Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

NEWYDDION DA. Rhif. 3.] MAWRTH, 1892. [Ail Gyfres. yn y Y PARCHEDIG JAMES WILLIAMS. MAE llythyrau dyddorol Mr. Williams ei hun yn dangos y modd yr arweiniwyd ef i fyned allan fel Cenadwr cyntaf Methodistiaid Cymru at y Llydawiaid, ac yn dangos hefyd yr anhawsderau mawrion y bu yn llafurio ynddynt yn ystod ei flynyddau cyntaf wiad. Nid oes dim yn eisieu yn y nodiad hwn ond ychydig grybwyllion am brif ddygwyddiadau ei fywyd. Ganwyd ef yn Lacharn, Sir Gaerfyrddin, Tachwedd 5ed, 1812 ; ac y mae yn awr o ganlyniad yn ei 8ofed flwyddyn. Derbyniodd ei daid, o du ei fam, ei argrafnadau crefyddol cyntaf dan weinidogaeth yr Hybarch Grifíìth Jones, Llan- ddowror, " Seren foreu y Diwygiad Methodistaidd." Dygwyd yntau (Mr. James Williams) i fyny yn yr Eglwys Sefydledig ; ac ni ddaeth yn wrandawr rheolaidd ar y Methodistiaid nes y dechreuodd e ewythr -y