Cylchgronau Cymru

Chwiliwch trwy dros 450 o deitlau a 1.2 miliwn o dudalennau

Y BEDYDDIWR. Cyf. III.] CHWEFROR, 1844. [Ruif 26. BRASLUN 0 EYWYD Y PARCH. EDWARD DAVIES, Gweinidog y Bedyddwyr yn y Maesteg. GAN JOHN JAMES, PENYBONT. Anwyl Olygypd.— Ak daer gais cyfeillion i'r hen frawd yiuadaweíìig, Mr. Edward Davies o'r Maesteg, «erllaw Penybont, Morganwg, yr wyf yn anfon atoch yr ysgrif hon, pa un sydd yn cynnwys braslun o'i fywyd, fel y gaîloch ei hargrattu ynY BEDrDDlWR,er coffâd daionus am y gwas hwr» i'r Arglwydd. Nid oeddwn yn meddu ond ar wybodaeth fechan ac anmherffaith o'r brawd, eithr mi a wnaethum orea y gallwn ó'r defnyddiaa a gefais. Yr oedd ychydig o ysgrif- eniadau anmherríaith wedi eu casglu ganddo ef ti hnn; a chan nad oedd efe yn adnabyddus ond o fewn cylch bychan, nac unrhyw nodweddiad neillduol iawn yn ei fywyd, bernais mai gwell oedd i'r hanes lod yn fyr—ac wele y cyfryw at eich ystyriaeth. Ganwyd Mr. Edward Dayies yn Lîan- illtyd Fawr, bro Morganwg, Hydref 28, 17G9, ac yno y treuliodd y 35 mlynedd gyntaf o'i fywyd, yn dilyn y gelfyddyd o Gryddiaeth. Nid oes dim yn nodedig yn ei hanes am yr ugain mlynedd cjntaf, ond iddo fyw yn ol heiynt y byd hwn, yn ol tywysog Uywodraeth yr awyr. Cawn ad- roddiad eglur a phendant am ei argyhoedd- iad ef, a'i ddygiad at grefydd. Dywedir fod y diweddar Barch. David Powell, gweinidog y Bedyddwyr yn y Nottage a'r Wîg, wedi ei wahodd i Lanilltyd i breg- ethu; llwyddodd un Thomas Lewis, aelod gyda'r Bedyddwyr, yr hwn oedd was gydag un Mr. Meyrick, ysgolfeistr, i gael lle iddo ; ac ar ddydd Nadolig, 1789, pregethodd Mr. Powell y tro cyntaf; a bendithiodd Duw y bregeth hòno iargyhoeddi E. D., j'n nghyda merch ieuangc o'r un lle; ac o hyny allan efe a lwyr-ymroddodd i geisio yr Arglwydd, ac J'mwasgodd â'r Bedyddwyr yn y Wîg. Dyma ddechreuad y Bedyddwyr yr oes hon Cyp. III. yn Llanilltyd. Yn y mis Ebrill canlynol, bedyddiodd Mr. Powell wrthddrycli ein cofiant, yn nghyda'r ferch grybwylliedig, yn Monk Nash, a derbyniwyd y ddau yn aelodau yn y Nottage, 1790. Bedj'ddiwyd merch arall o Llanilltyd yn mis Medi. Adroddir am weinidogaeth ein brawd. Yn mhen tair blynedd, yn mis Tachwedd, 1793, efe a gafodd annogaeth gan yr eglwys i arferyd ei ddoniau; ac felly y bu efe yn gynnorthwywr i Mr. Powell yn y Nottage a'r Wìg, ac wedi hyny i'r Parch. David Richard yn y Wîg a Chortwn, nes iddo ef sjmud i Dredegar. Yn mis Ebrill, 1804, cafodd lythyr goll- yngdod o Gortwn i fjned i Dredegar, ac yn y mis Awst canlynol cafodd ei urddo j-n fugail ar yr eglwys yn Nhredegar, a'r brawd Mr. Josuah Thomas yn gynnorth- wj-wr iddo ef. Y gweinidogion a weinias- ant ar ýr achlysur oeddent y brodyr J. Lewis, Llanwenarth; D. Richards, Caer- ffili; J. Evans, Penygarn; a J. Hier, Casbach. Bu yn Nhredegar 12 mlj-nedd, yn llafurio gyda sêl, diwj'drwydd, a ffydd- londeb ; ac ymddengys ei fod ef yn dder- byniol iawn yno, a'r cymmydogaethau, ac yn dra llwyddiannus; a thebygol mai yn yr ysbaid hyn y bu efe fwyaf blodeuog a phoblogaidd yn ei oes—a chynnyddodd yr eglwys yn fawr me^vn rhifedi. Eu rhif, pan aeth efe yno, oedd 34; ond pan yr ymadawodd, yr oeddynt yn 200 o rifedi. Yn y flwyddyn 1816, efe a benderfynodd i ymadael à Thredegar, ac a ymroddodd i gymmeryd gofal yr eglwys Gymreig yn Nghaerodor, {Bristol). Bu yn pregethu