Symud i'r prif gynnwys

TAD BEIRDD ERYRI: DAFYDD TOMOS (' DAFYDD DDU ERYRI') 1759-1822* gan Syr CYNAN EVANS-JONES, C.B.E., D.Litt. RHWNG Llanrug a Phentir fe gyfyd afon fechan sy'n cael y mor ym Mhorth Penrhyn, Bangor. Ei henw yw Afon Gegin. Ar ei thaith fer mae hi'n llifo trwy lawer llecyn rhamantus iawn, rhai ohonyn nhw, yn 61 traddodiad, yn gysylltiedig â'r Brenin Arthur, megis ei tharddell o Ffynnon Gegin Arthur (' Cegin' sef Trum '). Bu potelu banner canrif yn 61 ar ei dwfr rhinweddol. Lleoedd eraill yn mynd yn 61 ymhellach fyth efallai, at chwedlon- iaeth y Mabinogi, megis y chwedl honno am y ddau frawd, Gwydion a Gilfaethwy yn Llys y Brenin Math, a drowyd ganddo yn geirw gwyllt trwy ddewiniaeth, ac a ddaeth o'r coed at yr afon hon, ond odid, i dorri eu syched. Ar ddydd oer, glawog, sef 30 Mawrth 1822, yr oedd hen fardd yn cerdded adref i Lanrug o Fangor wedi bod yn ymweled a rhai o glerigwyr Hengar Môn, ac yna wedi bod yn mwynhau seiad a rhai o'i frodyr lien yn un o dafarnau'r ddinas. Ei enw oedd Dafydd Thomas, neu Dafydd Ddu, ac ef a gyfrifid yn brif fardd cadeiriol Cymru yn ei ddydd, yn bennaf awdurdod ar yr awdl a rheolau Cerdd Dafod, yn Dad Beirdd Arfon ei genhedlaeth ac yn un o'r unig dri o feirdd Gwynedd y bu'n wiw gan lolo Morganwg eu hurddo i fraint ac anrhydedd Gorsedd Beirdd Ynys Prydain, a hynny ar ben Bryn Dinorwig, 16 Hydref 1799. Yr oedd yr hen fardd hwn yn dipyn o gerddwr hyd yn oed pan fyddai'n cario llwyth! Dyma a sgrifennodd o mewn llythyr at ei Darlith a draddodwyd ddydd Iau, 7 Awst 1969, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn y Fflint Cadeirydd: Syr Ben Bowen Thomas, M.A., LL.D., Llywydd y Gymdeithas. Bu Cynan farw yn niwedd Ionawr 1970. Ni chafodd gyfle i ddarllen proflenni'r ddarlith hon. Nid anghofia neb a oedd yn y cyfarfod am feistrolaeth gyflawn y darlithydd ar ei destun, a'i ddawn ddewinol i'w gyflwyno. Braint, er ei thristed, yw cael cyhoeddi'r ddarlith yn y Trafodion.