yn y ffasiwn venetian. Yn mae'r ddwy hen staer o ddiddordeb mawr ac yn braf i edrych arnynt a'u cerdded. Y mae tramwyfeydd (passages) y ty yn llydan a chlasdebyg, a'r tai allan yn wers fyw i'r sawl sy'n ymddidd- ori yn adeiladwaith y cyfnod. Y mae arwyddion eglur o ofal caruaidd a deallus dros bopeth sy'n aros o'r hen blasty. HEN WERNYFED Gall Brycheiniog ymffrostio mewn nifer o blastai hardd, ac ymhlith yr harddaf rhaid gosod Hen Wernyfed. Ewch heibio iddo ar eich ffordd o Dalgarth i'r Gelli. Y mae yn ymyl pentre Felindre a rhyw ddwy filltir i'r De o'r Clas-ar-wy (Glasbury). Saif ynghanol ei lawntiau eang, a sicr yw ei apel at bwy bynnag a a heibio iddo. Y mae o ddiddordeb arbennig i'r hanesydd ac i'r sawl sy'n ymhyfrydu mewn pensaerniaeth. Dyma gartref nobl dau deulu gwahanol o Williamsiaid. Yn 1600, gwerthwyd stad Gwernyfed i Syr David Williams (1536?-! 6 13), un a ddaeth i fri mawr fel bargyfreithiwr a barnwr. Bu'n atwrnai-cyffredinol, yn sersiant yn y gyfraith, yn 'recorder' Aberhonddu a Chaerfyrddin, yn aelod seneddol dros Fwrdeisdref Aberhonddu (1584-93: 1 597-1604), ac urddwyd ef yn farchog gan Iago I a'i godi'n farnwr Mainc y Brenin. Dilynwyd Syr David gan ei fab Henry, a bu yntau yn aelod seneddol dros Aberhonddu (1601-4), ac urddwyd ef yn farchog yn 1603. Yr oedd yn aelod o Gyngor y Goror yn 1617, a bu farw yn 1636. Y Syr Henry Williams yma a adeiladodd Hen Wernyfed a welwn heddiw, a hynny yn 1633. Dilynwyd Syr Henry gan ei fab o'r un enw. 'Henry Williams, Ysw. oedd yr aelod seneddol dros Frycheiniog yn 1628-9. Yn 1644 urddwyd yntau yn farchog, a dyma'r Syr Henry Williams a groesawodd Siarl I i Wernyfed ar 61 iddo golli brwydr Naseby 1645. Bu'r Syr Henry Williams hwn farw yn 1652. Tua diwedd yr ail ganrif ar bymtheg 'roedd Gwernyfed ym meddiant yr aeres, Elizabeth Williams. Priododd hi a Syr Edward Williams, un o Williamsiaid 'Tallyn' ym mhlwyf Llangasty Tal-y-llyn, a daeth llinach newydd o Williamsiaid i fyw i Gwernyfed drwy'r briodas hon. 'Roedd Syr Edward Williams yn fab i Syr Thomas Williams (1604-1712), meddyg,-meddyg i Siarl II ac i Iago II ar 61 hynny. Bu Syr Edward yn aelod seneddol dros Frycheiniog, 1697-8, a 1705-21. Bu farw yn 1721 ac fe'i claddwyd yn Y Clas-ar-Wy. Un arall o'r teulu yma a fu'n amlwg ym Mrycheiniog oedd Syr Edward Williams, y pumed barwnig a fu farw yn 1804. 'Roedd ef yn un o hyrwyddwyr brwd 'Cymdeithas Amaethyddol Brycheiniog' a sefydlwyd yn 1755, y gyntaf o'i bath ym Mhrydain. Cyd-hyrwyddwr ag ef oedd Howel Harris, a daeth y ddau i gysylltiad agos a'i gilydd. Y mae'n debygol mai drwy ddylanwad Syr Edward y cafodd Harris gapteniaeth