Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Farwnad i Mrawd Lewys: 0 ffei o'r sut! Fe allai na fu erioed amgenach Barddoniaeth yn yr Iaith: da'r haeddai yntau gael torri ei esgyrn am ei anfaddeuol ddiofalwch. A'r un modd y trinwyd Bugeilgerdd odidog Mr. Edwd Richards. Mae trefn eich Almanac yn ganmoladwy; ond mi ewyllysiwn weled eich orgraph yn gywirach, yr Iaith yn llyfnach, a mwy gofal yn niwygiad beiau'r wasg; esgusodwch fi, ni fedraf ddiodde'r bai lleiaf mewn sgrifenyddiaeth, gwedi bod yn ddarn o ddiwygiwr fy hun dros gynnifer o flynyddoedd. Mae yma ddigon o ddefnyddiau i borthi almanac dros gan mlynedd, pe caid amser i'w hysgrifennu; ond mae'r amser yn dra gwerthfawr yma, er hynny i gyd chwi gewch ran o honynt os byw fyddwyf, a byddai'n dda gennyf innau gael casgliad o'r almanaccau o'r dechreuad, ac un bob blwyddyn rhagllaw, y rhai a dalaf am danynt yn ewyllysgar. Mi ddeisyfais yr un ffafr gan Stafford Prys am almanaccau Sion Prys; ond ni thybiodd yn addas ganiattau fy nymuniad. Wala, gadewch iddo. Gwr ieuangc gwych yw eich car Ned Parri, os byw a wna fe ddaw yn wr mawr mi a'i gwarantaf; anaml y gwelir ei gyffelyb, yn enwedig o'n gwlad ni; a balch gan fy nghalon weled y cyfryw, oblegyd mae gormod o wag benbyliaid diddaioni i'n plith, y rhai ydynt yn waradwydd i wlad eu genedigaeth. Mi wyf yr eiddoch yn ddiffuant, R.M. To Mr. Wm Howel at Llanidloes, Montgomery. 396 RICHARD MORRIS TO MRS. PENNY' (draft) NAVY OFFICE, 15 June 1771. MADAM, I am infinitely obliged to you for the favor of your letter and the kind present of your Works; I feel an inward joy in possessing them; and am proud my country has produced a 1 See National Library of Wales Journal (1940), Vol. I, 162-Ed.