Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

NEWYDDION DA Cyf. II. Rhif. 19] GORPHENAF, 1893. [Ail Gyfres. COF-GOLOFN Y PARCHEDIG THOMAS JERMAN JONES. 'ELE i'n darllenwyr ddarlun (da fuasai genym ei roddi yn well) o'r gofgolofn sydd wedi ei gosod ar fedd y Cenadwr íFyddlawn uchod yn nghladdfa Smithdown Road, Liverpool. Bu farw, fel y cofir, gerllaw Dungeness, ar fwrdd y Clan Matheson, ddau o'r gloch ddydd Llun, Ebrill i4eg, 1890 ; a chladdwyd ef y dydd Gwener canlynol. Nid ydym yn awr yn bwriadu rhoddi math yn y byd o grynhoad o hanes ei fywyd. Cafwyd y flwyddyn ddiweddaf gyfres o lythyrau tra dyddorol, yn arbenig ar ei fywyd cyn ei fynediadj allan i India, gan y Parchedig William Williams, Glyn Dyfrdwy. Wele yr arysgrifen sydd ar y golofn :— In Loving Memory of the Rev. THOMAS JERMAN |ONES, Who was for 20 years an energetic and successful Missionary în connection with the Welsh Calvinistic Methodists' Mission in the Khasi Hills, Assam. Died i4th April, 1890, off Dungeness, on his return home, aged 56 years. " Well done, good and faithful servant." " Blessed are the dead which die in the Lord from henceforth, yea, saith the Spirit, that they may rest from their labours. for their works follow with them."