyr neu hwyrach bydd yn rhaid i Gymru eich cydnabod chi." Daw teulu Mr. Bradwen Jones o Gaer- narfon. Y mae'n wyr i'r diweddar Eos Bradwen. Dywedodd wrthyf mai ei ddysgu ei hun a wnaeth, o ran cyfansoddi. Am ddwy flynedd," meddai, bu rhaid imi seiclo deunaw milltir bob dydd er mwyn cael gwersi ar yr organ. Mi wneis hynny ar bob math o dywydd, ac nid yw'n edifar gennyf 'chwaith. Bûm yn fy hyfforddi fy hun am bedair, pump, a chwe awr bob dydd. Yr oedd yn dipyn o ymdrech weithiau, ond gweithio'n galed bob dydd yn gyson piau hi, nid yn awr ac yn y man. Dyna'r unig ffordd." Burne-Jones Y MAE pawb sy'n caru celfyddyd yn cofio eleni am ganmlwyddiant Syr Edward Burne-Jones, ac y mae ar- ddangosfa arbennig o'i waith enwog wedi ei hagor yn y Tate Gallery yn Llundain. Daeth ef â byd tlws y dychymyg a'r tylwyth teg i'w ddarluniau mewn modd a roddodd Ie arbennig iawn iddo ymhlith arlunwyr yr ynys hon. Yn Birmingham y ganed ef. Ychydig sy'n hysbys am ei hynafiaid, ond bod ei or- hendaid yn Gymro ac yn ysgolfeistr yn Hanbury, swydd Worcester. Cerfiwr a gwneuthurwr fframiau oedd ŵyr hwnnw, sef Edward Richard Jones. Priododd ef ag Elizabeth Coley, a mab iddynt hwy oedd Edward Coley Burne-Jones. Gellir darllen hanes bywyd swynol Syr Edward yn llyfr y Memorials Lady Burne-Jones, sef ei hatgofion hi o'i gŵr. "Ll.G." a'r arian papur Y MAE pob math o bobl ddiddorol yn byw yn Llandrindod. Un ohonynt yw Mrs. Charlotte Atterbury, gwraig Syr Frederick Atterbury oedd yn rheoli Swyddfa Gyhoeddiadau'r Llywodraeth adeg y rhyfel. Dyma'r stori a adroddodd hi yn ddiweddar Y Sadwrn cyn y Llun, pan ddechreuodd y rhyfel, yn 1914, daeth Syr John Bradbury