Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

YB ■JD^JlsT OLTGIAETH Mr. W. T. REES (Alaw Ddu), a'r Parch. J. OSSIAN DAYIES. CYFROL III. RHIF 27. MAWRTH, 1880. PRIS CEIIMIOG. CYNWY8EB: Cerddoriaeth y Cysegr ......... Llenladrad............... Nodion o'r Brif Ddinas ......... Nodion o Lanau y Mersey......... " Engedi " (Beethoven) yn Abertawe ... Pa beth yw Cerddoriaeth, a'i dechreuad Cerddoriaeth— "Cofiaynawr"............ Congl yr Hen Alawon—Crefyddol a Moesol " Blodwen" (in Character) yn Abertawe Congl Holi ac Ateb............ Ein Bwrdd Golygyddol— Ein Bwrdd Cerddorol ......... Y Wasg Gerddorol ......... Molawd i'r Haul ......... Hysbysiadau............... 25 26 27 27 28 29 30 31 32 33 33 34 34 36 Nid oes hawl gan neb gyhoeddi ysgrifau a ymddangosant yn yr Ysgol heb ganiatad, neu ynte gydnabod obaley cymerir hwy. CERDDORIAETH_Y CYSEGR. Mwy o amrywiaeth yn y rîiànau de- fosiynol oV gwusanaeth yn mhlith yv Ym- nállduwyr. — Mae y cwestiwn hwn yn tjnu eylw arbenig mewn amryw drefydd yn y Deheudir yn bresenol, ac y mae gwir angen cael diwygiad gyda hyn. Y mae y gwasanaeth yn y rhan arnlaf o'n capelau yn hynod o lwm ac oer. Ym- ddìbynir yn gwbl ar y bregeth, ac nid oes dim gan y bobl i'w wneud—o gan- lyniad ceir y difaterwch a'r gwamalwch sydd mor nodweddiadol i ni. Y mae rhai o'n gweinidogion a'n cerddorion sydd wedi talu sylw neillduol i'r mater hwn, yn amcanu at greu diwygiad ; ac y mae diwygiad wedi dechreu yn mhlith y Methodistiaid, a gobeithiwn y dilynir hwy gan enwadau ereill. Dylid ar yr un pryd ddwyn i mewn, neu yn hytrach adferu, y gwelliantau i'r gwasanaeth yn raddol, ac mor ddidramgwydd ag y byddo modd. Mae y Parch. J. Cynddylan Jones, a'i gynulleidfa, yn Nghaerdydd, nid yn unig wedi dwyn i mewn fwy o amrywiaeth yn adran y gerddoriaeth, ond hefyd wedi mabwysiadu rhanau o'r Llyfr Gweddi Cyffredin; a thrwy hyny, wedi achosi cryn gyffro mewn cylchoedd neill- duol, a llawer o ysgrifenu yn y papyrau. Parodd hyn iddo yntau draddodi anerch- iad yn eigapel—Frederick St-, Caerdydd, i amddiffyn y cwrs y mae ef a'i gynull- eidfa yn unfrydol wedi ei gymeryd. Y mae yr anerchiad rhagorol hwn wedi ei gyboeddi yn y Western Mail. Y mae un ysgrifenydd ^n bygwth y gymanfa gyffredinol arnynt am ddwyn pethau Eglwys Loegr i fewn i'r capelau Methodistiadd. Dywed yntau mai per- thyn i'r Methodistiaid yr oedd y peíhau hyn, ond eu bod wedi myned o arferiad wrth gynal cyrddau mewn lleoedd bychain ac anghyfleus, megys, cyrddau ar hyd y tai, &c. Dywed na roddai dim fwy o bleser iddo ef na'i gynulleidfa na gweled swyddogion y corph yn dyfod i'w gapel i wrandaw ar y gwasunaeth, a dy]ai y Gymanfa, yn hytrach na rhoddi un rhwystr ar ffordd hyn, drefnu mesurau i ystyried y mater yn ddifrifol, a phenodi ar nifer o weinidogion a cherddorion yr enwad i dynu allan gynllun gwell. Y mae ein cerddorion yn gweithio yn gan- moladwy iawn eiaoes ar wahan, ac o dan lawer o anfanteision, i gyrhaedd yr am- canion hyn. Gwnaeth Ieuan Gwyllt lawer tuag at buro cerddoriaeth gy- nulleidfaol; ond nid Uawer i gyfoethogi y gwasanaeth cerddorol. Y mae ein cerddorion sydd yn llafurio yn y cyfeiriad hwn yn bresenol yn ancanu at hyny; ac mae y Llyfr Anthemau a Salmdonau Cynulleidfaol, wedi ei gyhoeddi gyda'r amcan arbenig o gael mwy o amrywiaeth yn y gwasanaeth cerddorol. Y mae y gyfran gyntaf o'r gwaith hwn allan, a dylai ein cynulleidfaoedd fabwysiadu y cynllun ar unwaith. Ynddo ceir SaZm- don ac Ánthem ar amrywiol destynau, i gyfateb testyn y bregeth. Trwy y cyn- Uun hwn, nid yn unig cyfoethogir y gwasanaeth, ond dygir i mewn unoliaeth yn j gwasanaeth hefyd.