YR HYFFORDDWR. Cyf I. IONAWR, 1852. Rhif. 1. ANERCHIAD Y GrOLYGYDD AT EI DDARLLENYDDION. Wel, Ddarllenyddion hynaws, dyma y Rhifyn cyntaf o'r Htfforddwb ger eich bron. Dicbon y bydd mwy o lygadu, troi a throsi, lladd a chanmol, a beirniadu, ar hwn nag ar ei olynyddion. Pafodd yr ymdery â thân eich beirniadaethau, a pha fodd y bydd yn dygymod â'ch amrywiol chwaethau, nis gwyddom ar hyn o bryd—yr Htffoeddwb, y sydd yn gwybod hyn, yr hyn hefyd a ddysgwyliwn iddo ein ysbysu yn ol llaw. Pell ydym o feddwl iddo allu boddio pawb yn mhob peth. Grwyddem, yn nghychwyniad yr anturiaeth newydd hon, nad oeddym yn ddigonol mewn galluogrwydd i gyflawni hynogamp; eto credwn y bydd i ni lwyddo yn awr a phryd arall yn y naill neu y llall o Bifynau yr Htff- orddwr. Nid yw un Ehifyn o Gtyhoeddiad Misoí yn àdi- gonol o safon prawf—rhaid i amser esgor ar amryw Rifynau, cçn y dichon i neb brofi ei egwyddor, na barnu ei wir deííyng- dod; canys dichon i chwaeth y naill ddosbarth o honoch gàel ei foddio mewn un ysgrif ynddo, a'r llall ei anfoddio gan yr unrhyw ; a dosbarth arall gael anfoddâd mewn rhyw ysgirif wahanol, tra bydd y llall drachefn yn derbyn boddâd mawr oddwrthi. Neu, efallai, y bydd i'r naill Rifyn fod yn anner- byniol oll gan y naill opiniwn, eithr yn llwyr dderbyniol gan opiniwn arall. Os fel yna y dygwydd fod gyda'r Htffoedd- we, ni bydd yn waeth ac ni bydd yn well nâ'n rhagolygiad; canys gwyddom yn dda fod cynifeied o wahanol farnau yn y byd, ag y sydd o bersonau yn byw ynddo ; felly ynfyd- rwydd ynom feiddio hóni boààiopaiob yn mhobpeth. Ý mae yn rhydd i bawb ei farn—yn hyn y mae pawb yn annibynol— pob dyn yn rbydd-ewyllysydd i farnu ac i gredu neu i an- nghredu y peth a ddewisio, heb fod yn gsfrifol i ddyn arall am hyny. Yr ydym yn cydnabod hefyd nad oes gan unrhyw benogaeth ddynol un math o hawl i wobrwyo na chosbi neb o ddeiliaid cyfraith rh\ ddid bara, er i raipenogaethau awdurdodi yn hyn—dylai y cyfryw wybod a chofio nad yw awdurdodyu.