Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYHOEDDEDIG YN ABEEDAE, GAN GWMPEINI Y MEDELWE IEUANC. CYFEOL I. MAWRTH 1, 1871. RHIFYN 3. Y TY CENADOL. ^N y cyfarfod blynyddol a gynnelir yn Llundain yn mis Ebrill nesaf, bydd i L gyfeillion y Gymdeithas Genadol gael hyspysiad o'r holl fanylion am y Ty Cenadol ardderchog sydd wedi eigodiyn Llundain, er bod yn gartref parhaus i Gymdeithas Genadol Dramor y Bedyddwyr; ond gan na fydd ein plant yn Llundain i glywed y mynegiad, ac na fydd i lawer o honynt ei glywed o gwbl, ac na fydd i lawer o honynt gael cyfle i'w ddar- llen ychwaith, yr wyf am nodi rhai ffeithiau am y Ty newydd ac ardderchog hwn. Cafodd y Gymdeithas Genadol ei seí'ydlu yn y flwyddyn 1792, i'r dy- ben o ddanfon dynion da i bregethu yr efengyl arhoddiBeiblaui'rpag- aniaid pell. Ar ben yr hanner can mlynedd wedi sefydlu y Gym- deithas, cynnaliwyd Ju- bili. Ar flwyddyn y Jubili, sef y fiwyddyn 1842, gwnawd ymdrech mawr gan gyfeillion y Gymdeithas i yehwan- egu at drysorfa y Gen- adaeth ; a bu y plant yn ddiwyd iawn yn casglu. Ni fu plant bach Cymru yn ol o wncyd eu rhan ; naddo, ond gweithiasant yn anwyl iawn i godi trys- orfa y Jubili. Ar ben y fiwyddyn cawd swm mawr o arian mewn llaw, a phenderfynwyd eodi colofn goffadwr- iaethol o fiwyddyn y Jubili; a gwnawd hyn trwy godi ty da a chyf- leus iawn er dwyn yn mlaen weithrediadau y Gymdeithas Genadol. Codwyd y ty yn Llun- dain. ac adnabyddid ef wrth 33, Moorgate street. Yno bu y Gymdeithas am lawer o flynyddau, ond yn y man cafodd y pwyllgor gyfie i werthu hwn i'r Gymdeithas. Yr oedd y ty hardd a'r oll o'r dodrefn wedi costi £10,300, a gwerthwyd ef am £19,500 ; felly, darfu i swm mawr o arian gael ei enill. Gosodwyd yr arian yn y Bank yn ofalus hyd yr adeg y buasai y pwyílgor yn alluog i gael tir i godi un arall mewn lle mwy cyfieus nâ chanol y ddinas. Yn y cyfamser cymmerwyd ty yn John street, er trafod gweithrediadau y Gymdeithas. Yn y man, darfu i'r pwyllgor lwyddo i gael lle i'r dyben o godi ty newydd yn Castle street, Holborn, Llundain ; hyny yw, cafodd y pwyll- gor gyfle i brynu nifer o dai, y rhai a allent eu tynu i lawr er codi y ty newydd ar eu lle. Yr oedd y lle hwn yn marn y pwyllgor yn un o'r manau mwyaf cyfleus yn holl Llundain. Mae Castle street yn rhedeg irewu llinell un- ion trwy y pentwr tai sydd yn gorwedd rhwng Holborn a Fleet street. Mae gorsaf y reil- ffordd tanddaearol yn ngodrau Holborn, tra mae dwy linell yr Oinniòuses trwy Holborn a Fleet street yn gwbl gyneus, ac y mae llinell yr Omuibme.s sydd yn tori Llundain yn ei chanol o Ogledd i Ddeheu yn rhedeg trwy Gray's Inn Lane a Chancery Lane, ac felly yn myned heibio y ty newydd o bob cyfeiriad. Mewn gwirionedd, mae safle y ty newydd y mwyaf cyfleus ag oedd modd ei gael yn yr holl ddinas. Am y ty ei hun, y mae yn bob peth a ellir ei ddymuno. Mae y llawr isaf i gyd wedi ei drefnu i ddal nwyddau trymion y Gymdeitbas, lle i bachio y llyfrau, dillad, a phethau ereill i'r cenadon ac i blant bach y paganiaid ; tra mae yma nifer o ystafelloedd helaeth ac eang ag ydynt yn fire-proof'; yma y byddy pethau gwerthfawr perthynol i'r Gymdeitbas, ac yn wir perthynol i'r enwad yn cael eu dyogelu rhag dwfr a than. Mae Cymdeithas Adeil- adu Llundain yn meddu ystafell fawr er dy- ogelu Title Deeds capeli yr enwad rhag un- rhyw berygl yn ol llaw. Ar y llawr nesaf, y mae swyddf äau y swyddogion wedi eu gwneyd yn hollol gyfleus er ateb y pwrpas mewn golwg. Ar y llawr hwn etto mae y liyfrgell, yr hon sydd yn ystafell fawr gyfleus at ddal holl lyfrau y Gymdeithas, a lle i'r aelodau oll gyf- arfod er trafod materion y Genadaeth. Braint nid bychan yw cael treulio ychydig oriau yn y llyfrgell hon, er edrych ar y copiau o Air Duw sydd wedi ei gyfieithu gan ein cenad- on i wahanol ieithoedd y byd. Mae ar y llawr hwn hefyd un ystafell eang a chysurus, yr hon a elwir y waiting room. Mae hon er cysur i'r cyfryw sydd am weled y swyddogion, neu am orphwys er ysgrifenu llythyr neu ddau. Mae y llawr nesaf yn cyn- nwys un ystafell fawr, cyfleus a hardd, Ue y mae y pwyllgor mawr yn cyfarfod—mae hon yn bobpeth ag a cllir ei ddymuno, ac' vii destyn diolchgarwch i bob un sydd yn caru y Genad- aeth. Mae yma hefyd nií'er o ystafelloedd er- eill at wasanaeth yr Jlnìiie a'r Jrisli Missimi, y Gymdeithas Gytìeith- adol,—ac y mae llawr araìl lle mae y teulu yn byw sydd yn gofaìu am y ty a'r gwaliauol sjẃyddfaoedd. Oddi- fewn mae y ty hwn yn glod i'r cynliuuydd a'r adeiladydd. yn ogystal ag i chwaetli y pwyll- gor yn ei ddull o ddewis y dodrefn sydd mor gyfatebol i bob rlian o'r adeilad. Mae yr olwg allanol yn cael ei dangos yu y darlun hardd sydd ar fy ngwyneb lieddyw. Gyfeillion anwyl, edrychwch arno—onid yw yn hardd ? Mae felly, yn wir, ac yr wyf fi yn falch o hono fel darlun o'ch ty chwi, a chartref Ceuadaeth y Bedyddwyr. Mae yna dri adeilad. Yr un mawr uchel sydd yn y canol yw y Ty Cenadol, tra mae y ddau dy, un bob ochr, yn eiddo y Gymdeithas hefyd, Mae y Genadaeth yn derbyn rhent dda iawn am y tai yna, ac y mae hyny yn gyntaf yn talu y ground rerii am y cwbl a swm lled dda dros ben.