Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

SIMONIAETÜ. 105 er o'r v. benod hyd ddiwedd yr viü. o dystiol- aeth Mathew. Mae yn ymddangos yn eglur yr un gwrthddrythau sy ganddo mewn golwg yn y gwahanol bennodau. Sefydliad perthyuol i'r Cristionogion ydyw gweddi fel cyfrwng un- iongyrchol i dderbyn maddeuant pechodau, ac fel y cyfryw anogir hwy yn y llythyrau apos- tolaidd i weddio yn ddibaid. Y niae gofyniad yn codi yn naturiol yn y fan yma, sef beth yw y cyfrwng i'r byd i dderbyn maddeuant pech- odau. Dywedodd Iesu Grist wrth Pedr, " Rhoddaf i ti agoriadau teyrnas nefoedd," sef yr awdurdod i agoryd teyrnas nefoedd i'r Iuddewon a'r Cenedloedd. Edrycher ar Pedr ?cyflawni ei swyddogaeth ar wyl y Pentecost. peth cyntaf a wnaeth oedd* pregethu yr efengyl i'r miloedd oedd wedi ymgynull i wrandaw. Yr effaith cydfynedol â'i thraddod- iad oedd dwys bigo tair mil yn eu calonau, nes eu dwyn i ofyn, "Ha wyr frodyr, beth a wnawn ni?" Creffwch ar atebiad Pedr iddynt, Edifarêwch a bedyddier pob un o honoch yn enw Iesn Grist, er maddeuant pechodau." Act. ii. 37, 38. Eto, gwelir hyn yn amlwg yn nghyfarchiad Annanias i Paul, "Ac yr awrhon, beth wyt ti yn ei aros ? cyíbd, bedyddier di, a golch ymaith dy bechodau, gan alw ar enw yr Arglwydd," Act. xx. 16. Pe buasai gweddi fel cyfrwng i faddeu pechodau yn gwneyd y tro i ryw un neu ryw rai, buasni felly i Paul, canys yr oedd wedi gweled a chlywed yr Ar- glwydd Iesu, a gwedi credu yn wirioneddol mai efe oedd y Crist; er hyny yr oedd yn rhaid iddo ymostwng i olchiad yr «denedigaeth mewn trefn i dderbyn hyny. Yr un drefn y sy gan Dduw i roddi pardwu i bawb o'r byd yn ddieithriad, a'r hyn oedd yn anghenrheid- iol yn yr achosion uchod, y sydd anghenrheid- iol yn mhob achos, i ddyfod i ffafr Duw. Ni wyr y gyfrol ysbrydoledig ddim am y non- essentials y sy gan ddynion yr oes hon. Y ddefod olaf a nodaf ydyw y cymundeb misol. Defod ydyw hon nad oes sail iddi yn yr ysgrythyr lân. Dywedwyf hynynhyfac erglyw, ac ni waeth genyf pwy a'm dawr. Os yw y fath beth â chymuno yn fisol i'w gael, noder hyny o'r Bibl^ er fy argyhoeddi i ac er- eill y sydd yn ei ystyried yn hollol groes i ■ rediad cyffredinol yr ysgrythyrau, ac i ddyben- ion dydd yr Arglwydd. Ar y dydd cyntaf o'r wythnos y byddai y prif Gristionogion yn por- treidiadu Iesu Grist wedi ei groeshoelio, a hyny bob dydd cyntaf. Cymharer y gwahanol ad- nodau hyn â'u gilydd, y mae yn ymddangos yn eglur, Act. ii. 42., xx. 1 Cor. xi. 2. xvi. 1, 2. Nis gellir dwyn un enghraifft o'r Testameat Newydd bod uurhyw gynullheidfa Gristion- ogol yn ymgynull at eu gilydd ary dydd cyn- taf o'r wythnos ond i dori bara. Deuer ag un esiampl gau y rhai sydd yn dysgu y dylai y Cristionogion gadw y dydd cyutaf ac heb dori bara, yna gildiwn ein