Symud i'r prif gynnwys

'Eneiniad Ann a John': Ann Griffiths, John Hughes a Seiat Pontrobert* gan E. Wyn James, PhD Yr wyf yn ei chyfri hi'n fraint fawr gael traddodi Darlith Syr T. H. Parry- Williams i Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion heddiw ar gaeau Mathrafal, o fewn tafliad carreg, bron, i gartref Ann Griffiths yr emynyddes. Mae'n fraint ddwbl, mewn ffordd, gan imi gael yr anrhydedd o draddodi Darlith Goffa Amy Parry-Williams i Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru yn Eisteddfod Genedlaethol Nedd a'r Cyffiniau yn 1994. Deuthum i adnabod y Fonesig Parry-Williams yn ystod yr 1980au yng nghyd-destun gweithgareddau'r Gymdeithas Alawon Gwerin. Ond, er imi ei weld droeon o bell, a gwirioni ar ei farddoniaeth, unwaith yn unig y cefais y pleser o gyfarfod a Syr Thomas yn y cnawd, a hynny yn nechrau'r 1970au, pan oeddwn yn fyfyriwr israddedig yn astudio'r Gymraeg yn hen Adran Syr Thomas yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth. I gyd-fyfyriwr i mi, fy nghyfaill John Emyr sydd bellach yn Olygydd y Cofnod yn y Cynulliad Cenedlaethol y mae'r diolch ein bod wedi cyfarfod. Roedd John yn olygydd y pryd hwnnw hefyd, yn olygydd Y Ddraig, cylchgrawn blynyddol myfyrwyr Aberystwyth. Penderfynodd y byddai'n dipyn o sgwp gael cyfraniad i'r cylch- grawn gan Syr Thomas, a oedd yn ei wythdegau erbyn hynny, ac ysgrifennodd ato yn gofyn a fyddai'n barod i gyfrannu. Cafodd lythyr yn ei wahodd i gartref Syr Thomas i drafod y mater. Cofiaf ef yn dod yn gyffro i gyd, a'r llythyr yn ei law, i'm hystafell yn Neuadd Ceredigion (y neuadd breswyl Gymraeg i fechgyn yn Aberystwyth cyn dyddiau Neuadd Pantycelyn). Ac yn rhannol er mwyn rhoi cyfle i mi hefyd gyfarfod a Syr Thomas, ac yn rhannol (rwy'n credu) er mwyn cael rhywun i helpu cynnal breichiau'r golygydd, cefais innau fynd gyda John i'w weld. Dyma ni, felly, yn ddau fyfyriwr ifanc, dibrofiad yn ei mentro hi i Ffordd y Gogledd yn Aberystwyth i weld y gwr mawr ei hun, a churo braidd yn betrus ar ddrws 'Wern'. Nid oedd angen bod yn betrus o gwbl, mewn gwirionedd, oher- wydd cawsom groeso hyfryd o gartrefol gan Syr Thomas a Ledi Amy, a mynd oddi yno ag addewid am ysgrif, pe deuai hi. Ac fe ddaeth. Ei theitl yw 'Cyffes', yr ysgrif olaf ond un iddo ei llunio, efallai. Gellir ei gweld yn y gyfrol, Casgliad o Ysgrifau T. H. Parry-Williams, a olygodd Amy Parry-Williams yn 1984.1 Darlith Syr T. H. Parry-Williams, a draddodwyd ar faes Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau, ddydd Llun, 4 Awst 2003. Yn y gadair: Yr Athro Sioned Davies. Yr ysgrif olaf yn y casgliad o ysgrifau T. H. Parry-Williams a olygodd Amy Parry-Williams yn 1984 yw 'Mynwenta', a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn y cylchgrawn Taliesin, cyfrol 22