Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

CYHOEDDEDIG YN ABEBDAR, GAN GWMPEINI Y MEDELWR IEUANC. CYFEOL I. HYDREF, 1871. RHIFYN 10. •■ MI ANNGHOFIAIS." ^âR oedd bachgenyn unwaith o'r enw Edwin, yr hwn a garai fod yn fach- gen da, ond yr oedd yn aml yn ddiofal ac esgeulus ; a phan y gofynid iddo o berthyn- as i hyny, dywedai, " 0, annghofiais." Dy- wedai ei dad wrtho un diwrnod, ei fod wedi darllen am ffordd i beru iddo gofio yn well. Allan yn y buarth (ynrrf) yr oedd post mawr gwyn, a bwriadai gadw cyfrif ar hwnw. Bob tro y gwnai Edwin ryw drosedd, gyrai y tad hoel i'r post, fel y gallai yr hoel- ion mawrion ddangos iddo bob tro yr oedd wedi annnhofio gwneyd yn iawn. Yn mhen ychydig wythnosau, yr oedd torf fawr o hoelion wedi cael eu gyru i'r post. Edrychai Edwin yn brudd iawn wrth weled cynnifer mor fuan, ac ymdrechai yn mhob modd i fod yn woll. Dywedai ei dad wrtho y gyrai hoel o hyny allan am bob trosedd, ac y tynai un allan am bob gweithred dda o'i eiddo. Am dymhor, arosodd y rhifedi tua'r un faint: rhai yn cael eu tynu ymaith, ac er- eill yn cael eu gosod i mewn. Ond yn mhen ychydig fisoedd, nid oedd un hoel yn aros yn y post. Un diwrnod, aeth y tad allan a chaufu Edwiu yn eistedd yn brudd iawn ei agwedd wrth ochr y post, fel y dengys y dar- lun. " Fy mab, beth sydd yn bod ?" Ni wnaeth Edwin ddim ond edrych at y post. " Ond fy mab, mae yr hoelion oll wedi cael eu tynu ymaith." " Ydynt fy nhad, ond mae eu hol yna etto." Ydyw, y mae tyllau du- on ar y post gwyn yn aros i adgofio Edwin o'i golliadau. Dy- wedai ei dad ei bod felly gyda ei galon ef hefyd. " Yn wir," ychwanegai ei dad, " os yw hol yr hoelion ar y darn pren yn eich gofidio, pa fodd y teimlech pe gwelech eich calon fel y mae Duw yn ei chanfod, oll yn afian, ac yn llawn o nodau pechod. Peidiwch annghofio. fy machgen anwyl i anfon y weddi ganlynol yn aml at Ddnw—" Crea gralon lan ynwyf, 0 Dduw, ac adnew- ydda ysbryd uniawn o'm mewn." Yr Iesu yn unig all eich helpu i fod yn fachgen da, a gwna hyny hefyd, os ymddiriedwch yn- ddo.'" Cafodd y wers hynod yma ddylanwad mawr ar feddwl a chymmeriad Edwin. Arosodd ei delw ar ei feddwl hyd ei fedd. Bu yn foddion i'w wneyd yn ddyn gofalus a phwyllog. Boed i ddar- llenwyr ieuainc y Medelwr wneyd yn fawr o'r un wers hefyd, a sicr yw y gwna les mawr a pharhaus iddynt.