Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

NEWYDDION DA. Rhif. 8.] AWST, 1892. [Ail Gyfres. PREGETHU A PHREGETHWYR BRODOROL KHASIA. GAN Y PARCH. ROBERT EVANS. AIL YSGRIF. DOSBARTH sydd genyf i son am dano y tro hwn ydyw dosbarth y pedwerydd, neu yr isaí o'r rhai sydd yn cael tipyn o le fel pre- gethwyr. Mae y dosbarth hwn yn cael ei wneud i fyny o ddynion heb fedru darllen, ond dynion o dduwioldeb diameuol, call, ac o ddylanwad er daioni yn y wlad. Nid ydynt, wrth gwrs, wedi cael eu derbyn gan yr Henaduriaeth, gan ei bod hi bron mor eiddigeddus o'r rhai a gydnabydda fel pregethwyr rheolaidd a'r un Cyfarfod Misol yn y wlad hon. Ond y mae hi yn llawer iawn mwy rhyddfrydig gyda golwg ar ganiatau i rai sefyll i fyny ac agor eu genau dros Iesu Grist. Bydd y rhai hyn yn cael eu hanfon i'r pentrefi cyichynol ar y Sabbothau, ac weithiau yn cael pregethu yn nghapelau rhai o'r Gorsafoedd Cenadol, yn enwedig y rhai mwyaf annghysbell. Yr enw mwyaf priodol ar y rhai hyn fel pregethwyr ydyw " cynghor- wyr," a chyngori yn benaf y byddant. Yn sefyllfa bresenol y wlad, pan y mae cynifer yn troi bob blwyddyn oddiwrth baganiaeth, ac angen mawr arnynt am eu cyfarwyddo pa beth i'w wneud, a pha beth i beidio ei wneud, y mae y dosbarth yma yn anhebgorol. Yn wir, hwy sydd yn medru gwneud hyn oreu o bawb. Gwyddant yn dda am yr anhawsderau i adael hen arferion paganaidd, pa beth i gynghori, a pha fodd i ddylan- wadu ar eu cyd-ddynion. Gwna y rhai hyn ddefnydd da o destynau. Cymerant i fyny ryw syniad, neu air, mewn adnod, a dywedant weithiau yn dda iawn arno. Nid ydynt yn hedeg yn rhy uchel, na chwaith yn cloddio yn rhy ddwfn, fel nas gaíl neb eu dilyn. Siaradant yn blaen ac i bwrpas. Bydd eu geiriau yn hedeg yn debyg i'r sofl-ieir yn ngwersyll Israel, yn ddigon agos i'r ddaear fel y gall yr holl gynulleidfa, heb ddim trafferth, eu dal, eu lladd, a'u bwyta. Ni wyr y dosbarth yma, beth Dynag, çldim byd am godi llwch a chreu niwl; ac y mae yn syndöd syniad mor dda sydd ganddynt am bregethu yr Efengyl. Mae y dosbarth yma yn ddieithriad, fel pregethwyr mawr yn gyffredin, yn cael rhai ereiü i ddechreu y gwasanaeth iddynt, ond nid am yr un rheswm. Bydd y Rhasiaid, o dan yr amgylchiadau hyn, yn reversio yr order, sef rhoddi y pregethwr bach i bregethu, a gwneud i'r pregethwr mawr ddechreu yr oedfa o'i flaen ef. Y casgliad naturiol oddiwrth hyn ydyw, fod dechreu y gwasanaeth yn gofyn mwy o wybodaeth na Phregethu. Byddai yn ddyddorol edrych pa fodd y maent yn d'od o hyd i'w testynau, gan nad ydynt yn medru darllen. Mae hyn yn peri fod eu cylch yn gyfyngedig iawn ; ond y maent yn fedrus iawn ar wneud y goreu o'r gwaethaf gyda'r mater yma. Byddant weithiau yn cael gan rywrai i ddarllen penodau iddynt, a hwythau yn dewis ryw adnod y bydd angen pregethu arni ar y pryd. Bryd arall byddant yn cael eu taro gan