Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Islwyn ogoniant Duw yn Natur fel y gwnaeth y Salmydd pan ganodd "Y nefoedd sydd yn datgan gogoniant Duw." Eto ni honnir bod Islwyn wedi ffurfio unrhyw gyfundrefn athron- yddol bendant wedi ei seilio ar gymundeb neu gyfundeb Dyn a Natur. Arbrawf gan ddyn ifanc yw'r "Ystorm," wedi'r cwbl. Efallai fod y cerddi bach telynegol sydd yng nghasgliad "Cyfres y Fil" yn adlewyrchu enaid barddonol Islwyn yn gliriach ac yn decach na llawer o'r pethau yn y gyfrol fawr sy'n cynnwys "Yr Ystorm." Ac y mae'n werth sylwi ar yr ychydig linellau sy'n ymddangos dan y teitl "Ynom mae y Ser," oherwydd fe geir ynddynt un o leiaf o syniadau Islwyn am le Natur mewn barddoniaeth:- A yw'r ser uwchben Mor ddwyfol ac ardderchog ag y mynn Barddoniaeth ganu ? Onid mewnol swyn, Atgofion am ddwyfoldeb golygfeydd, A phethau yn disgleirio oil gan Dduw, Sy'n rhoddi iddynt hwy eu hysbryd-nerth A'u harucheledd ? Ynom mae y ser A phob barddoniaeth. Dyna un o'r gosodiadau mwyaf syfrdanol o ran cyflead ac arddull gan Islwyn. Tua diwedd y 19 ganrif y mae tinc newydd i'w glywed gan delynegwyr fel Eifion Wyn ac eraill. Y mae'r gelfyddyd hefyd yn dyfod yn fwy gofalus ac yn lanach. Yr oedd Eifion Wyn yn byw ar ffin y ddwy ganrif. Yn ei waith ef fe geir llawer o ganu-Natur disgrifiadol pur a syml — Wyt, Ionawr, yn oer, A'th farrug yn wyn, A pha beth a wnaethost I ddwfr y Uyn ? Y mae yn ei delynegion ddigon o ffansi, a thipyn o'r peth prinnach hwnnw-dychymyg. Fe edrychir arno weithiau fel dyn caeth i dref yn ymhyfrydu yn rhyddid y wlad. Y mae'r elfen ddynol yn ymwthio i mewn i ganu-Natur Eifion Wyn cefndir yn ami ydyw Natur i Ddyn a'i bethau, ac y mae yntau, fel llawer o feirdd o'i flaen ac ar ei 61, wedi cysylltu Natur a Serch (neu Ferch) yn agos a'i gilydd. Hefyd, fel yng ngwaith rhai beirdd o'i flaen, fe ddaw'r elfen wladgarol i'r golwg, a daear Cymru i'r darlun Cymru fach i mi, Bro y Ilus a'r llynnoedd, Corlan y mynyddoedd Hawdd ei charu hi.