Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Gwyddonwyr o Gymry MAE Cymru, gwlad y mynyddoedd, y dyffrynnoedd a'r creigiau wedi cael ei chyfaddasu gan natur i fod yn fath o brifysgol neu amgueddfa ddaearegol. Cawn enwau'n gysylltiedig â Chymru ar greigiau hynaf y byd, sef y Cambriaidd (a'r Cyn- Gambriaidd), yr Ordoficaidd a'r Siluraidd. Didd- orol ac hiraethus i mi pan yn teithio tua 16,000 milltir yn Rwsia yn 1956 oedd gweld a chlywed yr enwau hyn yn cael eu defnyddio gan y Rwsiaid. Nid syndod felly yw gwybod fod nifer o Gymry wedi gwneud gwaith campus ym myd daeareg a mineroleg, e.e. McKenny Hughes, mab i Joshua Hughes a fu'n Esgob Llanelwy ar ôl symud o Aberystwyth; William Miller o Felindre, Llan- ymddyfri, tad Crisialeg modern, a Syr William David o Sain Ffagan, y tri yn F.R.S. Ond canol- bwyntiaf yma ar waith Owen Thomas Jones, F.R.S., y daearegwr byd enwog. I helpu'r darllenydd nad yw'n gyfarwydd â thermau a manylion daearegol ac i roi cefndir i'r erthygl hon, rwyf wedi paratoi taflen yn gosod allan yn arwynebol gyfnodau ac oesoedd y creigiau, eu hoedran bras-gywir a'r prif nodweddion yn gysylltiedig â nhw. Mae'n hanes rhamantus iawn. Ganwyd O. T. Jones Ebrill 16, 1878 ym Mhlas- newydd, Beulah, ger Castell Newydd Emlyn yn Sir Aberteifi. Fe oedd unig fab David Jones a Margaret Thomas. Aeth y teulu i fyw nes ymlaen ym Mlaen-ffynnon, fferm fach ar ymyl y ffordd yn yr un ardal. Treuliodd O. T. Jones blentyndod unig Owen Thomas Jones, F.R.S. W. IDRIS JONES ond trwy ei fywyd daliodd ddiddordeb mawr yng nghefn gwlad a chadwodd serch dwfn tuag at Gymru. Aeth i'r Ysgol Brydeinig yn Nhrewen, ger Castell Newydd Emlyn, ac yno y bu nes oedd yn 15 oed. Yn ystod y tymor hwn daeth dan ddylanwad Dr. D. S. Davies a fu yn Swyddog lechyd ym Mryste cyn ymddeol i ardal Castell Newydd Emlyn. Anogodd O. T. Jones i ddysgu Saesneg a Ffrangeg cyn mynd i Ysgol Ramadegol Pencader yn 1893. Hyd yn hyn siaradai O. T. Jones Gymraeg yn unig a thrwy ei fywyd siaradai ac ysgrifennai Gymraeg gyda'r un hwylustod. Yn Ysgo1 Pencader enillodd ddosbarth cyntaf yn arholiad y College of Preceptors yn 1894 ac yn y Matric yn 1895. Yn 1896 aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth, lle'r enillodd yr Ysgoloriaeth Keeling (Gwyddorau Naturiol). Enillodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn Ffiseg yn 1900 ar ô1 cymryd cyrsiau ychwanegol mewn Mathemateg, Cemeg, Botaneg a Swoleg. Does dim tystiolaeth ei fod wedi ym- ddiddori mewn Daeareg yn Aberystwyth. A wedyn, fel ei gyfoeswyr y cemegwyr Humphrey Owen Jones a Campbell James, aeth o Aber- ystwyth i Goleg y Drindod, Caergrawnt, lle'r enillodd ysgoloriaeth. Yn 1902 cymrodd ddosbarth cyntaf yn y rhan gyntaf o'r Tripos, mewn Ffiseg, Cemeg, Mineroleg a Daeareg ac enillodd y Wobr Wiltshire mewn Daeareg a Mineroleg. Aeth