Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYLCHGRAWN Y GYMDEITHAS ER TAENU GWYBODAETH FUDDIOL RHIFYN XII—RHAGFYR 15, 1834 CASTELL CAER-YN-ARFON. [Darlun Castell Caer-yn-Arfon.] Cytunir yp gyffredin nadoes unprawf fod ti'ef yn man y mae Caer-yn-Arfon yn awr, nes i Iorwerth adeiladu ei gastell yno ; etto yr oedd hen sefyd- liad yn ymyl, a elwid gan y Prydeiniaid Caer Seiont; a'r Rhufeiniaid, er mwyn dynwared y swn, a'i galwasant Segontium. "Dynoda yr hanesydd Nennius, yr hwn a ysgrifenodd yn yr wythfed canrif, hi yn Gaer Cystent; oddiwrth Gystenyn ym- erawdwr; a dyweda Matthew o Westminster, i adeiladwyr Castell Caer-yn-Arfon gael corph yma, a thybiwydmai corph Cystenyn ChIorus,tad Cystenyn fawr' oedd. Önd newidiodd Caer Seiont ei henw i Gaer-yn-Arfon yn mhell cyn dyfodiad Iorwerth ; sonîa Giraldus am Gaer-yn-Arfon yn 1188; a •2Ẅ dyddia Llewelyn Fawr freinlen o'r un man, yn y flwyddyn 1221. Nid oes bellachbrin ammheuaeth nad ein Goresgynwr a osododd sail y dref bresennol. Nis gallasai sefyllfa mor gadarn lai na thynu sylw rhyfelwr mor gyfarwydd ag Iorwerth. Terfyna un ochr ar gulfor Menai, eraill ar aberau Seiont a Chadnant. Dechreuodd Iorwerth ei gastell yn ddioed gwedi darostwng y dy wysogaeth yn 1282 ; ac y mae yn rhaid fod rhan fawr o hono gwedi ei orphen yn nechreu 1284 ; o herwydd ganwyd Ior- werth II. ynddo Ebrill 25ain o'r flwyddyn honno. Adeiladwyd ef ar draul penaethiaid y wlad, er mai yr holl amcan o hono oedd eu cadw hwy mewn arswyd ac ufudd*dod. Parodd y gorchfygwr hefycl