-1 BIÍDTDD IOAN. dysgu ufydd-dod i ddyn. Peallai y cenadêir ganddo mai ar drugaredd Duwyr ydym ni yn byw, symud, a bod; ond, ai ein liaeddiaut ni ydyw hyny, tybed ! O, naeê : ond nid dyna yw y pwnc. A yw T)uw yu cyfrauu beudith- ion tymorol yn ddigyfrwng ? J\;a; mae yn rheiuiol llafurio y ddaiar, a hau a medi: eto nid allem ni na hau na medi heb hadyd. Felly gyda golwg ar faddeuant: y mae gan Dduw sail i faddeu i bechadur euog, ac y mae ganddo drefiì hefyd; ac y mae yn cyuyg maddcuant i'r penaf o bechaduriaid ar yr amod iddynt ufydiiâu i'r drefn hòno. Yn fyr, uid oedd ani;en i'm gwrthwynebydd golli ei amser, na gwas- trafí'u papyr ac inc, i ddywedyd nad dim o'n haeddiant ni sydd yn teilyngu maddeuant. Gwyddemhyny eisoes yn lleddda; agwyddom hefyd ei fod yn auinherthynasol i'r ddadl bre- senol. Goddefed i mi ddywedyd wrtho fod athroniaeth ei ddysgeidiaeth yn annhymig — anamserol. Y mae yn wir fod gwirionedd yn y geiriau, "Heb ollwng gwaed nid oes maddeu- ant," ond nid i ni maent felly. Mae'r gwaed wedi ei ollwng, ac y mae maddeuant yn ein cyrhaedd. Atulwg, A yw yn ofynol bod dyn yn " wr urddcdig," er nad wyf fi felly, i fod " wrthi hi beunydd i gymhell ei wrandawwyr i ufyddâu i'r ordinâd, cyn maddeuant beunydd " ? Ilefyd, gan y dywedweh fod gwaith rhywrai yn ufydd- ûu i'r ordinâd yn dangos i ni fod eisieu rhyw ragddarparu cyn ufydd-dod i'r ordinâd beu- nydd," ac y rhaid cael ìbyw hen chwaer wrth law beunydd i gario pecyn o ddillad sychion at y dwfr beunydd, i'w newid am rai gwlybion," sut y dywedwch yn nghwt hyny " nad oes dim o'r fath i'w weled yn Actau yr Apostolion, eíthr yn Actau y rhai a alwaut eu hunain yn Fedyddwyr y mynychir hyn " ? Os nad oes pethau o'r fath i'w gweled yn Actau yr Apos- tolion, nid ydynt yn eisieu. Ond a yw rhag- ddarparu dillad gwynion ac addurniadau am y maban, a chael rhyw hen chwaer i gario basin a dwfr mewn potel, i'r capel, i'r dyben o daenellu y dwfr ar dalcen yr un bach diniwed, i'w weled yn Actau yr Apostolion ? Ond, i fod yn sobr, nid amgylchiadau fel yna sydd yn Actau yr Apostolion, eithry pwnc—be ydd a'i ddyben. Dyma fel y dywedir yu Actau yr Apostolion: Edifarêwch a b'edyddier pab un o honoch yn enw Iesu Grist, er maddeuant pechodau. Yna y rhai a dderbyniasant ei air ef yn ewyilysgar, a fedyddiwyd, pen.ii. 38,41. Eithr pan gredasant i Fhylip yn pregethu y pethau a berthynent i deyrnas Dduw, ac i enw Iesu Grist, hwy a fedyddiwyd yn wyr ac yn wragedd. Simon yntau hefyd a gredodd, a gwedi ei fedyddio, a lynodd wrth Phýlip. Wele ddwfr, beth sydd yn lluddias fy medydd- io ? A Phylip a ddywedodd, Os wyt ti yn eredu, fe a elhr. A'r Eunuch a ddywedodd, Yr wyf yn credu fod Ieau Grist yn Fab