Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YR ARWEINYDD. Ehif. 10.] MAI, 1870. [Cyf. I. pẃiiîjjíiMarf|v Y DDAU GYFAMMOD. Parhad o Rifyn Ebrill. Betli, gan hyny, yw y nieddwl yn y iaith fi'ugurol yma? Nid oes ys- grifenu yn llythyrenol ar y galon : gan hyny, y meddwl yw, fod y gyfraith yn cael ei rhoddi yn y meddwl neu y deall. Hyn sydd yn cael ei osod allan yn y gymhariaeth o ysgrifenu—" ac a'i hysgrifenaf hi yn eu calon- au." Yn y gymhariaeth, yr Arglwydd yw yr ysgrifenydd ; dywed, " mi a'i hysgrifenaf." Y galon a etyb i'r peth yr ysgrifenir arno : " ysgrif- enaf hi yn eu calon hwynt." Dengys yr apostol fod ganddynt hwy offer- ynoliaeth yn hyn ; oblegyd dywed Paul, pan yn cyfeirio at yr ysgrifeniad yma, " Wedi ei weini genym ni," yr apostolion. Cymmerent hwy le y pin. Ond nid ag ingc yr ysgrifenid, ond ag Ysbryd y Duw byw. Yr Ysbryd, gan hyny, a gyfetyb i'r ingc yn y ffugur. Pan ddaeth yr amser i'r gyfraith fyned " allan o Seion, a gair yr Ar- glwydd o Jerusalem ;" a phob peth yn barod i'r Arglwydd i dclechreu ys- grifenu, ac fel mewn pob achos o ysgrifenu, y peth cyntaf yw llanw y pin ag ingc. Yr apostolion yw cyferbyniad y pin ; a hwy a lanwwyd à'r Ysbryd Glàn ; cyferbyniad yr ingc. Trwy yr apostolion, wedi eu llanw á'r Ỳsbryd Glàn y llefarodd Duw y gyfraith, a'r bobl wrth wrando a " ddwysbigwyd yn eu calon." Ond, a rhoddi heibio pob ffugur neu gym- hariaeth, pa fodd y rhoddes yr Arglwydd ei gyfraith, y cyfammod newydd, yn meddyliau ei bobl ? Yr ateb yw, mai yr Efengyl a bregethwyd idd- ynt gan yr Ysbryd Glân, yr hwn a anfonwyd i lawr o'r nefoedd, " i'r hyn bethau y mae yr angylidn yn chwenychu edrych. Y mae hyn yn gwbl gydunol â'r bwriad a'r cynllun dwyfol; oblegyd rhoddes yr Ar- glwydd orchymmyn i'r apostolion i "fyneda dysgu yr holl genedloedd"— i " fyned i'r holl fyd, a phregethu yr efengyl i bob creadur." Anfonwyd Paul at " y bobl a'r cenedloedd, i'w troi h^vy o'r tywyllwch i'r goleuni> o feddiant Satau at Dduw." " I rai," medd Paul, " y rhoddwyd y gras 2 D