Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

EURGRAWN MON, NEU DRYSORFA HANESYDDAWL. Rhif. 7.] ~ 31, GORPHEJSTHJF, 1825. [Gwerth 4$c. HANES BYWGRAFFYDDOL 1T BR. JOHN JËWEU, ARGDWYD0 ESGOB 8ALISBURT. YGWR enwog hwn a gyfrifid yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw yn sefydlu yr achos rhagdystiol yn Mhrydain, a anwyd yn Buden, pentref yn swydd Dyfnaint. yn y flwyddyn 1522, sef y 13eg o deyrnasiad Harri VIII. Derbyniodd egwyddorion cyntaf ei ddysg- eidiaeth dan nawdd ei ewythr o frawd ei fam; ond ni wyddis nemawr am dano hyd ei dderbyniad yn 14eg oed i goleg Merton yn Rhyd- ychain. Ychydig o enwogrwydd fal ysgolhaig a berthynai i'w ddysgawdwr yn y coleg, yr hwn oedd hefyd a'i duedd yn lled elyniaethol i wyr ieuanc oedd yn cefnogi y Diwygiad. Yn yr amser y mae galluoedd y côf yn dechreu ymestyn, mae egwyddorion yu gyffredinol yn ym- soddi yn ddwfn; ac oni buasai y gwr ieuanc hwn gael eiroddi i ofal gwr dysgedig o wahanol duedd i'w ddysgawdwr cyntaf, gallai y buasai rhagdystiaeth gwedi colli un o'i hamddiffynwyr dysgleiriaf a gwrolaf. Oud gan y duedd oedd ganddo i'r diwygiad, ac ei gyfan-ymrodd-. iad i fod yn enwog mewn ysgolheigdod, cafodd eì dderbyn i goleg Corpus Christi, lle y treuliodd agos ei holl amser i ddarllen a myfyrio: dy wedir y dechreuai yn ddidor bedwar o'r boreu, hâf a gauaf, ac na roddai heibio hyd ddeg o'r nos : ond yn hyn anhwyliodd ei iechyd, a bu y cloffni a gafodd dan lycheden o anwyd yn flinder iddo weddill ei oes. Ni ddylai unrhyw gais na chyrhaeddiad beri esgeuluso cyn- nal y fendith fawr o iechyd corphorol. Gan i'w wybodaeth gynnyddu mor enwog, ac i'w rinweddau fod mor gyhoedd, dewiswyd ef yn broffeswr areithyddiaeth yn ei goleg, ac yr oedd ei gynnydd mor amlwg ac i'r deon, yr hwn oedd babydd ysgeler adrodd yn fynych, " Carwn di, Jewell, pe ni byddit Zuing« liad. Wrth dy ffydd, galwaf di yn haeriedydd, ond yn dy fuchedd, angel wyt." Pan ddaeth Edward y Chweched i'r orsedd, gwnaeth Mr. Jewell broffes gyhoedd o'i egwyddorion, a deuai yn gyfaill i Peter Martyr, proffeswr difinyddiaeth yrurdd ysgol, a dechreuai bregethu yn awchus yn erbyn pabyddiaeth; ond ar farwolaeth Edward, ac esgyniad Mary T'aedlyd i'r orsedd, daeth Mr. Jewell yn nód Fsaethau ei elynion, a