Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYHOEDDEDIG YN ABEED.4E, GAN GWMPEINI Y MEDELWE IEUANC. OYPBOL I. MAI, 1871. EHIPYN 5. w^g^ YE HANEE-COEON BENTHYG. ^SNsAHAM yr ydych yn llefain?" dywedai Üj^ Tomi wrtíi fachgen bach carpiog a ^A^ gyfarfyddodd ar ei ffordd wrth fyned gartref o ysgol y peatref. Yr oecld rhywbeth yn y llefain a arweiniodd Torui i feddwl fod yr achos o hono yn ddifrifol. " Yr wyf yn newynog," dywedai y bachgen bach, "ac nis gallaf gael dim idd êi fwyta'?" "Oni rodda eich mam rywbeth i chwi i'w fwyta?" "Nid oes ganddi hi ddim iddi ei hun i'w fwyta; ac mae yn glaf iawn, yn methu d'od o'r gwely." "Pa íe mae eich Tad ?" " Nid oes genyf dad. Mae wedi boddi yn mhell ar y môr." "B'le yr ydych yn byw?" "Lawr yn y fan yna," gan gyfeirio at fwthyn bach truenus ar ymyl ffordd gul heb fod yn mhell. "Dewch gyda fi a mi a fynaf rywbeth i chwi." Tomi a dro'dd yn ol, a'r bachgen bach carpiog a'i canlynodd ef. Yr oedd gan Tomi ychydig ddimeuai, digon i brynu torth o fara, ac efe a wnaeth, ac a roddodd y dorth i'r bachgen bach, a dywedodd wrtho y deuai gydag ef i'r ty." Aeth Tomi i mewn i'r tỳ, a gwelodd wraig brydferth yn y gwely a dau blentyn bach yn wylo wrth ei hymyl. Pan yn agor y drws, efe a glywai yr hynaf o'r ddau fach yn dywedyd, " O! mam, rhoddwch rywbeth i mi i'w fwyta." Peidiasant ag wylo pan ddaeth Tomi a'r bachgen bach eu brawd i fewn. Rhedodd y bachgen bach at y gwely à'r dorth i'w fam, a chyfeiriodd at Tomi, ac a ddywed- odd, " Efe a'i prynodd i mi." " Diolch yn fawr i chwi," ebai y wraig glaf; " bydded i Dduw eich beudithio chwi â bara y bywyd tragwyddol!" Yr oedd y ferch fach hynaf j'n neidio mewn llawenydd, a'r ieuengaf a ymdrechai gael gafael yn y dorth. Sylwch ar y darlun fy mhlant i—gwelwch y fam glaf ar ei gwely tlawd, y bachgen bach yn dwyn y dorth iddi, y fechan fach â'i breichiau bychain ar led mewn awydd cofleidio y dorth, a'r chwaer hynaf mewn llawenydd yn caulyn y dorth a Tomi yn y drws yn sylwi yn ddifrifol ar yr olygfa ryfeddol. Pan welodd Tomi fod braich y weddw glaf yn wan a chrynedig, efe a afaelodd yn y dorth, ac a dorodd ddernyn i'r fechan yn gyntaf, yna i'r ferch hynaf, ac yna i'r bachgeu. Efe a roddodd y dorth drachefn i'r weddw, a hi a gymmeith ychydig o honi, yna cauodd ei llygaid, ac yr oedd yn ym- ddangos ei bod mewn gweddi ddystaw. "Ehaid ei bod yn un o dlodion yr Ar- glwydd," meddai Tomi ynddo ei hun, "myfi a âf ac a fynaí' rywbeth arall i chwi yn fuan," ac efe a aeth ymaith. Efe a aeth i dy Mrs. Jones, oedd yn byw yn yr ymyl, ac a ddywedodd yr holl hanes wrthi, a hi a ddanfonodd ar unwaith laeth, bara, tè, a siwgr, a gair hefyd i ddweyd y byddai iddi ymweled â'r teulu tlawd yn fuan. Yr oedd gan Tomi Haner Coron gartref, ac yr oedd yn awyddus iawn i'w roddi i'r wraig dlawd. Ei dad oedd wedi ei roddi iddo am fugeilio y defaid, ac yr oedd wedi dweyd wrtho am beidio ei wario, ond ei roddi allan ar log i gael dechreu gwneyd business. Gwyddai Tomi na fyddai ei dad yn foddlon