Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

ddiball, penodwyd ef i ddilyn yr Athro y Dr. Henry Lewis, fel Athro Cymraeg. Ymddeolodd ychydig flynyddoedd yn 61 o'r Gadair yn y coleg, ond ni pheidiodd ei brysurdeb dros bopeth Cymraeg a Chymreig. Ymhlith y llu mawr o'i weithgareddau sy'n anodd yn wir i'w rhifo, y mae'n Llywydd Cyngor Eisteddfod Genedlaethol Cymru, yn Llywydd Cymdeithas y Ddrama Gymraeg Abertawe-cymdeithas sy'n dathlu ei hanner-canmlwyddiant yn 1969 ac ef yn aelod ohoni o'r cychwyn, a Llywydd Undeb yr Annibynwyr Cymraeg 1969/70. Y mae ein dyled yn fawr i'r Cymro annwyl, athrylithgar hwn am ei gampweithiau llenyddol a'i gymwynasau mawr i'r iaith ac i'r genedl. Y mae yn 'trigo' o hyd yn Abertawe, meddai ef, ond dal i 'fyw' yn Ystradgynlais. 'Roedd ei dad yn frodor o gylch Myddfai, Sir Gaerfyrddin, a'r fam o'r Allt-wen, Cwmtawe. LLWYNBEDW, CWMGIEDD, YSTRADGYNLAIS Mewn ty bychan wrth ochr Capel Yorath, Cwmgiedd, ar 14 Tachwedd 1857, ganwyd John Thomas Rees, Mus.Bac., F.T.S.C. Ac yntau ond yn bum mlwydd oed, bu farw ei fam, a chymerwyd ef i'w fagu gan ei dad-cu a'i fam-gu ar fferm o'r enw Llwynbedw ar gwr y pentre. Y mae'r fferm heddiw yn bwysig o safbwynt amaethyddiaeth. Pan yn naw mlwydd oed, 'roedd J. T. Rees yn y lofa, yn gweithio gyda'i dad, ond cafodd gyfle cynnar i ymddiddori mewn cerddoriaeth. Mynychai ddosbarthiadau Philip Thomas ac, yn fuan, 'roedd cerddoriaeth wedi ennill ei fryd. Cyn ei fod yn ugain oed, 'roedd yn cynnal dosbarth ei hun, a llanc addawol iawn o'r enw Daniel Protheroe ymhlith ei ddisgyblion. Tua 1876, symudodd i weithio ym mhyllau Cwmaman, Aberdar, ond o weld ei gariad mawr at gerddoriaeth a'i dalent gerddorol amlwg, perswadiodd rhai cyfeillion ef i fynd am gwrs i Goleg Aberystwyth o dan ofal y Dr. Joseph Parry. Bu yn fawr ei lwyddiant, a thra yn y coleg ac ar gymeradwyaeth David Jenkins-un araJl o gerddorion gwych Brych- einiog, cynhaliodd ddosbarthiadau mewn cerddoriaeth yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd ym Mhen-y-garn. Ymlith ei ddisgyblion yno, yr oedd un o'r enw Elizabeth Davies o 'Bronceiro', Bow Street, a hi a ddaeth yn briod iddo ar 20 Mai 1881, 0 hyn ymlaen, 'Bronceiro' fu ei gartref, a daeth Cymru i'w adnabod fel J. T. Rees, Pen-y-garn, neu J. T. Rees, Bow Street. Tyfodd J. T. Rees fel cerddor yn gyflym. Sicrhaodd y radd o Mus. Bac., o Toronto, a derbyniodd, er anrhydedd, Gymrodoriaeth y Tonic Sol-ffa College. Daeth yn boblogaidd iawn fel beirniad ac yn arbennig fel arweinydd Cymanfaoedd Canu. Bu'n hyfforddi to ar 61 to o gerddorion ieuanc yn yr ysgolion yn Sir Aberteifi, ac, yn sicr, profodd ei hun yn un o'r cyfansoddwyr tonau mwyaf medrus a swynol a welodd Cymru erioed.