Dúw. A hwy a aethant i waered ill dau i'r dwfr, Phylip a'r Eunuch, ac efe a'i bedyddiodd ef, pen. viii. 12, 13, 36—40. Yna yr aíebodd Pedr, A all neb luddias dwfr, fel na fedyddíer y rhai hyn, y rhai a dderbyuiasant yr Ysbryd Glân fel ninhau ? Ac efe a orchymynodd eu bedyddio hwy yn enw yr Arglwydd Iesu, pen. x. 4G, 47. A rhyw wraig a'i henw Lydia, yr hon oedd yn addoli, a wrandawodd, yr hon yr agorodd yr Arglwydd ei chalon i ddàl ar y pethau a leferid gau Paul. A gwedi ei bed- yddio hi a'i thylu, &c. A hwy a draithasant iddo air yr Arglwydd, ac i bawb oedd yn ei dỳ ef; ac cí'e a fedyddiwyd, a'r eiddo oll yn y man, peB. xvi. 14, 15,32, 33. Ac yr awr- hou, beth yr wyt ti yn ei aros? Cyf'od, bed- yddier di, a goleh ymaith dy bechodau, &c. peu. xxii. 16. Dyna yr hyn y sydd i'w gweled yn Acfau yr Apostolion, yr hyn hefyd a arí'erir ac a amddift'ynir gany Bedyddwyr; gan hyny, Actau y Pedyddwyr yw Âc-tau yr Apostoiion. A gydwedda y dyfynion yna o Actau yr Apos- tolion âg Actau y Maban-daenellwyr, Meill- ionwr ? Chwychwi a ofyuwch i mi " brofi o air Duw fod bedydd Ioan yn parâu i gael ei weinyddu gan ryw un neu rai, o'r amser y ter- fynodd gweinidogatth Ioan, hyd ddydd y Pen- tecost," &c, Pa sawl gwaith y mae yn rhaid profi yr uu peth i chwi ? Ond rhag nad ydych yn cofio, dyfynaf eto 0 air Duw y prawf:— Yr oedd loan yn bedyddio yn y difläethwch, ac yn pregethu bedydd edifeirwch, er maddeu- ant pechodau, Marc i. 4. Ioan yn ddiau a fedyddiodd â bcdydd edifeirwch, gan ddywed- yd wrth y bobl am gredu yn yr hwn oedd yu dyfod ar'ei ol ef, sef yn Nghrist Iesu, Act. xix 4. A Phedr a ddywedodd wrthynt, (ar ddydd y Pentecost) Edifarêwch, a bedyddier pob un 0 honoch yn enw Iesu Grist, er madd- euant pechodau, Act. ii. 38. Dyna i chwi " hwb " 0 air Duw "er profi bedydd Ioan yn fedydd efengylaidd." Os na cbredwch hyn, yna mae yn gorphwys arnoch brofi 0 air Duw yr "amser y terl'ynoddgweinidogaeth Ioan." Gwn na wna fy " ngormod dwfr, yn gy- mysgâ'm tân a'm. gwreichion, ddim niwed i'r maban," druan; ond y mae yn gwneyd niwed beth bynag 'i'r Maban-daenellwyr, í'el na wna Meillionwr "sylw o'm gwrthdarawiad i íed- yddio plant"—dim ond dweyd eu "bod eto yn mwynâu eu genedigaethf'raint, fel cynt" ! Yn Actau y Maban-freintwyr y mwynâant yr en- edigaethfraint hon, ac nid yn Actau yr Aj)os- tolion ! Gwir fod yr "Hyfforddwr" yn wastadfa, lle y ceir cystal rhyddid i neidio yn ol, ag a geir í neidio yn mlaen ; ond nid " mautais," gwybyddwch, yw i un neidio yn ol; am hyny gan nad ydych yn ffarwelio â mi ar hyn o bryd, ac os ydych yn bwriadu cael "mŵtais" o'r pwne, ymawyddwch 0 hyn allan i neidio yn mlaen. Byddwch wych. Yr eiddoch, Hugh Hughes. Cefnmawr.