Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

irie, T>A.1<T OI/STGH-â.EJTEC Mr, W. T. REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAVIES. RHIF 4. EBRILL, 1878. PRIS CEINIOG. CYNWYSEB: Cor y Capel a Chaniadaeth y Cysegr Llytnyrau Ieuan Gwyllt...... Llety'rGân............ Barddoniaeth— Fel Milwr Dewr......... Gwersi Cerddorol......... Colofn Holi ao Ateb ...... Teithiau Cerddorol Cynulleidfaol Colof n y Dadganydd— Dadganu heb gyfeiliant Colofn yr Arweinydd— Andante ac Andantino...... Y Bwrdd Golygyddol— Ein Bwrdd Cerddorol ...... Cymdeithas Gorawl Bangor Ein Bhifyn Cerddorol laf 25 26 26 27 28 28 29 29 30 31 32 32 CWRS 0 ANERCHIADAU NEU BAPYRAU YMARFEROL A BEIRNIADOL AR GERDDORIAETH A CHANIAD- AETH GYSEGREDIG. TSGEIP III. COB Y CAPEL A CHANIADAETH Y CYSEGE. Wedi oeisio dangos yn mha sefyllfa yr ydym yn oael ein corau cynulleidfaol yn y cyffredin, yn en cysylltiad a ehaniad- aeth y cysegr, a rhoddi o'ch blaen rai o'r pethau sydd yn achos o hyny, dewch i ni yn mhellach fwrw golwg ar un neu ddau o achosion ereill, a'r prif bethau o bosibl y dyddiau hyn, sef esgeulusdra a difater- wch. Ao er mwyn ceisio codi awydd ynom i feddwl a thalu y sylw dyladwy i'r gwasanaeth, ni a osodwn i lawr ddau osodiad—Yn laf, fod gwasanaethu crefydd gyda'n hamser a'n talentau yn gosod urddas arnom fel cerddorion a ohelfydd- ydwyr. Yn 2il, fod cysylltu ein gallu- oedd, a chyflwyno ffrwyth ein talentau, i wasanaeth achos Iesu Grist, yn gosod mwy o urddas ar y golfyddyd gerddorol, ac ar ein llafur ninau. 1. Cawn fod holl brif gyfansoddwyr a cherddorion yr oesau, cymerer o Pales- trina hyd ein dyddiau ni, wedi talu y 8ylw manylaf i gerddoriaeth y cysegr j a Cûyflwynasant hufen eu gweithiau i gy- foethogi cerddoriaeth eglwysig. Ond o'r braidd, y mae arnom ofn, y mae ein cerddorion a'n cantorion Cymreig yn credu fod yn werth iddynt hwy drafferthu gyda cherddoriaeth gynulleidfaol. Tyb- iant, ond myned trwy y gwasanaeth, er mor llwm ydyw, yn rhyw lun, y gwna hyny y tro yn burion ; heb feddwl nac ystyried fod dyrohafu mawl i'r Goruchaf y gwaith sydd yn gosod yr urddas mwyaf arnom fel cerddorion. Dywed y Parch. H. R. Haweis am Mendelssohn, " Yr oedd ganddo y syniad uchaf am bwrpas ac amcan ei gelfyddyd, ac am gyfrifoldeb y celfyddydwr." Dyma y rheswm, tybiwn, iddo gyfansoddi cyn lleied o'r hyn a elwir yn lyric, neu stage mtusic. O'r braidd yr aeth efe i mewn i diriogaeth yr opera; ond adferodd yn ei draethganau (oratorios) deimladau dwfh a chysegredig Bach a Handel. Teimlai nad oedd ei gynyrchion bydol (secalar), er mor ar- dderchog ydynt, yn gosod digon o urdd- asolrwydd ar ei natur. Yn ei gyfansodd- iadau cysegredig y mae efe yn tallu ei oleu yn mhellach ao yn uwch na'i gyf- oesẃyr, ac na neb o'i olynwyr eto—fel goleudy mawr, moesol, yn nghanol mor peryglus a thywyll. Ac yn ol ei eiriau ef ei hunan, edrychai ar gerddoriaeth yn y wedd fwyaf ddifrifol, a ffieiddiai un- rhyw dwyU a chamddefnydd o'r gelf- yddyd. 2. Nid oes dim hefyd sydd yn rhoddi mwy o urddas ar y gelfyddyd ei hun, na'i defnyddio i wasanaethu crefydd. Yn wir dyma y pwrpas uchaf y mae yn bosibl cymhwyso cerddoriaeth iddo. Ni chododd Handel, Sebastian Bach, Mozart, Cherubini, Mendelssohn, Sir Sterndale Bennett, Sir John Goss, Richard Mills, John Ambrose Lloyd, a John Boberts (Ieuan Gwyllt), i'r urddas a'r dylanwad y maent wedi ei gyrhaeddyd yn nerth, neu trwy nerth eu hathrylith yn unig; ond y dyben a'r amcan yr oeddynt wedi oysegru eu hunaia iddo a'u dyrohafasant