Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

lt>8 SYLW AR ACT. VIII. 26—40. ac adnewyddiad yr Ysbryd Glân—paham, mewn gair, y rhaid i ni amheu yu lle dweyd fel Pedr, " Cyfelybiaeth cyfatebol (neu, gwrth- lun) yw yr hwn y sydd yr awrhon yn ein ach- ub ninhau, sef bedydd, (nid bwrw ymaith fudr- eddi y cuawd y mae, eithr ymateb," neu yn hytrach, fel y mae eperoteema yn eglur ar- wyddo, ymofyn, "cydwybod dda tuag at Dduw) trwy adgyfodiad Iesu Grist." Iê, meddaf eto, ar ol efrydiaeth hwyrfrydig a gweddi daer, methwyf wybod paham na ymdrechem yn eg- niol o blaid y gwirioneddau hyn, fel rhan o'r ffydd a ymddiriedwyd nnwaith i'r saint. Yn ol fy nirnadaeth i, frodyr hoff, ymddeugys yn eglur i mi mai ein braint uchaf a'n dyledswydd bwysicaf ydyw dysgu a phregethu y gwireddau hyn mor eglur a llawn ag y dysgai Crist a'i tipostolion ysbrydoledig hwy. Yr wyf yn sicr yr addefwcb, mai yr unig arwyddair doeth a dyogel gyda golwg ar y pwnc dan sylw, yn nghyda phob pwnc arall, ydyw, " Y gwir, yr holl wir, a dim ond y gwir. Ni chyrhaedda coleddiad bedydd y crediniol, os goddefír i mi ffurfio barn, 'byth ei ffurf briodol, egluro ei nerth mewnol, na chyrhaedd y fuddygoliaeth a'i herys, hyd oni byddo i ni fyned at yr oll a lefarodd yr Arÿlwydd, yn y synwyr gramadeg- awl a chyfadnodawl o hono, heb wyro ac heb ofni. Nid wyf yn gollwng dros gof, y gallwn wneyd ein hunain yn agored i'r cyhuddiad at- gas, eithr diystyr, bid siwr, ac, fel y mae yn ddeal'edir, annghyfiawn, o ddysgu " adenedig- aeth yn medydd," a hyny o le na fuasem yn dysgwyl y gallai y fath beth darddu. Y mae yn wir fy mod wedi clywed y cyhuddiad hwn yn erbyn y brodyr a gyfansoddant yr " eglwysi Diwygiadol," mewn modd cyfaddasedig i gario crediniaeth pur gyfeilioruus; canys, goddefwch i mi ddweyd, yr ymddengys i mi lawer o am- mwysedd yn gyeylltedig â'r hen ymadrodd gwarthruddedig " adenedigaeth yn medydd." Os ydyw adenedigaeth i'w gyfyngu i arwyddo adgenedliad (fel y mae gan y Parch C. Stovel, yn ei waith edmygol ar Ddysgyblaeth Grist- aidd, tu dal. 249) yna mae yn eglur ei fod yn blaenori geni drachefn, yr un modd yn gymhwys fel y mae cenedlaeth naturiol yn blaenori genechgaeth. Ac i ddywedyd fod bedydd yn cenedlu bywyd newydd y sy nid yn unig yn fwyaf dyrys, ond yn anysgrythyrol, peryglus, a ffol. Hwn yw yr adgenedliad bed- yddiadol Puseyaidd, â'r hwn, fel y mae yn gyfiawn cydnabod, nid oes dim a wnelo y brod- yr y cyfeiriwyd atynt. Os cydnabyddir, ynte, adgenedliad yn gyfystyr a'renedigaeth newydd fel y mae yn wir fod y term yn cael ei fynych arfer, felly, nid yn unig y mae y dy6gyblion uchod yn dysgu adeuedigaeth fedyddiadol, ond hefyd y mae Mr. Stovel (gwel y cyfeiriad uch- od); ac yn mhellach, yr