Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y METHODIST. ARFERIÖN Y CYMRY. TB.AETHAWD ABOBETN. Penjîod I —Akniweirdeb Cymiiu, a'i buif Achlysuboh. Fa allÀi nad oes un prawf sicraeh o sefyllfa foe3ol cenedl na'i diweirdeb neu ei hanniweirdeb. Os prydferthir cymeriad ei rhianod â'r blodeuyn liwn, dysgwylir cyfarfod â lliaws o rin- weddau eraill; ond os diffygiant yn hyn, y mae yn ddigonol i ateb arn bob anfoesoldeb arall—canys y mae yn sicr y bydd i duedd foesol pob oes ddeilliaw, mewn mesur mawr, oddiwrth y dylanwadau a gawsant oddiwrth y mamau a'u magodd. Lle bynag y maey dylanwadau hyn wedi eu Uygru yn eu gwreidd- yn, of'erydyw dysgwyl rhinwedd yn yr hiliogaeth. Y mae Cymru wedi cael ei chyhuddo o anniweirdeb gor- warthus. Ceisiodd y Dirprwywyr Addysg ein harddangos fel un o'r cenedloedd mwyaf anniwair dan y nefoedd. Ebai un o honynt—" Ond y mae un bai (sef anniweirdeb) ag sy'n gyffredinol trwy Ogledd Cymru, ac yn parhau yn ddîwrth- wynebiad gan unrhyw foddion gwareiddiad. Y mae wedi ffynu cyhyd o amser fel bai arbemp y Dywysogaeth, nes y mae ei anfodiad ymron peidio cael ei ystyried yn bechod." Yn gyffelyb y tystiolaethir am y Deheu; canys dywedir am y merched yno, "eu bod ymron oll yn anniwair—rhyfeddod fyddai pe baent fel arall." Rhaid caniatäu fod pwysigrwydd ynglŷn â'r cyfryw gyhoeddiadau; ac, os gellir ymddibynu ar eu dilysrwydd, fod moesau ein cenedl yn dra isel. Da genym gredu nad y'nt yn wirionedd cyffredinol am gorffy genedl; a hyfryd i deimlad pob Cymro yw, bod rhai o'n prií' lênorion ; wedi ymgymeryd â gwrthbroíi yr haeriadau hyn. Dîau, yr un pryd, fod anniweirdeb yn frycheuyn ag sydd yn llychwindod ar ein moesoldeb, ac felly yn achos cyfiawn i'n gelynion ein cablu. Da oedd gwrthbrofi haeriadau y Dirprwywyr, drwy eu cymharu â Lloegr, Sweden, Prwsia, Denmark, &c, a haedda y rhai a wnaetJiant hyny—er mai gorchwyl digon di- ddiolch iddynt a fu—gydnabyctdiaeth gwresocaf eu cydwlad- wyr, a dylentgael eu rhestru ynmysgeincymwynaswyr peuaf. Er hyny, nac ysgafnhaer baich y bai. Na süer y genedl i Mai, 1852.] c