pwnc; ond hyd nes y gwneler hyny, safwa at ein gosodiad nad oes gan y Cristionogion awdurdod nac o dan rwymau i gyfarfod ar ddydd yr Arglwydd o ran dim a ddywedodd nac a ymarferodd yr Apostolion, ond i ddangos marwolaeth yr Arglwydd, ac ymwneyd â'r moddion o adeii- adaeth a chysur y sydd yn gysylltedig â hyny. Ond y mae un wrthddadl yn cael ei chodi a'i harferyd oddwrth y geiriau hyn: "Cyuifer gwaith bynag y bwytâoch y bara hwn ac yr yfoch y cwpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo." Dadluir oddwrth y geiriau yma nad oes genym gyfraith pa mor aml y dylid cyrauno—bod hyny wedi ei adael i farn yr eglwys i wneyd pryd yr ewyllysient. Nid yw y geiriau " Cynifer gwaith bynag," &c., yn nodi dim gyda golwg ar amser, ond y dyben, sef dangos marwolaeth yr Arglwydd. Ystyrier sefyllfa eglwys Corinth pan oedd yr Apostol yn ysgrifenu ati; yr oedd ymrafael- iau a heresiau yn eu plith, nid oeddyut yu aros eu gilydd i gymuno, yn bwyta hyd at ddigon, yn yfed hyd at feddwdod, hyd y nod wrth fwrdd yr Aiglwydd; am hynyrhesymol oedd i Paul eu hadgoffa o ddybeu yr ordinâd, ac nid unrhyw gyfeiriad at amser. Os ydyw y geiriau " Cynifer gwaith bynag," &c, yu cyfeirio at amser, fe brawf ar unwaith fod cymuno unwaith mewn oes yn ddigou. Y íàth sarâd ar farwolaeth Crist y mae ei ddadl yn ei arwain iddo. Eto, pa sefydliad coffa- dwriaethol mewn unrhyw oes ac o dan unrhyw oruchwyliaeth a sefydlwyd drwy orchymyu dwyfol, ac nad oedd ganddynt eu hamserau neiìlduol wedi eu penodi, pa uu bynag ai gwyl y pasg, y pebyll, y Pentecost, neu y ÿabbath ? felly y sefydliad coffadwriaethol Cristionogol, er cof am Iesu, sydd â'i amser neillduol wedi ei benderfynu fel na raid i ni fod o dan eiu dwylaw mewn perthynas i hyn, "Ac ar y ilydd cyntaf o'r wythnos wedi i'r dysgyblion ddyfod yn nghyd i dori bara." Y mae cadw y dydd a thori bara yn anwahanol gysylltedig â'u gilydd ; os nad oeddynt yn cadw un drwy esiampl, nid oeddynt yn tori y llall drwy esiampl, ond amlwg ydyw eu bod yn cadw y dydd ac yn tori bara fel rhan o wasanaeth y dydd. Yr hyn a gysylltodd Duw, na wahaned dyu. Dymunwyf gyflwyno y gofyniad hwn i sylw y cymunwyr misol yn gyffredinol, sef, A all rhywrai o honynt roddi rheswm dros paham y cedwir dydd'yr Arglwydd am ddeng- waith a deugain mewn blwyddyn er coffa am ei adgyfodiad, tra na chofir am ei farwolaeth ond deuddeg waith yn y flwyddyn ? A ydyw ei farwolaeth yn llai pwysig na'i adgyfodiad ? Tybiwyf bod y naill yn gydbwys a'r Uall. Os felly, paham na roddir yr un parch i'r naill a'r ílall o honynt ? Gellir dwyn cwmwl o dystion o ddiwygwyr blaenaf yr oes y sydd â'u barn o blaid tori bara yn wythnosol; megis Calfin, A.rchesgob King o Ddublin, a John Wesley, &c. Gallesid nodi eu sylwadau, ond gan fod gofod yr Hyfforddm yn bfin,