Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Cy*. I. EBRILL 1852. Rhip. 4. DIWYGIAD. Oan DiortJiotês. Me. G-olygydd,—Er fod eich gofod yn brin, eto hyder- wyf y bydd boddlon genych roddi lle i ychydig sylwadau ar y testyn uchod, oherwydd oes y diwygiad yw yr oes hon; iê, oes y diwygiadau. Nid oes braidd wyddoreg na chelfyddyd, nad oes ymdrechion canmoladwy am welliadau ynddynt; a phan ystyriom fod cysur a dedwyddwch dyn, mewn amser a gwedi darfod amser,yn ymddibynu ar iawn ddefiiyddio y peth- au sydd yn ei gyrhaedd, nid oes dim yn fwy anghenrheidiol i ddyn nâ gwneyd a allo er dyall ansoddau gwreiddiol pob peth a dueddant er ei gysur. Afraid yw sylwi fod difiyg ym- chwil i anian pethau yn amddifadu dyn o lawer o gysuron a ellid eu meddu, trwy ymdrech, i ddyall natur ac ansoddau y gwahanol bethau sydd o'n amgylch. Trwy ddyall deddfau anian y ceir gwasanaeth gwefr, agerdd, &c. Gan mai crefydd yw yr unig drefniant, neu gyfrwng, drwy yr hwn y deillia pob cysur sylweddol i ddyn syrthedig, y mae yn amlwg nad oes dim yn ein byd ni, ag y dylem fod yn fwy ystyriol, pwyllog, ac ymofyngar yn ei gylch, nag ydyw cref- ydd. Cydnebydd pob dyn rhesymol mai annichonadwy yw i un math o drefhiant ateb y dyben bwriadedig, oni bydd yn cael ei ddyall a'i arfer yn ei burdeb gwreiddiol. Ehyw fyd aflwydd iawn yw ein byd bychan ni; mae pob peth yn newjd yn barâus, naül ai er gwell ai er gwaeth; felly mae y drefh a sefydlodd Mab Duw gwedi goddef llawer gan ddynion ymyr- gar a hunanol, y rhai a fynent wneuthur enw iddynt eu hun- «t», ar bwys rhoddi enw yr Hwn y sy " goruwch pawb, yn Dduw bendigedig yn oes oesoedd," dan eu traed; drwy y " rhai y dallodd duw y byd hwn feddyliau y rhai digred, fel na thywynai iddynt lewyrch efengyl gogoniant Crist, yr hwn yw delw Duw." O! mor alaruö yw gweled Cristionogaetb yn y bedwaredd ganrif-ar-bymtheg!—mor bell yw o gael ei