Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cerrig Llwydion Carn Meini O. T. JONES YN y flwyddyn 1908 yr oeddwn i yn un o aelodau yr Arolwg Ddaearegol yn archwilio i'r tir glo a'i gyffiniau yn Sir Benfro. Yn ystod ein gwaith yr oeddem yn arfer nodi y cerrig estron oedd i'w cael mewn mannau ar wyneb y tir. Y dyb oedd eu bod wedi eu cludo i'r fan gan yr iâ yng nghyfnod yr Iâ Mawr. Yn eu plith yr oedd un nodedig, sef carreg Iwyd a nifer o frychau gwynion arni. Gan fod mynydd Preseli i'w weld yn amlwg o wahanol fannau yng ngwaelod Sir Benfro, ac yn ôl yr hen fapiau daearegol yr oedd yn bosibl mai oddi yno y daeth y rhan fwyaf o'r cerrig llwydion. Felly, un dydd Sadwrn fe ymwelodd parti )honom â'r mynydd. Yn y cwmni yr oedd Dr. H. H. Thomas, T. C. Cantrill, E. Dixon, a ninnau, o staff yr Arolwg, a'r ysgolfeistr D. C. Evans o St. Clears, a oedd yn wybodus iawn am ddaeareg y sir. Aethom gyda'r trên o Glynderwen i Rosebush ac oddi yno at y man uchaf ar y mynydd, sef Moel Cwm Cerwyn (1,768 troedfedd). O'r Foel cerddasom ar hyd crib y mynydd heibio Moel Feddau a Charn Bicca i Garn Breseb, ond er fod digon o gerrig llwydion i'w cael ar hyd y lle nid oedd y garreg lwyd frycheulyd i'w gweld yn unman. Yng Ngharn Breseb mae crib y mynydd yn troi tua'r de i gyfeiriad Carn Meini a phan gyrhaeddasom y fan hynny dyna lle'r oedd digon ohonynt i adeiladu tref, ac nid oedd unrhyw ddadl mai o'r fan hynny y cludwyd y cerrig gan yr iâ tua gwaelod y sir. Ar gopa'r mynydd mae y garreg i'w gweld fel petai yn tyfu yn golofnau hir o'r ddaear ac o amgylch y fan y mae miloedd o flociau