Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Bwytawyr Bacteria O. E. ROBERTS Tyf bacteria dros wyneb y plat. Toddwyd hwy lle yr ymddengys y placiau (du yn y llun). Maint naturiol. Er mor fychan yw'r mwyafrif o'r bactería-25,000 ohonynt, ar gyfartaledd, ochr yn ochr yn cyrraedd ar draws dimai-y mae modd eu magu yn y labordy ar gyfryngau arbennig. Un o'r rhain yw agar maethlon, y gellir ei dywallt i ddysgl fechan wydr neu blastig, a thyf y bacteria ar wyneb y jelly yno. Pan fo'r amgylchedd yn ffafriol, y bwyd ar eu cyfer yn faethlon a'r dymheredd yn briodol, gall pob bacteriwm ymrannu'n ddau ymhen rhyw ugain munud, a dyna bedwar ar derfyn yr ugain munud nesaf, ac felly ymlaen. Ymhen ychydig oriau bydd cymaint o facteria wedi atgynhyrchu nes ym- ddangos bellach fel ysmotyn bychan gweledig â'r llygad noeth, ac wedi cadw'r ddysgl yn y deorydd dros nos bydd bryncyn bychan i'w weld, yn cynnwys miliynau lawer o feicrobau. Dyna 'drefedigaeth' o facteria, ac ymylon y bryn fel rheol yn hollol grwn. Mewn gwaith beunyddiol mewn labordy bacter- ioleg deuwn yn awr ac yn y man ar draws bwlch ar odre rhai o'r trefedigaethau, fel pe bai rhywbeth wedi cymryd tamaid o'r bryn bychan. Ymddengys na chymerodd neb fawr o sylw o hyn yn y gorffennol nes i F. W. Twort, pennaeth Sefydliad Brown ac Athro Bacterioleg ym Mhrifysgol Llundain, gyhoeddi'r disgrifiad cyntaf yn 1915, yn dweud iddo ganfod rhannau tryloyw ymysg ei drefedig- aethau ac nad oedd dim bacteria o gwbl yn un o'r mannau gwag hynny (a elwir bellach yn 'plac'). Canfu Twort ymhellach fod modd trosglwyddo'r cyfnewidiad hwn i drefedigaethau eraill o'r un rhywogaeth o feicrob trwy gyffwrdd gwifren â chanol plac ar un ddysgl a throsglwyddo defnydd oddi yno i'w roi i gyffwrdd trefedigaethau ieuainc mewn dysgl arall. Cyn bo hir âi'r rheini'n raddol dryloyw a lledaenai'r plac trwy'r holl drefedigaeth nes ei thoddi. Credodd iddo brofi bodolaeth afiechyd heintus a ymosodai ar facteria, tebyg i'r heintiau a ymesyd ar bob math arall o fywyd. O fagu bacteria a heintiwyd mewn potes a hidlo hwnnw fel nad arhosai'r un ohonynt yn weddill, parhai'r gallu yn yr hidliad i beri haint ar facteria.