Ovf. T. MAWIITH, 1852. Rhif3. DAGON. "Nhad," ebai William bach, "beth ydi y Dagon hwnw mae Richard Jones yn son am dano bob amser, pan yn pregethu r" Dyna ofyniad eithaf priodol, ysywaeth, i lawer William fawr eto, yn nghymydogaeth y pregethu ! Mae gof- yniad William bach yn awgrymu iddo ddysgwyl gwybod gan y prej;ethwr Eichard Jones, yr hyn a ddeisyfa gan ei dad, ond yn gwbl ofer. Eel yna mae llawer eto yn arfer haner dysgu eu gwrandawwyr yn y dyddiau hyn! Grwelwn yn ngofyniad y William bach hwn i'w dad, fod llawer mwy o feddwl yn y gwrandawydd ieuauc, nag oedd yn Eichard Jones fel dysgawdwr mawr. T mae pob dyn o feddwl yn union fel William bach ; h. y., gwedi iddo glywed enw un- rhyw beth neu fòd, y mae yn dysgwyl gwybod yn ganlynol pa beth ydyw hwnw, heblaw ei enw : ac y mae Eichard Jones wedi bod yn hynod o osgeulus a beius na buasai gwedi myn- egu cymaint â hynyna i'w awyddus wrandawydd bychan. Dichon fod rhywun o ddarllenwyr yr HrrroEnDWE yn yr unc}flwr meddwl â William bach, heb wybcd " beth ydi Dagon," amgen gwybod fod y fath beth wedi, neu %n bod, a dim chwaneg. Er mwyn yr unrhyw, nyni a roddwn iddo yma dipyn o hanes Dagou : — Eulun-dduw y Philistiaid ydoedd Dagon y Bibl, 1 Sam. 5. 2. Yr oedd ganddynt amryw ddelwau a duwiau ereill, ond Dagon ydoedd eu prif dduiv, 1 Cron. 10. 9, 10. Dy- wedir fod ystyr yr enw Dagon yn cynwys y meddwl o ŷd a physgodyn ; a'i fod o'i í'ogail i fyny ar lun dyn, ac o hyny i lawr ar lun pysgod\n. Y mae haneswyr yn dywedyd yr addolid ei ran isaf gyda golwg dywell am Kôa, yr hwn, (yn yr Arch) fel pysgodyn, a fu yn nyfroedd y dylif. Ereill, gyda mwy o gysondeb, a dybient fod ei haner uchaf yn gol- ygu ei lywyddineth ar ddyn, a chynyrch y tir, fel duw eu rhagluniaeth ; a'i haner isâf yn dynodi ei lywodraeth fel duw y môr a physg yr eigionfa. Modd bynag am bethau fel yna,