Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YSGO ID-AJDT OLTGIAETH Mr. W. T. REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAYIES. RHIF 7. GORPHENHAF, 1878. PRIS CEINIOG. CYNWYSEB: Caniadaeth Cysegr Duw...... Llety'r Gân............ Eisteddfod Genedlaethol Carnai-fon Eisteddfod Cefn, Euabon...... Gwersi Cerddorol......... Barddoniaeth— Y Gwladgarwr ......... Cerddoriaeth i'r Ieuenctyd — Y Plant, ufyddhewch i'ch Ehieni Teithiau Cerddorol Cynulleidfaol Bywgraflîadau Byrion— Y diweddar Drebor Alaw, Llanelli Y Bwrdd Golygyddol— Congl y Cyfansoddwr ...... Ein Bwrdd Cerddorol ...... Hysbysiadau........... 49 50 51 51 52 53 54 54 55 55 56 OANIADAETH CYSEGR DITW. (Parhad o tudalen 42). GAN SYLWEDYDD PREGETHWEOL. 1. Dyledswydd Dyn i Ganü. 2. Dylai dyn ganu am fod y Beibl yn gorchymyn hyny.—Caner, am fod Moses yn ceisio genym—" Dysg y gan hon liefyd i feibion Israel, a gosod hi yn eu genau hwynt." Caner, am fod Esay wedi dymuno—" Cenwch, nefoedd ; a gor- foledda, ddaear." Caner, am fod Jeremia yn ceisio genym—" Cenwch orfoledd i Jacob, a chrechwenwch yn mhlith rhai penaf y cenedloedd." Caner, am fod Solomon, y doethaf o blant gwragedd, yn canmol canu—" Y cyfiawn a gan ac a fydd lawen." Caner, am fod Hosea yn ceisio tune genym—" Can fel yn nyddiau dy ieuenctyd, ac megys yn y dydcliau y daethost i fyny o'r Aifft." Caner, am fçd yr lien Sephania yn ceisio alaw oddiar ein gwefus—" Merch Sion, ean; Israel, crechwena ; merch Jerusalem, ymlawen- ycha a gorfoledda a'th holl galon." Caner, am fod y fath athronydd sych a Phaul—y fath matter-of-fact man diber- oriaeth—yn gorchymyn i ni ganu—"Gan jcfaru wrth eich gilydd mewn psalmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu a phyncio i'r Arglwydd." Caner, am fod y fath bencerddor a Dafydd yn gorchymyn i ti ganu yn y termau taer a ganlyn— " Cenwch yn llafar i Dduw ein cademid —cenwch yn llawen i DduAv Jacob— cymerwch salm, a moeswch dympan, y delyn fwyn a'r nabl—udgenwch udgorn yn y lloer newydd, yn yr amser nodedig, yn nydd ein huchelwyl—deuwch, canwn i'r Arglwydd, ymlawenhawn yn nerth ein hiechyd—deuwn ger ei fron ef a diolch, canwn yn llafar iddo a salmau— cenwch i'r Ai'glwydd ganiad newydd, cenwch i'r Arglwydd yr holl ddaear— dadgenwch yn mysg y cenedloedd ei ogoniant ef, yn mhìith yr holl bobloedd ei ryfeddodau—cenwch i'r Arglwydd gyda'r delyn, gyda'r delyn a llef salm, a'r udgyrn a sain comet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin—pob perchen anadl molianed jy Arglwydd." Chwi nad ydych byth yn agor eich genau i folianu Duw, ufyddhewch i geisiadau taerion yr ysgrifenwyr santaidd; oblegyd os medrwch " anadlu," chwi fedrwch " foli," am fod pob perchen anadl i folianu yr Arglwydd. Mae Moses, ac Esay, n Jeremia, a Solomon, a Hosea, a Sephania, a Dafydd, a Paul yn dysgwyl yn y nef- oedd am i chwi ddechi-eu y mawl, ac y mae y Duw a lefarodd drwyddynt yn clustfeinio am eich Uafar glod hefyd ; gan hyny, seiniwch yr anthem nes y byddo y nefoedd yn myned i hwyl wrth wrando arni yn seinio o gylch yr orsedd di*agy- wyddol! 3. Dylai dyn ganu am fod pererinion Sion yn arfer canu.—Taflodd Duw ger- bydau Pharao a'i fyddin falch i'r Mor Coch ; ond methodd y pererin Moses ddal heb ganu—" Canaf i'r Arglwydd, canys gwnaeth yn rhagorol iawn, taflodd y march a'i farchog i'r mor." Gorchfygodd yr Israeliaid Jabin, brenin Canaan ; ond dacw gwraig Lapidoth, a Barac, fab Abinoam, yn canu am y goncwest— "Clywch, O! freninoedd—gwrandewch,