Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Yr Athro Emeritus 0. T. Jones Ym mis Mai bu farw Dr. Owen Thomas Jones, F.R.S., yn 89 oed. Ychydig iawn o sylw a gafodd ei farwolaeth yn y Wasg yng Nghymru ar wahân i erthygl werthfawr Dr. Iorwerth Peate yn Y Faner. Nid yw hyn yn beth newydd yn ein hanes fel cenedl -mae ennill cadair neu goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn sicrhau mwy o sylw o lawer na llwyddo i fod yn Gymrawd o'r Gymdeithas Fren- hinol a gwneud gwaith ymchwil a gaiff ystyriaeth gan wyddonwyr byd-eang. Ganwyd O. T. Jones ym Mlaenffynnon, tyddyn yn ymyl y ffordd rhwng Castell Newydd Emlyn a Beulah. Cafodd ei addysg yn ysgol elfennol Drewen ac ysgol ramadeg Pencader. Oddi yno aeth i Goleg Aberystwyth, lle graddiodd mewn ffiseg. Aeth ef a dau gyfaill iddo, T. Campbell Jones a H. O. Jones, ymlaen i Gaergrawnt, y ddau olaf i astudio cemeg. Trwy ryw ffawd, dewisodd O. T. Jones astudio daeareg fel pwnc gyda ffiseg, ac yn fuan aeth yr 1878-1967 astudiaeth â'i holl fryd. O'r tri chyfaill cafodd dau ohonynt Gymrodoriaeth y Gymdeithas Frenhinol, a bu y trydydd, Dr. T. Campbell James, yn Athro Cemeg yn Aberystwyth am flynyddoedd. Bu O. T. Jones yn Athro yno 0 1910 i 1919, a daeth ei waith ar ddaeareg Cymru ag ef i sylw: dewiswyd ef yn Athro Daeareg ym Manceinion yn 1919, a bu yno tan 1930 pan wahoddwyd ef yn ôl i Gaergrawnt i lanw'r Gadair Woodwardian mewn Daeareg. Bu yno nes iddo ymddeol ar ôl diwedd y rhyfel. Daeth yn un o brif ddaearegwyr y byd: enillodd fedalau Lyell a Wollaston a medal frenhinol y Gymdeithas Frenhinol, a bu am flynyddoedd yn un o is-lywyddion y Gymdeithas honno. Treuliai y rhan fwyaf o'i wyliau ym mro ei enedigaeth, ac ar ôl ymddeol bu'n gwneud gwaith ymchwil i geisio profi damcaniaeth oedd ganddo ynglyn â sut y ffurfiwyd yr holl hafnau sydd yng nghwrs yr afon Teifi rhwng Llanybydder a'r môr, rhywbeth sy'n nodweddiadol o'r afon Teifi yn unig. Credaf fod myfyrwyr o Brifysgol Caergrawnt yn gweithio ar yr ymchwil ar hyn o bryd. Wrth grwydro'r wlad hefyd y daeth ar draws y cerrig gleision hynny sy'n awr yn byst ietau yn ardal Aberteifi-y cerrig y soniodd amdanynt yn ei erthygl ddiddorol yn Y GWYDDONYDD mis Rhagfyr diwethaf. 'Roedd yn amhosibl credu ei fod ymhell dros ei 80 oed, gan mor fywiog a grymus oedd ei feddwl. Hoffai sgwrsio â ffermwyr cyffiniau Castell Newydd Emlyn teimlai ddiddordeb arben- nig yn enwau lleoedd ac enwau caeau ac ym mywyd y wlad. Nid gwyddonydd cul mohono ond cwmnïwr diddan, diymhongar, Cymro na chollodd ei Gymreictod er treulio llawer o'i amser yng nghwmni gwyddonwyr mwya'r byd. W. MATTHEW WILLIAMS.