Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

NEWYDDION DA. Rhif. ii.] TACHWEDD, 1892. [Ail Gyfres. Y CYNGOR HENADURIAETHOL CYFFREDINOL A'R GWAITH CENADOL. GAN Y GOLYGYDD. QNWYL GYFAILL, Drwg genyf nas gallaf gael hamdden i ysgrifenu fel y dymunwn ar y mater uchod. Yr oedd yr olygfa yn Toronto, Medi 21—30, yn werth myned yr holl ffordd o Bootle yno er mwyn ei gweled. O bob parth o'r byd yr oedd Henaduriaethwyr wedi cyrchu yno—o bob rhan o Canada a'r Unol Daleithiau, o Brydain, o wahanol wledydd Cyfandir Ewrop, o India, o China, ac o Awstralia,— mewn gair, o braidd bob gwlad lle y mae Henaduriaethwyr i'w cael. Ac heblaw brodyr yr oedd llawer o chwiorydd hefyd wedi dyfod i'r Cyngor. Nid oeddynt yn aelodau o hono; ond caniateid iddynt wisgo y mymryn " ruban glas" ar eu mynwesau fel y brodyr, yr hwn oedd yn sicrhau iddynt fynediad i mewn i ranau o'r lle a gedwid i aelodau y Cyngor. Yn Edinburgh, yn Gorphenaf, 1877, y cynaliwyd y Cyngor cyntaf, a'r ail yn Philadelphia, yn 1880. Y Cyngor yn Toronto oedd y pumed. Yn Glasgow, yn 1896, y trefnwyd i gynal y chweched. Yr oedd amryw wỳr enwog yn absenol o Toronto, y rhai y buasai yn hyfryd iawn genyf gael golwg arnynt, ac yn enwedig Dr. McCosh, o Princeton. Ond er absenol- deb llawer o wŷr galluog a dylanwadol yr oedd yr olwg ar y Cyngor yn urddasol mewn gwirionedd. Yr oedd Dr. Blaikie, Dr. John Hall, Dr. John G. Paton, Dr. Monro Gibson, Dr. Caven, Dr. Lindsay, Dr. Swan- son, a llawer ereill yno ; a'r syniad cyffredin oedd na chafwyd o gwbl gynulliad mwy llwyddianus yn mhob ystyr. Yn Eglwys St. James's Square y cynaliwyd y gwasanaeth agoriadol, ond cynaliwyd yr eistedd- iadau dilynoi yn Cooke's Church, yn yr hon y mae 2500 o eisteddleoedd. O'r cychwyn y mae y Cyngor wedi cymeryd y dyddordeb dyfnaf yn y gwaith cenadol; ac y mae mewn cysylltiad âg ef Gyfeisteddfod yn dwyn adroddiadau i mewn ar amrywiol gwestiynau cysylltiedig â Chenadaethau mewn gwahanol wledydd. Cyflwynid yn Toronto adroddiad adran ddwyreiniol y Cyfeisteddfod gan Dr. Swanson, Llundain ; ac adroddiad yr adran orllewinol gan Dr. Ellinwood, New York. Ac un o'r areithiau gwresocaf a grymusaf a draddodwyd o flaen y Cyngor oedd araeth Dr. Swanson. Darllenwyd papyr ar " Barotoad Cenadon gartref ar gyfer y Gwaith Tramor," gan y Parch. D. W. Oollins, D.D., Philadelphia; ar "Barotoad Cenadon Brodorol," gan y Parch. J. S. Dennis, D.D., Beirut, Syria ; ar " Hunan-gynaliaeth Eglwysi Brodorol," gan y Parch. C. M. Grant, Dundee. Boreu a phrydnawn dydd Gwener (Medi 23ain) yr oedd y materion uchod dan sylw, a'r un modd un mater arall, sef " Perthynas yr Eglwysi Brodorol â'r Églwys Gartref." Yn yr hwyr bu raid trefhu i gynal cyfarfodydd yn Knox Church, yn gystal ag yn Cooke's Church ; ac yr oedd y ddau adeilad yn llawn. Yr un siaradwyr oedd yn y ddau gyfarfod, sef y Parch. D. McKichan, D.D., Is-Ganghellydd Prif-ysgol Bombay; y Parch. Robert Laws, M.D., D.D.,