Symud i'r prif gynnwys

LEWYS GLYN COTHI, CLERWR DYFFRYN TYWI* gan yr Athro Dafydd Johnston Mae'n weddus iawn ein bod ni'n coffau'r bardd Lewys Glyn Cothi yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr, oherwydd yma ger Llandeilo Fawr rydym yng nghanol ei gynefin. Dengys ei gyfenw ei fod yn hanu o fforest frenhinol Glyn Cothi ar Fynydd Llanybydder (cofier fod Glyn Cothi yn ardal wahanol i gwm Afon Cothi, er yn gyfagos). Mae traddodiad, dilys efallai, mai Pwllcynbyd, un o'r pedwar rhandir yn y fforest honno, oedd ei gartref. Ni wyddom ond y nesaf peth i ddim am hanes personol Lewys, ond mae yna dystiolaeth iddo gael addysg yn eglwys Abergwili. Mae'i gerddi'n dangos iddo ddysgu peth Lladin, ac mae'n debyg mai yn y fan honno y dysgodd grefft yr ysgrifydd. Yn 61 Dr John Davies, Mallwyd, yn Abergwili y claddwyd ef hynny, mae'n debyg, tua 1490.1 Yn sicr, roedd y dynfa i lawr o'r mynydd i dir bras y dyffryn yn un gref iawn i'r clerwr a ddibynnai ar nawdd uchelwyr. Gellid tynnu llun o fro Lewys Glyn Cothi ar ffurf triongl, gyda'i frig tua Llanybydder a'i waelod ar hyd Dyffryn Tywi rhwng Caerfyrddin a Llanymddyfri. Mae enwau plastai, plwyfi a chymydau'r fro honno yn canu fel clychau yn ei waith, Rhydodyn, Lan-lais, Abermarlais, Bryn-y-beirdd yma ger Llandeilo, Llangathen, Llanegwad, Caeo, Mabedrud, Catheiniog, ac Is Cennen i'r de o'r afon. Llandeilo oedd canolbwynt y fro, ac yma hefyd roedd cartref ei brif noddwyr, Gruffudd ap Nicolas a'i deulu, deiliaid castell a bwrdeistref Dinefwr a theulu mwyaf pwerus Dyffryn Tywi yn y bymthegfed ganrif. Arwydd herodrol teulu Gruffudd ap Nicolas oedd y fran sy'n arwyddlun yr Eisteddfod hon roedd tair ohonynt ar eu harfbais, a hynny oherwydd eu bod yn honni disgyn o Urien Rheged o'r Hen Ogledd yn 61 yn y chweched ganrif (y brain a welir gydag Owain ab Urien yn y chwedl Breuddwyd Rhonabwy). Gyda Haw, ni wn am unrhyw sail i'r honiad yn Rhaglen yr Eisteddfod mai arwydd yr Arglwydd Rhys o Ddeheubarth, yr un a gododd gastell Dinefwr, oedd y fran. Wrth gwrs, mae'r ddau yna, yr Arglwydd Rhys a Gruffudd ap Nicolas, yn bwysig iawn yn hanes yr eisteddfod, Rhys fel noddwr yr eisteddfod gyntaf y gwyddom amdani, yn Aberteifi yn 1176, a Gruffudd fel noddwr yr un a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin tua 1451. Mae'n dra phosibl fod Gruffudd yn Darlith a drafodwyd yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol, Bro Dinefwr, 1996. Cadeirydd: Dr Prys Morgan. 1 Trafodir yr hyn sy'n hysbys am fywyd y bardd yn Dafydd Johnston (gol.), Gwaith Lewys Glyn Cothi (Caerdydd, 1995), xxii-xxvii. Hwnnw yw'r casgliad safonol o waith y bardd, a chyfeirir ato o hyn ymlaen fel GLCC.