Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

104 SIMONIASTH. oddar yr Iuddewon a'i rhoddi i'r Cen- edloedd, oblegyd na sefydlwyd y deddíau a'r barnedigaethau a osod- wyd iddynt drwy Moses erioed yn mhlith y Cenedloedd. Cenad atynt hwy oedd Ioan. Idd ei dir ei hun y daeth Mab Duw, ac nis derbyniasant ef. Gwlad yr addewid oedd eu cylchdaith, a deiliaid eu gweinidogaeth oeddynt yr Iuddewon yn unig ; oblegyd iddynt hwy yr oedd yr addewid am dano, ac nid oedd gan y Cenedloedd un rhan yn- ddo, nes iddo farw ac adgyfodi, a dyddimu canolfur y gwahaniaeth oedd rhwng Iuddewon a Chenedloedd. Fel hyn y canfyddwn mai nid gwladwr- iaeth Israel a feddylir wrth deyrnas Dduw yn adnod y gofyniad. Nid ydyw y gair teyrnas Dduw a theyrnas nefoedd yn cael ei ddyall am y trefu- iant Iuddewig yn y Llyfr Dwyfol. Sonir hefyd am blant y deyrnas yn cael eu taflu í'r tywyllwch eithaf, ob- legyd gelwid yr Iuddewon yn blant y deyrnas yn gyíFredinol; oherwydd mai iddynt hwy y danfonwyd gairyr iech- awdwriaeth hon. Fel hyn y dywed Pedr wrth yr Iuddewon, ar ol adgyf- odiad ac esgyniad Crist; "Duw, gwedi adgyfodi ei Fab Iesu, a'i danfonodd ef yn gyntaf atoch chwi, gan eich ben- dithio chwi, trwy droi ymaith bob un o honoch oddwrth eich drygioni. Felly, wrth "deyrnas Dduw" yn y ddameg, y golygwyf yr efengyì yn ei dechreuad, yn nghyda'i pherffeith- rwydd, a dim arall ; ac felly, y genedl Iuddewig a gafodd y cynyg cyntaf ar air ac egwyddorion y deyrnas hon ; atynt hwy yr oedd y proffwyd Ioan yn cyfeirio ei genadwri, yr un modd y deg-a-thriugain. Cenadwri Ioan oedd fod y Mesiah yn dyfod ar ei ol ef, a bod teyrnas nefoedd wedi nesâu. Yna y rhai a gredent ei genadwri ac a edi- farâent, a fedyddid ganddo ef yn yr Iorddonen, er maddeuant pechodau. Fel hyn y safai yr Iuddewon â'u holl nerth yn erbyn yr athrawiaeth newydd hon a'i hordinâdau. Pethau newydd na pherthynent i'w hen sefydliad hwy ) r hwn ydoedd yn llywodraeth ddai- arol a thymorol. Fel hyn y mae yr adran y dyfynwyd y geiriau uchod o honi, " Iesu a atebodd, oni ddarllen- asoch chwi erioed yn yr ysgrythyrau, Y maen a wrthododd yr adeiladwyr a wnaed yn ben y gongl: hyn a wnaeth yr Arglwydd, arhyfedd yw yn ein golwg ni. Gwybyddwch y dygir teyrnas Dduw oddarnoch chwi, ac a'i rhoddir i genedl a ddygo ei ffrwythau. A phwy bynag a syrth ar y maen hwn, efe a ddryllir : ac ar bwy bynag y syrthio, efe a'i mâl ef yn chwil- friw." Canfyddwnjyn eglur gynwya- iad y ddameg, maí gwrthodiad y gen- edl Iuddewig o'r efengyl, drwy eu hannghrediniaeth, a'r Cenedloedd yn ei derbyn yn ìlawen drwy ffydd,ydyw. Yn gyson â hyn y dywedai Pauí wrth yr Iuddewon yn Antiochia, " Rhaid oedd llefaru gair Duw wrthych chwi yn gyntaf; eithr oherwydd eich bod yn ei wrthod ac yn barnu eich hun- ain yn annheilwng o fywyd tragwy- ddol, wele yr ydym yn troi at y Cenedloedd." Bangor. Mary C. Jones. SIMONIAETH. (PARAD 0'K EHIFYN DIWEDDAF.) Defod arall a esgorwyd arni gwedi dyddiau yr Apostolion ydyw anog y byd i weddio fel- cyfrwng uniongyrchol i dderbyn maddeuant pechodau. Mae athrawon pob plaid, gydag ychydig eithriad, yn euog o'r trosedd hwn; o'r braidd y traddodir un bregeth heb anog y gwrandawwyr i weddio, yr hyn y sy hollol groes i amodau y sefydliad newydd; y mae yn ddysgeidiaeth rhy newydd i'r Testament Newydd. A ydyw yn rhesymol tybied y bydd i'r Ànfeidrol, yr hwu y sy Ianach ei olygon nas gall edrych ar bechod, wrando yr hwu y sydd a'i gorff yn deml i'r diafol breswylio ynddo,heb fyned drwy oruchwyliaeth y glarj&d yn gyntaf? Dywed Selyf, "Aberth yr an- nuwiol y sy fHaidd gan yr Arglwydd: ond gweddi yr uniawn y sy hoff ganddo." Diar. xv. 8. Yr oedd y dyn dall yr agorodd Crist- ei lygaid yn gwybod hyn: " Ac ni a wyddotn nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid, ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnw mae yn ei wrando," Ioan ix. 31 Dichon y dywedir fod Iesu Grist wedi anog y byd i weddio yn y geiriau canlynol: " Gofynwch, a rhoddir i chwí: Ceisiwch, a chwi a gewch: Curwch, ac fe agorir i chwi." Na, anog ei ddysgyblion y mae efe. Darlleu-