Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yx Athro T. GWYNN JONES yn myfyrio uwchben Barddoпiaeth TALDIR -ac yn cofio am ddyddiau rhamantus DAETH Fanch Jaffrennou, Taldir," yn adnabyddus yng Nghymru tua dechreu'r ganrif hon, pan ddaeth drosodd gyntaf i rai o'r Eisteddfodau. Yr oedd ef eisoes wedi dysgu Cymraeg a chyhoeddi llyfr neu ddau o ganeuon Llydaweg. Yn y dyddiau rhamantus hynny daeth ymglywed rhwng Llydaw, Cymru ac Iwerddon a daeth llenorion ieuainc o'r tair gwlad yn gyfeillion â'i gilydd. Cyfieithwyd nifer o ganeuon Taldir o'i ddau lyfr gyntaf, ac ysgrifennai yntau yn Gymraeg i rai o'r papurau a'r cyfnodolion yng Nghymru. Hyn oll, wrth gwrs, yn beth newydd iawn. Yn nhref Gaernarfon Sefydlwyd cynghrair Celtig a bu un o'r cynhadleddau cyntaf yn nhref Gaernarfon yn 1904. Ymhlith y rhai a ddaeth yno yr oedd Taldir, yn ddyn ieuanc golygus tanbaid, llawn gobaith am y dyfodol. Clywyd ef yn annerch cyfarfodydd mewn Cymraeg llithrig a daniai gynulleidfaoedd o gannoedd o bobl. Cyfarfodydd i'w cofio byth oedd y cyfar- fodydd hynny, gobaith tanbaid ieuenctid a gwres cydymdeimlad newydd, megis yn treiddio drwy ganrifoedd ac yn torri allan drachefn yn rhywbeth a allai adfer hen ogoniant a fu ryw dro yn hanes y bobl a lefarai Gelteg. Chwech yn canu Tybiaf na all fod ameu nad y darn o lenyddiaeth a ddododd ysbryd y dyddiau hynny oreu mewn geiriau oedd cerdd o eiddo Taldir, Troiad Alan ab Hoel Braz (" Taith Alan ap Hywel Fras "), cerdd yn disgrifio hen Lydawr, wedi blino ar ddaros- tyngiad éi bobl ei hun, yn mynd i chwilio am ei frodyr un fryd, ac yn cael hyd iddynt yn nhir Cernyw, Cymru, Alban, Ynys Fanaw ac Iwerddon, a'r chwech yn canu "Cân Uniad yr Hil," breuddwyd ieuenctid Cododd Taldir wasg yn Llydaw a bu am rai blynyddoedd yn cyhoeddi papur newydd (" Ar Bobl "), cylchgrawn bob mis (" Ar Fro "), a llawer o lyfrau Llydaweg. Dyfod o'r rhyfel Daeth y rhyfel mawr a gorfu iddo fynd i ymladd. Yn ystod y cyfnod trychinebus hwnnw, aeth y wasg, fel llawer peth arall, i lawr. Pan ddaeth heddwch, dychwelodd Taldir i Lydaw, a throes at ryw orchwyl arall. Er hynny, deil ei ysbryd mor Lydewig ag erioed, ac y mae ef eto'n golygu cylchgrawn, `' An Oaled (" Yr Aelwyd "), a Llydaw eto heb gennad i ddysgu ei hiaith yn yr ysgolion. 30 0 lyfrau Cyhoeddwyd rhyw ddeg ar hugain o lyfrau o'r eiddo, y rhan fwyaf o lawer ohonynt yn Llydaweg. Y diwethaf ohonynt yw deth- oliad o'i gerddi, mewn cyfres Ffrangeg ddiddorol dros ben, a chyfieithiad i'r Ffrangeg gyfarwyneb â phob cerdd. (TALDIR, Bahde Choix de Poèmes. Coll- ection publiée sous la direction littéraire de A.-M. Gossez. Paris éditions Eugène Figuière. [1933 ?] Portreiad td. 190. Pris 12 ffranc.) Ceir yma rai o bob cyfnod yn ei hanes, a dangosant ddatblygiad y meddwl ieuanc tanbaid a adnabu rhai ohonom gynt, yn nyddiau ein rhamant. Prin y gwneir cyfiawnder yn y detholiad â gwaith y cyfnod canol, pan ganai'r bardd ei brofiad fel milwr gorfod yn y barracs du a garw a'r llafur na wnâi les i neb ei oriau amheus a'i ffydd drachefn, wedi cartrefu ym mro ei dadau a chlywed llais plant o'i gwmpas. Hynt gwr hoffais Eto, ceir yma ddigon o ddeunydd i ad- nabod hynt gŵr hoffus, Llydawr trwyadl, agored i apêl bywyd ei gydwladwyr, gŵr syml, dirodres, a all fyw heb gyfoeth nac awydd amdano, heb ofn marw, cwbl fodlon, pan ddêl ei ddydd, i gymryd ei dynged yn dawel a huno ymhlith ei dadau mewn hen fynwent fach yng nghanol rhyw bentref, nid wedi ei gwthio i rywle o'r golwg fel na thorro'r olwg arni ddim ar ddigrifwch bywyd o wibio ar ôl pleser. Nid yw'r fynwent, meddai mewn un gân nad yw yn y casgliad hwn, ond y lle y bydd y rhai hynaf o'r teulu'n huno, huno, a'r lleill o un i un yn mynd yno atynt i gyd oll yn eu tro. Gofyn am y beirdd Rhed mwynder ta\fel fel hyn bellach drwy gerddi'r bardd ieuanc tanbaid gynt. Hoen gwedi drycin. Ceir dau adlais o Gymru yn y gyfrol hon- Ar c'hân a gane Maggi," atgof am gân Taldir. a ganai telynores o Gymraes yn Llanofer yn 1901, ac un arall a elwir Ar Seiz Barz (" Y Saith Fardd "). Y thema a geir yng ngherdd Ceiriog, Cj-foedion Cofiadwy," sydd yn honno. Cyferfydd y saith fardd ryw noswaith i ymddiddan ac adrodd eu cerddi. Daw curo ar y drws, a daw merch ieuanc i mewn gan ofyn am y beirdd o un i un i'w chanlyn i gastell ei thad. Cymharu dwy gerdd Ant, oll, un ohonynt Jann ar Skour- heb ei ofyn, er nad ymddengys mai drwy ei law ei hun, fel Talhaiarn, y bu farw ef. Yr olaf a adawed o'r saith Lydawr oedd Luzel ei hun. Dyma'r diwedd Ar dál yr aelicyd, Luzel ei hun Syrthio a wnaeth i ryw hanner hun. Ei frodyr ef wedi mynd bob un- Paham na chymerwyd ef ei hun? Paham na fynnai y ferch efô I'w chanlyn fel hwyíhau yn ei dro? Galwodd. Nid oedd namyn adlais gwan Yn ateb i'w alund groch yn un man. Yn ebrwydd, ergyd, un cwthum gwynt, A merch y Brenin i mewn fel cynt. Wele dy dro, Fardd Arfor," medd hi, A chastell fy nhad yn agored i ti." Yna i gusanu Luzel ei hun Nesu ato efô o'r fun. Gwared y llen rhag ei hwyneb gwyw. Arswyd! Merch Angau ei hunan yw. Diddorol yw cymharu'r ddwy gerdd. Yn y mesur hwn y mae'r gerdd Lydaweg drwyddi. Gwahaniaetha beth oddi wrth y ffurf gynaraf arni. Gwelir fod y Llydawr yn brinnach ei eiriau na'r Cymro. T.G.J.