Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

blaid, Ryddfrydol yn un agos iawn gan iddo fod yn siaradwr poblogaidd, ac yn gadeirydd i Undeb Rhyddfrydol Cymru. Ar un amgylchiad, 1921, ymladdodd yn erbyn Vernon Hartshorn am sedd i gynrychioli rhanbarth Ogwy yn Senedd Prydain. Bu farw'r gwr hwn yn Ionawr, 19 1, a gosodwyd ei weddillion i orwedd yng Nghladdfa Gyhoeddus Castell-nedd. Gwr arall yn deilwng o sylw yma oedd Philip Thomas (1862-1938). Cafodd yntau ei addysg yn Ysgol Frutanaidd Ystradgynlais, ac ymadael yn gynnar am y lofa. Trwy ddylanwad ei hen brifathro perswadiwyd ei rieni i'w ddanfon yn 61 eto i'r ysgol. Oddiyno gweithiodd i sicrhau lie fel efrydydd yng Ngholeg Normalaidd Bangor. Ar derfyn ei gwrs, dychwelodd i gadw ysgol yn gyntaf yn Aber-craf, ac wedyn yn Ynysgedwyn, Ystrad- gynlais cyn symud i wasnaethu fel prifathro yng Nghastell-nedd, rhwng yr Ysgol Frutanaidd ac Ysgol y Gnol, am ddeugain mlynedd. Ym- ddiswyddodd yn 1922 i dreulio ei egnion mewn llawer cyfeiriad. Gan ein bod yn awr yn Ystradgynlais, awn am dro i bentref bach tlws a ymguddia mewn dinodedd. Er hynny teithiwn ychydig bellter i'r gogledd ar ochr chwith i Dawe, a deuwn at Gwmgiedd ar lannau afon Giedd. Y mae iddi hithau ddwy gainc yn dwyn yr enwau, Cyw ac Iar. Saif capel Yorath yma yn addoldy a adeiladwyd i'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1804. Yn y pentref hwn y treuliodd y Parch. Thomas Levi ei ddyddiau cynnar. Wynebodd ar anogaeth ei gyd-aelodau i ymroi i'r weinidogaeth. Wedi cydsynio ohono, fe'i ceir yn fugail ar dair Eglwys, sef Capel yr Ynys, Ystradgynlais o 1885 hyd 1860, cyn myned i Philadelphia, Treforus (1860-1876) a diweddu yn y Tabernacl, Aberystwyth o 1876 hyd 1901. Cofnodwn yma i'r Parch. William Griffiths, "Gwilym ap Iieision" (1863-1923) gael ei eni mewn amaethdy o'r enw Bryn-y-groes. Bu'r un Uinach yn trigo yma am dros bedwar can mlynedd. Gwasnaethodd fel gweinidog ar Eglwys Yorath, Cwmgiedd am ddeugain mlynedd. Yr oedd yn fardd ami ei gadeiriau eisteddfodol, ac enillodd hefyd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyhoeddodd a golygodd "Cerddi'r Mynydd Du," sef casgliad o farddoniaeth yn ymwneud a'r ardal honno, yn 1913. Claddwyd ef ym mynwent Yorath, Cwmgiedd, yn 1925. Cerddor enwog a mawr ei ddylanwad oedd John Thomas Rees (1857- 1949). Wedi iddo dderbyn ychydig o ysgol elfennol yng Nghwmgiedd, aeth i'r lofa, a chrwydro am waith i Dreorci a Chwmaman, Aberdar. Yn ystod yr amser yma yr oedd ei holl fryd ar gerddoriaeth. Agorwyd llwybr iddo i efrydu dan y Dr. Joseph Parry yng Ngholeg Aberystwyth. Wedi sicrhau ei radd o Toronto, ymsefydlodd ym Mhen-y-gam, Gogledd Cere- digion gan godi corau mewn amryw ardaloedd. Daeth yn enwog i wlad gyfan fel arweinydd cymanfaoedd hyd ei farwolaeth yn 1949. Bu mewn cysylltiad agos ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru gan ennill ei Uawryfau, darparu cerddoriaeth ar ei chyfer a beimiadu yn ei gwyUau,