Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

100 BEDTDD IOAIT. ddol ryddâd''* Eel hyn, gellir ys- tyried maddeuant, santeiddiad, ac adgyfodiad cyrff y saint, fel gwa- hanol ranau ein iechawdwriaeth, neu waredigaeth oddwrth euogrwydd pechod, oddwrth argîwyddiaeth pech- od, ac oddwrth gosbedigaeth pechod. (Gwel Eph. i. 7, Col. i. 14, 1 Pedr iii., Esai. lix. 20, íthuf. viii. 23, Eph. i. 14, iv. 30.) (Tw larâu.) BEDYDD IOAN. Me. Gol.,—A genadêwch chwi i ychydig o linellau o'm eiddo gael ymddangos am unwaith yn rhagor, at "William Evans, Pentraeth, ar y pwnc uchod; a dyma y tro diweddaf yr wyf yn bwriadu danfon ato ef, ogerth iddo ddyfod yn nês i'r pwnc nag y daeth yn ei ysgrif ddiweduaf. Barnwyf mai ei unig amcan yw cael yr oruchafiaeth yn y ddadl, ac nid yw dysgu neb o nemawr bwys gan- ddo. Fy sail i farn hyn yw, ei fod yn tynu camgasgliadau oddwrth fy nywediadau, er mwyn cael sail i dwyllresymu. Dechreua trwy ddy- weyd ei fod yn canfod fod ei sylwad- au ar Eedydd Ioan wedi gwneyd cryn gynhwrf tua'r Cefn Mawr. Na, nid fel yna mae ansawdd y ddadl, ond yn wrthol—fy sylwadau i ar Eedydd Ioan, wrth sylwadu ar lyfr- yn J. D., Nerquis, y sy gwedi gwneyd cynhwrf tua'r Pentraeth. Dyna'r gwir. Y mae hefyd yn dywedyd fel hyn: "A ydyw methu dirnad bedydd Ioan yn prêfi pa beth ydyw,Mr.Hughes?" Cymerer yn araf deg. Ai methu dirnad bedydd Ioan yw methu dir- nad paham yr oedd yn rhaid iddo ddarnio adnodau i brofi nad oedd bedydd Ioan yn fedy dd Cristionogol, gan fod hyny yn beth mor hawdd ganddo ? Y peth nesaf o1i eiddo yw ym- drechu cyfiawnâu ei ymddygiad yn * Sylwer mai " iecbawdwriaeth," ac nid "rhyddâd," yw yn y Bibl Saisaeg, Heb. ix. 12,—Cyf. darnio yr ysgrythyrau. Gofyna, ** a ydyw un gwirionedd o eiddo Crist yn gwneyd gwirionedd arall o'i eiddo yn llai ?" I hyn yr atebwyf, Nac ydyw ; ond bod y rhan olaf, neu y rhan a adawodd efe allan o'r adno'd hòno yn Luc xvi. 16, yn dangos an- nghysondeb pwnc Evans yn eglur- ach nâ'r rhan gyntaf, er iddo ef freuddwydio fod y rhan gyntaf yn effeithio o'i dŷ, tra mewn gwirion- edd nad yw felly. Bhag ofn na chy- mer y drafferth i droi at y geiriau, rhoddaf hwy gerbron yma eto. Y darlleniad y sy íel hyn : " Y gyfraith a'r proffwydi oedd kyd loan ; er y pryd hwnw y pregetbir teyrnas Dduw, a phob dyn y sydd yn ym- wthio iddi." Cyfieithiad Ẅilliams a ddywed fel hyn: " Oddar ym- ddangosiad Ioan y Trochiedydd, hyd yn awr, yr ydys yn goresgyn teyrn- as nefoedd, a goresgynwyr y sydd yn cymeryd meddiant drwy draia." Oni osodais i hyn gerbron Evans o'r blaen ? Ond gwelodd yntau yn dda basio heibio, heb wneyd un sylw o'r geiriau. Haws oedd iddo wneyd hyn, y mae yn debyg. Eto, dywed nad all efe " eu coelio." Nid yw hyny yn profi na ddylwn gael fy nghoelio, ac y dylwn i ei goelio ef. Bydded i Mr. Evans naill ai galw ei ddywediad yn ol, neu wneuthur sylw o'r geiriau. Cofied mai ei waith ef yw dangos beth ydoedd meddwl Crist, pan y dywedodd, " Er y pryd hwnw y pregethir teyrnas Dduw, a phob dyn y sydd yn ymwthio iddi." Na ddigied wrthyf' am ddangos ei waith iddo, gan nad yw yn ei weled. Ymddengys i mi fod bedydd Ioan yn beth dyeithr iawn i Evans. Cyfeirir fi ganddo i'r drydedd bennod o Luc, " er agor fy llygaid i weled," medd efe, "y gwahaniaeth oedd rhwng gweinidogaeth Ioan a'r weinidogaeth Gristionogol." Dywed fod Ioan yn dysgu y rhai a ofynent iddo beth i'w wneyd, am i'r hwn oedd ganddo ddwy bais gyfranu i'r neb oedd heb yr un, a'r neb oedd ganddo fwyd i wneyd yr un modd. " Ond sylw-