66 TUEDD NIWEIDIOL, &C. mewn undeb a ehyswllt â'r eglwys. Tybiant, os ydyw yr eglwys yn gymeradwy a chanmoladwy am ei gweithredoedd, eu bod hwythau felly liefyd; os yw eu canu, cyfranu, gweddio, ymgynull at eu giìydd ar ddydd yr Arglwydd, yn brofegau eu bod hwy yn dduwiol, paham nad yw yn brofion ein bod ninhau iieí'yd, meddant, gan ein bod yn gyfranog- ion â hwy ynddynt ? 4, Y mae yn tueddu i ymddifadu y rTiai o'r byd nad ydynt yn ymçynull iW capeli. Yr ydym yn canfod â'n llygaid, os ydym yn sylwi, nad yw y byd yn cael pregethu yr efengyl iddynt. Dan y drefn chwithig bres- enol ni cheir ac ni cheisir gafael ar y bobl—ni cheisir pregethu yr eí- engyl i bob creadur; ond ceisir a cheir cynullheidfa i'r capel, i actio rhyw fath o grefydd, a gadewir y rhe- lyw i gymeryd -eu hyfdra i fyw yn annuwiol—rhoddir hwynt i fyny i'r tafarndai, meddwdod, godineb, a phob budredd, ac i golledigaeth dra- gywyddol, heb gynyg rhwystro y gorlif, na darbwyllo y cyfryw—i'r gynullheidfa yn unig y ceisir pre- gethu. Mae yn ddigon hawdd canfod, oddwrth ystadegau a wnaed yn ddiweddar o rifedi trigolion y 'deyrnas hon, yn nghyda rhif y rhai a ymgynullant i'r gwahanol syna- gogau sectyddol, fod lluaws mawr yn ein gwlad uchelfreiniog heb gydymgynull â'r gynullheidfa, a thrwy hyny ymddifadir hwy o breg- ethu; ac ni cheisir cyflawni yr archiad o "fyned allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a'r prif ffyrdd a'r caeau, a'u cymhell i fewn fel y llanwer y tŷ." 5, Mae pregethu yn aneffeitTiiol yn 61 y style brcsenol. Y mae y credadyn a'r annghredadyn mor bell oddwrth eu gilydd — sefyllfa- oedd mor wahanol—eu cyflyrau yn amrywio cymaint—fel na all y preg- ethwr siarad â'r naill heb esgeuluso'r líall. A pha beth ynte mae yn ei wneyd ? Hyn a wna; arllwys ffrŵd ei hyawdledd cydrhwng y ddau eith- afion, a nelu ei saethau at ryw ganol- bwynt rhwng y ddau ddosbarth— llefaru rhywbeth yn nghlyw y bob), ac nid goleuo y deall, yw yr ymgais' Iwyraf y sy ganddo ; a thrwy hyny nid yw yn archolli y naill, nac yn meddygiüiaethu y llall; nid yw yn darbwyllo y naill i adael ffyrdd dys- tryw, nac yn calonogi y llall i rodio ffordd y bywyd fry. Mewn gair byr. y mae ei ddull yn ddigyfeiriad hoÚoL —dywedyd yn nghlyw y gýnullheid- fa yw ei amcan goraf fel pregethwr, ac nid llef'aru geiriau Duw wrth neb. Llefaru am y gynullheidfa, a gwen- ieithio i bechaduriaid y mae, ac nid cyhoeddi y newyddion dai'r byd, a'u cymhell i ymostwng i ddeddfau Brenin Seion. T mae llefarwyr Cymru, gydag ychydig eithriad, yn euog o gymysgu pethau perthynol i'r byd a'r eglwys â'u gilydd, ac felly maent fel rhai yn llefaru wrth yr awyr. Y mae eu hymadrodd ar goll ac ar wasgar, heb gyfhwrdd â neb na chyfleu unrhyw ystyr i neb. Pe fydd ambell bregethwr yn meddu doniau i arllwys ffrwd o eiriau ar ol eu gilydd, fel y cenllif gwyllt chwyrn- ellawg—o eiriau mawreddog, bog- llymog, hyawdlog, gan dreiglo mewn goleu i'n gwydd (os credwn ef) agos holl gylchoedd cyfundraithau haul- og, lloerog, planedawl, a serenawl y cread diderfyn, heb son ond ychydig neu ddim am yr hyn a berthyn i gyflyrau dynion. Gwir y bydd yno swn hyawdledd, araith gywrain, geiriau swynol, ystymiau boneddig- aidd, dullweddau rhesymgar, a thaf- od llithrig—dim arall. Pa fodd y gellir dyfalu fod gweinidogaeth felly yn effeithiol i agoryd deall dyniori, o ethryb i'w cyflwr damniol, a'r ffordd i gael gwaredigaeth rhag cosb pechod, drwy yr Iawn. mawr gawd ar Galíaria ? " Ceisiẃn allan o lyfr yr Arglwydd, a darllenwn." Rhaid terfŷnu ar hyn o dro. Ar air a chydwybod, yr eiddoch, Talywern. Gaäwtth.