Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Tachwedd 15,] Y BEREAD. [1842. PREGETH, GAN y PARCH. T. EDWARDS, PITTSBURGH, ESAY XXXIII. 17, ia " Dy lygaidawelant y Brenin vn ei degwch: gwelant y tirpell. Dy galon a Tfyfyria ofn: pa le y mae'r ysgrif- enydd? paleymae'r trysorwr? pale y mae rhifwr y tyrau 7" Y mae y testyn hwn wedi ei lefaru yn flaenaf ergosod allan addewidion Di'w i'r Iuddewon, pa rai oeddynt yn gwir ofni yr Arglwydd yn Seion ; sef'y buasai Duw yn eu diogelu hwy pan fuasai yr Assyriaid yn ymosod ar Jerusalem. Mae yr Arglwydd yn galw sylw y rhai pell er dangos iddynt ei fawr ofal am ei bobl mewn trallodion, a gellir nodi am y rhai a ofalont am achos Duw mewn atnser o dawelwch, y gofala Duw am da- nynt hwy mewn amser o drallod; ond pan ddaeth yr Assyriaid yn erbyn y ddinas, a phan oedd tân ar gael ei daflu iddi, yr oedd y rhag- rithwyryn ofni ac yn dychrynu: adn. 14. Ac mae darluniad yn adn. 15 o'r Cristion oedd yn ddiogel, ac yn adn. 16 mae datguddiad y buasai natur ei hun yn ddiogelwch iddo ; " Cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef." Gofala Duw am danu er ei ddiwallu—" Ei fara a'i ddwfr fydd sicr." Ac mae yr addewid yn dangos buddugoliaeth Jerusalem ar yr Assyriaid, yng- hyd a'rprydferthwch ymddangosiadol fuasai ar y breniu Hezeciah ar ol enill y dydd ar ei elyn- ion. Yr oedd yn arferiad gan freninoedd pan fuasai trallod i wisgo sachliuin a ilydw, ond yma dangosir y buasai y brenin yn ei degwch, ac y byddai iddynt i weled y gwledydd cymydog- aethol i'r cwr pel.'af. " Gwelant y tir pell," heb ofn y gelynion: ond er ein haddysg, sylwn, yn I. I fod Crist yn frenin. II. Ei fod ef yn frenin yn ei degwch. III. Braint ei bobl—cael ei weled ef fnlly. IV. Y bydd i'r rhai a'i gwelant ef felly fwyn- hau breintiau mawr pan fydd ei holl elynion we- di eu gorchfygu. 1. Am Grist fel brenin. Dewiswyd a gosod- wyd ef yn ei swydd. Dewisir Llywydd Amer- ica trwy bleidlais y dinasyddion, ond nid feliy y dewiswyd Crist. Nid oedd neb yn cyd-sefyîl ag ef. na neb yn y nef nac ar y ddaear oedd yn addas i'r swydd oruchel ond ei hunan, ond I fe'i dewiswyd gan y Tad, o'i ras a'i gariad ei \ hun atom ni blant dynion. Hefyd, mae brenin- | oedd Ewrop yn dyfod i'w sydd trwy waedol- iaeth, ac nid cymmaint am eu bod yn addas i'r swydd freninol; ond yr oedd Crist wedi dyfod i'rswydd am ei fud yn Fab Duw, ac yn addas i'r swydd. Hefyd, neillduwyd efyn nhagywyddol- deb, cyn rhoddi bodoliaeth i amser. Mae ei fynediad ef allan o'r dechreuad. " Er tra- gywyddoldeb i'm heneinniwyd," &c. Diar. vîii. 23—31. 2. Fel brenin cyfarchwyd ef yn Methlehem ar y boreu y ganwyd ef. Yr oedd yn arferiad yn y Cyt, 1. 43 Dwyrain wrth nesau at frenhinoedd eu han- rhegu â rhoddion. Solomon a anrhegwyd felly gan frenines Seba, a chan erajll ac fel brenin y darfu i'r doethion ymweled a'r Mab bychan— hwy a ddygasant iddo anrhegíon o aur, a thus, a myrr. Mat. ii. 11. 3. Cyferchir Crist fel brenin. " Gwregysa dy gleddyf ar dy glun a marchog, o Gadarn ;" &c. Salm xlv. 3. Arferni rhai i gyfarch eu brenin ar ei osodiad yn ei swydd, gan ddymuno mewn modd cyhoeddus eu dymuniad iddo. Cy- hoeddwyd Abrec o flaen Joseph fel arwydd o barch iddo ; ac er dangos ei fawredd: felly hefyd mae cyfarchiad yn cael ei roddi i Grist fel brenin, a dymuniad am ei lwyddiant. " March- og yn llwyddiannus," &c. Mae Crist yn frenin tragywyddol. 4. Nid mewn pethau daearol mae ei fre- niniaeth ef yn gynwysedig. Mawredd daearol a bertbyna i'r gorsedd-feinciau godidocaf yn mhlith dynion; " ond nid yw teyrnas Dduw fwyd a diod," ond mewn pethau ysbrydol, me- gys llawenydd, tangnefedrl, a phethau o dragy- wyddol barhad. Disgwyliai yr Iuddewon am Grist i ymddangos mewn mawredd bydol, ond nid oeddyntyn deall y proffwydoliaethau am na- tur ei ymddangosiad. Yr oedd Crist yn tystio eihun, " Fy mhreniniaeth i nidyw o'rbyd hwn." Diffyg iawn ddeall a iawn weithredu yw yr ach- os fod crefydd Crist wedi cael ei chysylltu â llywodraeth wladol ; hyny sydd wedi bod yn rhoddi hawl anghyfreithlon i roddi y saint di- niwed i farwolaeth. Fel Brenin, efe oedd ahawli sefydlu reolau ei deyrnas, ac efe a wnaeth hyny, fel nad oes gan neb arall awdurdod i osod dim atynt na thynu oddiwrthynt. 5. Mae rhagoriaethau fel brenin yn berthyn- asol iddo nr bob brenin a fu, sydd, neu a ddaw. Maeei freninireth ef y foreuaf, yr odidocnf, y dirionaf, yr eangaf, a hyny yn ei pharhud ; " Efe adeyrnasa ar dy Jacob, ac ar ei freniniaeth ni bydd diwedd." A gwawried y dydd pan ddaw teyrnasoedd y byd yn eiddoein Harglwydd ni. II. Brenin yn ei degwch ydyw efe. ■ Gellir dywedyd am dano ei fod ful brenin we- di ymdrwsio ar ol dydd y frwydr fawr. Gwel- wyd ef pan yn ei sefyllfa o ddarostyngiad wedi gwisgo sachliain a lludw. Ymostyngodd mewn cyfyng ymdrech yn yr ardd. Cymerodd ei wisgo a'r wisg borphor, er mae gwawd oedd hyny arno ef gan ei elynion. Cymerwyd ei wisg oddiarno yn nydd ei groeshocliad, gan ei rhanu yn eu plth. a bwrw coelbren am ei baisj Rhif. 22.