Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

hytrach na'i wrthwynebu a'i lesteirio. Ni wrthdystiodd ein Hawdurdodau Lleol, ein Cynghorau, a'n Cymdeithasau Lien megis ag yr hawliai eu proffes o wladgarwch,yn erbyn anwybyddu hen enwau ag ynddynt hanes yn gorfforedig, ac yn erbyn eu cyfnewid a'u camsillafu. Yn y Rhagair i'w Draethawd arobryn ar enwau lleoedd Cymraeg mewn eisteddfod yng Nghaerfyrddin ym Medi 1867 ac a gyhoeddwyd yn 1869-y cyntaf o'i fath hyd y gwyddom ni i'w gyhoeddi ar enwau Cymru-dengys Iago Emlyn y dylanwadau ag oedd ar waith y pryd hwnnw, fel ag y maent heddyw, er dinistr i hen enwau ein gwlad. Dyma a ddywed yr awdur In contemplating the transition-state of our beloved country, arising from various causes—what with the Angli- cization of the native nobility and gentry—the residence of many aristocratic families, and rich capitalists from Eng- land, with thousands of employes in their train, settled in the iron and colliery districts-the establishment of pure English schools, both National and British, besides Academies, Colleges, and private seminaries-the laudable ambition of Cambrian youth to advance their position above that of the mere monoglot, together with the adoption of English manners and customs, and last but not least, the probable fate of our venerable-but we fear- moribund language, we confess that our utilitarianism completely fails us." Iddo yntau, yn ol diweddglo ei Ragymadrodd, fel i ninnau, yr oedd rhyw bleser prudd mewn ceisio achub yr iaith a'r enwau rhag ebargofiant cwbl a liollol. Nid ar bob gorsaf rheilffordd yng Nghymru y gwelir ein henwau Cymraeg yn gwbl ddilwgr. Gwrthdystiwyd fwy nag unwaith yn erbyn y cyfryw, a llwyddwyd i'w newid er gwell. Trowyd "New Quay Road" yn "Fryn Teifi Credwn yr erys Llangonoyd "—hen ffurf y mae'n wir- am Langynwyd hyd y dydd hwn.