Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

TYWYSOG CYMRU. Rhif. 7. TACHWEDD 15, 1832. Cyf. I. TRAETHAWD AE GÜRÎAD Y GALON. YSYMÜDIAD dringlynaidd hwnw neu gùr y rhedweli, yrhyn yngyffred- in a elwir cùr (puísc), a acliosir trwy fod y gwaed yn gyntaf yn cael ei dywallt ìddynt drwy ymdrech buan a chryf o eiddo cropa (uentrtcle) aswy y galon, ac yna symud yn mlaen o lestri mwy i rai o faintioli llai, trwy yr hwn y mae y gwrthdarawiad yn cael ei gynnyddu fwy-fwy, dan ei derfyn- iadau gwalltaidd y mae yn dyfod fwyaf oll. Mewn canlyniad i'r gwrthdarawiad hwn y mae y rhedweli yn ymchwyddo, a'r chwyddiad hyn, neu ymlediad y galon (diastole), gan gynted ag y pallo'r achos eynhyrtìol, hyny yvv, pan y mae llifiad y gwaed iddynt yn pallu, a raid ei ganlyn gan gwtogiad neu ymgrynüad y galon wrlh anadlu (systole), oherwydd y mae y rhed- weligan mwyaf trwy eu gwrthneidiolrwydd, ond yn rhanol trwy eu cwtogiad cyhirog, yn adferu eu hunain ; trwy y cyfrwng hwn y cymhellir y gwaed i'r gysawd wythenawg, gan fod y dorau hanner-gyìchawg (serni- tunary va/ves) wrtli enau y rhedweli fawr (aorta) yn rhwystro ei adliíìant i'r galon. Gyda golwg ar symudiad yn unig, nid oes amgen na phedwar math o gùr, sef yw hyny, mawr a bychan, buan ac araf. Pan y byddo buaTidra a mawredd yn cael eu cysylltu ynghyd y maeyndyfod yn chwyrn neu yn angerddol, a phan fo yn fychan ac yn aruf, gelwir ef yn gùr gwan. Dywedir hefyd ei fod yn aml ac yn anaml, cyfartal ac anghyfartal, ond nid y rhai hyn ydyw effeithiau hanfodol symudiad; y mae myn- ycliiad a buandra yn cael ei cyd-gymysgu â'u gilydd yn aml. Dywedir fod y cùr yn galed neu yn feddal gyda golwg ar y rhedweli, megys y mae yn dỳn, gwrthymwthiol, ac yn galed neu liprynaidd, meddal neu lac; canys y mae tymher y rhedweli yn cynorthwyo yn fawr at newidiad y cùr; oherwydd hyny y mae yn canlyn weithiau nad yw y cùr yr un fath yn y ddwy fraich, yr hyn sydd ddygwyddiad aml yn y cìefyd a eìwir hcmiplexy, neu y parlys yn un oclir i'r corff' o'r pen i lawr. At y rhai uchod dodwn y cùr dirdynedig, yr hwn nid yw yn deilliaw o'r gwaed, ond o gyflwr y rhedweìi, ac fe'i gwwbyddir drwy symud- iad crynedig dychlamoí, ac y mae y rhed- weli yn ymddangos fel pe'i tỳnid tuag i fyny (pcr sattum); yr hyn,mewn clefydau llym-boethion sydd anvydd tra sicr o far- wolaeth, ac yn briodol iawn y gelwir ef yn gùr dynion trancedig, yr hwn hefyd, y rhan amlaf, sydd yn anghyfartal ac yn ddys- beidiol. Y mae cùr mawr yn arddangos llifiant mwy helaeth o waed i'r galon, ac oddiyno i'r rhedweli; ac felly y mae cùr bychan i'r gv,rrthwyneb. Y mae rhai ysgrifenwyr wedi casglu, os bydd pwysau corff dynynl60 pwys,fod 80 o'r rhai hyny yn gynnwysedig o hfnoddau (jìu'ìds). Dywedir fod pob cropa o'r ffalon yn cynnwys tua phum wns o waed, a'i bod yn cael ei llenwi a'i thywallt bob ymgrynöad a gohiriad o eiddo y galon, a bod yn gyffredin tua 80* o darawiadau mewn mynyd, ac felly 4800 mewn awr; os felly, y mae 25 pwys o waed yn llifo trwy bob cropa o'r galon bob mynyd. Lìawer yn chwaneg a allesid ddweyd ar gylchrediad y gwaed, a'r amrywiol gyfne- * Mae ysgrifenwj-r meddygol a amrywiant ychydig yn hyn ; myn rhai mai 70 sydd wiraf, ac ereill i\vy, a rhai lai; ond mi agymerais reol yr ysgrifenẁyr diweddaraf ar y pwngc.