Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

AD-STLWÌ.DAÜ AB MAT. III. 43. 103 wybod pa fodd y cynhorthwyir chwi (gwn i chwi lafurio yn helaeth) gyda goebiaethau; eithr meddwl yr wyf bod digon o wyr galluog, aiddgar, yn barod wrth law bob amser i roi help yn yr achos. Fe ddylai fod, beth bynag. Ehwydd hynt i'r Hyffordd- wr, a maddeued y triwyr i minhau am íy hyfdra. Dtsgtbl. AD-SYLWADAU AR MAT. XXI. 43. Mit. Gol.,—Wrth ddarllen eich Misiadyr am Dachwedd, 1853, tyn- wyd fy sylw at atebiad J. Rogers, Rhos, i ofyniad Mwngloddiwr. Ar ol sylwi yn lled fanwl ar ei atebiad, yr oedd rhyw amheuaeth yn aros ar fy meddwl o bartli eu cywirdeb, yn fwyaf neillduol y gofyniad cyntaf, " y dygir teyrnas Dduw oddarnoch chwi, a'i rhoddi i genedl a ddygo ei fFrwythau." Gweîwn wrth y beunod y dyfynwyd yr adnod o honi fod Iesu gwedi dyfod i'r dernl, a bod archoffeiriaid a henur- iaid y bobl wedi nesâu ato, ac efe a ddywedodd lawer o bethau wrthynt drwy ddamegion ; ac y mae yn ym- ddangos i mi fod yr adnod hon yn cynwys eglurâd neu ddeongliad o'r damegion adraithasai mewn perthynas i efengyl y deyrnas, yr hon oedd i gael ei chynyg iddynt hwy (yr Iu- ddewon) yn gyntaf, a'r rhai hyn yn ei gwrthod yn gyffredinol, yn nodedig eu blaenoriaid. " Y mae y gair dwyn ar unwaith (medd J. R.) yn profl fod yr hyn a ddygir yn eu meddiant, pan y llefarid y geiriau." Na, mae yma ymbwylliad. Pa bryd y cafodd y Cenedlodd y gyfraith a roddwyd ar Sainai trwy ddwylaw Moses ? Eglur yw na sefydlwyd yr un o'r deddfau hyn yn mhlith y Cenedloedd ; felly, yn ol pob tystiolaeth, nid y gyfraith a roddwyd ar Sainai yw y deyrnas hòno a olygir yn y testyn, yr hon oedd i gael ei dwyn oddar yr Iuddewon, a'i rhoddi i'r Cenedloedd, fel y dygant ei iFrwythau, oblegyd sefydliad perthynol i'r genedl Iuddewig oedd hwn, ac ni pherthynai i neb cenedl arall ar wyneb yr holl ddaiar; ac yr oedd hwn wedi myned yn hen ac yn oedranus ac ya barod i ddiflanu yr amser yr ymddang- osodd Mab Duw yn y byd, a dyma efe yn dechreu sefydlu y deyrnas y soniŵ yr adnodau hyn am dani, nad oes rfa henaint na diflaniad yn perthyn iddî, oblegyd un ysbrydol ydyw. Ond yr un y dadlua y cyfaill J. R. drosti oedd yr un wladwriaethol. Collodd Moses a'r proffwydi yr hawl o ddysgu pau y daeth y gwr o ddanfoniad Duw, a'i enw Ioan, i dystiolaethu am y gol- euni, fel y credai pawb drwyddo ef. Y gyfraith a'r proffwydi oedd yr ath- rawon hyd Ioan ; ac er y pryd hwnw y pregethir teyrnas Duw, a phob dyn y sydd yn ymwthio iddi. Yn ol cyf- ieithiad J. Ẅ., " Oddar ymddangosiad cyntaf Ioan y Trochiedydd hyd yn awr, yr ydys yn goresgyn teyrnas y nefoedd, a goresgynwyr y sydd yu cymeryd meddiant drwy drais ; canys hyd oni ymddangosodd Ioan yr holl broffwydi a'r gyfraith oeddynt eich hyfforddwyr." Yma y gwelwn ya eglurmai canad dros Dduw oedd Ioan, i alw sylw manwl y bobl i gredu yn yr Hwn oedd yn dyfod ar ei ol ef, sef yn Nghrist Iesu, ac nid tynu sylw y bobl at gyfraith Moses, oedd y gwaith mawr y galwyd Ioan iddo. Dechreu- wyd pregethu athrawiaeth newydd a gweinyddu ordinadau newydd gan Ioan, yr hyn na wyddai blaenoriaid y genedl Iuddewig ddim am danynt, a dylynwyd ef yr un modd gan Grist a'i apostolion. Fel hyn y cawn hanes fod Iesu yn gwneuthur ac yn bedyddio mwy o ddysgyblion nag Ioan, er na fedyddiasai Iesu ei hun, ond ei ddys- gyblion ef. "A chyfraith y deyrnas hen (medd J. R.) oedd yr hyn a roddwyd oddar fynydd Sainai trwy Moses. Dyma y deyrnas a olygir yn yr adnod a nod- wyd. Ond y mae y deyrnas hon i gael ei dwyn oddarnynt, a'i rhoddi i genedl a ddygo ei ffrwythau." A phe y dylynem yr arweiniadau hyn, caem ein tywys i'r penderfyniad mai traws- symudiad yn unig ydoedd, a'if dwyn