wyf yn meddwl y dy- wed pob meddwl diragfarn, felly hefyd y gwna ein. Harglwydd ei hun wrth egluro yr ailened- igaeth wrth Nicodemus, bob aniser, ar bob achlysur, yn dyall trochiad fel eu bod yn gen* edlig o'r blaen gan air ac Ysbryd Duw. Madd- euwch, frodyr, hyn o ŵyriad ; ond gan fy mod weithiau yn clywed sain yn gwag ymffrostio er bod yn anfanteisioi i synwyr, teimlais rwym- au i ddweyd cymaint â hyu. Ond i ddyfod a'r llythyr maith, ac efallai blin, hwn i derfyniad, y mae genyf i ddweyd mai fy mwriad rhagllaw ydyw ymuno yn gy- hoeddus â'r "dysgyblion." "Nis gallwn wneyd dim yn erbyn y gwirionedd, ond du y gwirionedd." Na feddyliwch, frodyr anwyl, fy mod yn anwerthfawrogi eich sylw brawdol, neu fy mod yn anmheimladwy o'ch caredigrwydd yn fy nghroesawu i'r Sir. Chwi a wnewch gymwyn- as â mi, os rhoddwch i mi wybod a ellwch ac a wnewch chwi eto frawdoli â mi, gan fy mod yn dal y golygiadau hyn, a'r bwriadau a am- canwyf. Gan hyderu y cewch fawr gysur a chefnog- aeth drwy eich gwasanaeth, ac y'ch aweinir odduchod yn eich holl gynghorfeydd a'ch pen- derfyniadau, y dybenwyf, frodyr anwyl, yr eiddoch yn serchog yn yr efeugyl, JOSEPH B. ROTHERHAM. I ofal y Parch. D. Crumpton, Ysgrifydd y Gymanfa. [Dyallwn na dderbyniodd danfonydd y llythyr uohod unrhyw atebiad oddwrth y Gymanfa, odd- eithr penderfyniad, yn cynwys cydymdeimlad &g ef yn ei ymchwiliad am y gwir, ac yn dymuno arno ymadael â hwy! Mae vn wir y dechreuodd un o'r gweinidogion, heb awdurdodd oddwi th y Gymanfa, ddadlu * Mr. R.; ond pan «ryrhaedd- odd y ddadluaeth cybelled * phedwär Uythyr oddwrth y ddwyblaid, tybiodd y dechreuydd yn addas ei dybenu, am ba reswm nid anhawdd yw dyfalu. Derbyniasom yr ysbysiad hwn oddwrth yr "heretic" ei hun.] SYLW AR ACT. VIII. 26—40. Yb Apostolion a ordeiniasant saith o ddiacon- iaid, i ofalu am y tlodion, un o'r rhai oedd y Phylip hwn a nodir yn nechreu y bennod. Nyni a gawn haues i Phylip fyned i waered i Samaria, a phregethu Ciist iddynt, yn mha fan y credodd lluaws, ac y bedyddiwyd hwy yn wyr ac yn wragedd. Y mae yn ddiamheu mai yn Samaria yr ymddangosodd angel yr Ar- glwydd ac a'i danfonodd i ddysgu ac i fedydd- io yr Eunuch o Ethiopia. Y gwr yma ydoedd Eunuch galluog, dan Candace, brenines yr Ethiopiaid, yr hwn oedd arolygwr ei holl dry- sor. Gwnawn ychydig sylwadau fel hyn :— 1, I ba beth y daeth i Ierusalem i addoli ? Nyni a gawn hanes yn Act. ii. fod yn trigo yn Ierusalem wyr bucheddol o bob cenedl dan y nef; ac y mae yn ddiamheu fod hwn yn eu plith; ond feallai ei fod wedi gwneuthur add- uned i Dduw Israel, a'i fod wedi dyfod i Ierusalem i dalu yr adduned hòno; ond y mae yû fwy tebyg mai proselyt ydoedd, gan ei fod yn darllen yn mhroffwydoliaeth Esay wrth